1. Corinthieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen ij.Y mae ef yn rhoi yn lle esempl y

ðull ef ar precethu, yr hyn oedd ar ol ffurf yr Euangel, yr hon oedd yn ddirmygus ac yn guddiedic i’r dyn cnawddol. A’ thrachefn yn anrydeddus ac yn amlwc ir sprydol.

1AC mivi, vroder, pan ddaethym atoch, ny ddeuthym a’ ragoriaeth ymadrodd, neu ddoethinep, gan venegy ywch’ destoliaeth Duw.

2Cā na thybiais i vot yn wiw gwybot dim yn eich plith, o ddieithyr Iesu Christ, ac yntef wedy ei grogi.

3Ac ydd oeddwn yn eich plith yn‐gwendit, ac yn ofn, ac yn‐echryn mawr.

4Ac nyd oedd vy araith a’m preceth yn sefyll yn‐geirae denu doethinep dynawl, anyd yn eglur ddangosiat yr Yspryt, a’ nerth,

5val na byddei eich ffydd yn‐doethinep dynion, anyd yn nerth Duw.

6A’ doethinep a ddywedwn ym‐plith yr ei perfeith: nyd doethinep y byt hwn, na doethinep tywysogion y byd hwn, yr ei a ddervydd am danynt.

7Eithyr nyni a adroddwn ddoethinep Duw y sy yn‐dirgelvvch, sef y doethinep oedd guddiedic, ac a racdervynawdd Duw cyn yr oesoeð, i’n gogoniant ni.

8Yr hwn ddoethinep ny’s adnabu nep o dywysogion y byt hwn: can ys pe’s adwaenesent, ny chrogesont wy Arglwydd y gogoniant.

9Eithyr megis y mae yn scrivenedic, Y petheu ny welas llygat, ac ny chlywoð clust, ac ny’s daeth y mewn calō dyn, ynt, a baratoawð Duw ir ei y carant ef.

10A’ Duw y datgyddiawdd hwy y ni gan y Yspryt ef: can ys yr Yspryt a chwilia bop peth, a’ phetheu dyfnion Duw.

11Can ys pa ddyn a edwyn betheu dyn, dyeithr yspryt dyn, yr hwn ’sy ynddo ef? ac velly petheu Duw nyd edwyn nebun, anyd Yspryt Duw.

12A’ nyni ny dderbyniesam, yspryt y byt anyd yr Yspryt, ysydd o Dduw, val yr adnabyddem y petheu a roddwyt y‐ni y gan Dduw.

13Yr hyn betheu hefyt a ymadroddwn, nyd yn y geiriae ’ðengys doethinep dynol, anyd yr ei a ðengys yr Yspryt glan, gan gyffelypu petheu ysprytol y betheu ysprytol.

14Eithyr y dyn anianol ny chynwys betheu ’sy o Yspryt Duw: can ys ynfydrwyð ynt ganto ef: ac ny ðychon ef eu hadnabot, can ys yn ysprytol eu dosperthir.

15Eithr yr hwn ’sy sprytol, a wyr varnu pop peth: ac yntef ny vernir y gan nebun.

16Can ys pwy a wybu veddwl yr Arglwydd, val y gallei y gygori ef? anyd y mae genym ni’ veddwl Christ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help