1A’ Gwedy dyuot yr Iesu y mywn a’ myned trwy Iericho,
2wely’wr a elwit ei envv Zacchaius, a hwn oedd ben‐cais‐y deyrnget, a’ goludawc ydoeð.
3Ac ef a geisiai weled yr Iesu, pwy vn ydoeð, ac ny’s gallai gan y dorfa, cā nad oeð anyd bychan o gorpholeth.
4Yno y racredawð ef o’r blaen ac a ðringiawð i fficuspren‐gwyllt, y gahel y weled ef: can ys ffordd hono y dawei.
5A’ phan ddaeth yr Iesu ir lle, yð edrychawdd y vynydd ac ei gweles ef, ac y dyuot wrthaw, Zacchaius, descend ar vrys: can ys heddyw ’mae yn ðir i mi aros yn dy duy di.
6Yno y descendawdd ef ar ffrwst, ac y derbyniawdd ef yn llawen.
7A’ phan ei gwelsant vvy oll, murmuro a wnaechant, gan ddywwedyt, vyned o hanaw y letuyaw at ’wr pechaturus.
8A’ Zacchaius a safawð racddavv, ac a ddyuot wrth yr Arglwydd, Wely, Arglwydd, haner vy‐da a roddaf yn avvr ir tlodion: ac a’s dugym ddim y ar nep trwy hocced, mi ei talaf yn bedwar plyc.
9A’r Iesu a ðyuot wrthaw, Heddyw y daeth iachydurieth i’r tuy hwn, o herwydd iddo ef ddyuot yn vap i Abraham.
10Can ys‐daeth Map y dyn y gaisiaw, ac y gadw yr hyn a gollessit.
11Ac a’n hwy yn clywet y pethae hyn, y paraodd yn dywedyt parabol o bleit ei vot yn gyfagos i Gaerusalem, ac o bleit hefyd ey bot yn tybiet mai eb ohir yr ymddangosei teyrnas Duw.
12Ef a ddyuot gan hyny, Ryw wr boneddic ai y ymdaith y wlat bell, y dderbyn iddo deyrnas, ac a dauei drachefyn.
13Ac ef a alwei am ei ddec gwasion, ac a roddes atyn ddec darn o vath, ac a ddyuot wrthynt, Marchnatewch y’n y ddelwyf.
14Eithyr ei ddinaswyr y caseynt ef, ac a ddanvonesont genadvvri ar y ol ef, gan ddywedyt, Ny vynnwn ni vot hwn yn teyrnasu arnam.
15Ac e ddarvu, pan adchwelawdd, a’ derbyn ei deyrnas, yno y gorchymynawdd ’alw ei weision ataw, at yr ei y roddesei ei arian, val y cay wybot beth elwesei pop vn.
16Yno y daeth y cyntaf, gan ðywedyt, Arglwydd, dy darn a elwodd ddec-darn.
17Ac ef a ddyuot wrthaw, Oi was da: can ys‐buost yn ffyddlawn yn echydigyn, cymer veddiant ar ddec dinas.
18Ac e ddaeth yr ail, gan ddywedyt, Arglwydd, dy darn a elwodd bemp darn.
19Ac wrth hwnw y dyuot, A’byð dithe lywiawdr ar ucha pemp dinas.
20Ac arall a ddaeth, gan ddywedyt, Arglwydd, nycha dy darn, yr hwn oedd genyf wedy ddody y gadvv mewn ffunen.
21Can ys‐ith ofnais, o bleit dy vot yn wr dirfing: ti gymery i vyny, yr hyn ny ddodeist i lavvr, ac a vedi ’r hyn ny heuaist.
22Yno y dywedawdd wrthaw, Oth enae dyhun ith varnaf, was drwc. Gwyddyt’ vy‐bot i yn ’wr dirfing yn cymeryd i vyny hyn ny ddodwn i lavvr, ac yn meti hyn ny heuwn.
23Paam gan hyny na roddyt’ vy arian i’r vord, val y gallwn pan ðelwn, ei gofyn y gyd ac elwant?
24Ac ef a ddyuot wrth yr ei a sefynt geyr‐llaw, Dugwch y ganto y ddarn, a’ rhowch i hwn’sy a’r dec darn ganthaw.
25(A’ hvvytheu a ddywedcsont wrthaw, Arglwydd, y mae ganto ddec darn.)
26Eb yntef, Can ys dywedaf wrthych, taw i bawp y may gantho, y rhoddir: ac y ar hwn nyd yw gantho, ys yr hyn ’sy ganto, a ddugir o ddyarnaw.
27A’hefyt vy‐gelynion hyny, a’r ny vynnent deyrnasu o hanof arnaddynt, dugwch yma, a’ lleddwch wy geyr vy‐bron.
28A’ gwedy y‐ddaw ddywedyt val hyn, ef aeth y ymddaith o’r blaen, gan escend i Gaerusalem.
29Ac e ddarvu gwedy nessau o hanaw at Bethphage, a’ Bethania, wrtn y mynyth a elwir myn ydd yr olew‐wydd, e ddanvonawdd ddau o ei ddiscipulon,
30gan ddywedyt, Ewch i’r dref ’sy gyferbyn a chvvi, ir hon, gwedy y deloch, y ceffwch ebol wedy rwymo, ar yr hwn nyd eisteddawdd dyn erioed: gellwngwch ef, a’ dugwch yma.
31Ac a’s gofyn neb y chwi, paam y gillwngwch ef, vellhyn y dywedwch wrthaw, O bleit bot ar yr Arglwydd ei eisiae.
32Yno yr ei a ddanvonit, aethant ymaith, ac a gawsant megis y dywedesei ef wrthwynt.
33Ac a’n hwy yn gellwng yr ebol, y dywedawdd ei berchenogion wrthynt, Paam y gel’yngwch ’yr ebal?
34Ac wy a ddywedesant, Y mae ar yr Arglwydd ey eisiae.
35Yno y ducesont ef at yr Iesu, ac y bwriesont ei dillat ar yr ebal, ac y dodesont yr Iesu aruchaf.
36Ac a’n hwy yn myned, y tanent ei dillat ’rhyd y fford.
37A’ gwedy yddaw ddynesau at ddescenfa mynydd yr olew‐wydd, y dechreawdd oll lliaws y discipulon lawenhau, a’ moly Duw a llef uchel dros yr oll veddiannae a welesynt,
38gan ðywedyt Ysgwynvydedic y Brenhin ’sy yn dyuot yn Enw yr Arglwydd: tangneddyf yn y nef, a’ gogoniant yn y lleoedd vchaf.
39Yno ’r ei o’r Pharisaieit o’r dorfa a ddywedesont wrthaw, Athro, cerydda dy discipulon.
40Ac ef a atepawdd, ac a ddyuot wrthwynt, Dywedaf y‐chwy, pe’s tawei ir ei‐hyn, ys llefai y’r main.
Yr Euangel y x. Sul gwedy Trintot.
41¶ Ac wedy iddo ddyuot yn agos, ef edrychawð ar y dinas, ac a wylawdd drosdei,
42gan ddywedyt A’ phebysei i ti wybot, or lleiaf yn dy ðydd di hwn yma y pethae hyny a perthynant ith dangneddyf, onid yr awrhon wy guddiwyt y wrth dy lygait.
43Can ys e ddaw ’r dyddiae arnat, ac y bwrw dy ’elynion glawdd yn dy ’ogylch, ac ith amgylchynant, ac ith ’oarchaeant o pop-parth,
44ac a’th wnāt yn gyd oystat ar ddaiar, ath plant ’sydd ynot, ac ny adant ynot vaen ar vaen, can na adnabuost amser dy ofwy.
45Ac ef aeth y mewn ir Templ, ac a ddechreawdd, ddavly allan yr ei ’n oeddent yn yn gwerthy ynthei, a’ rei oedd yn pryny,
46can ddoedyt wrthwynt, Escrivenuwyt, Y tuy meu vi yw tuy gweddi, a’ chwi ei gwnethoch yn ’ogof llatron.
47Ac ydd oedd ef yn eu dyscu beunydd yn y Templ.
A’r Archoffeiriait, a’r Gwyr‐llen, a phenaethae ’r popl a geisiesōt y ðifa ef.
48Ac ny chefynt beth a wnaent iddaw: can ys yr oll popul ymlynent wrthaw, pan glywent ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.