1YNo y galwodd ef y dauddec discipul ynghyd, ac a roes yddynt veðiant ac auturtot ar ucha yr oll cythraelieit, ac y iachau heintie.
2Ac y danvonawð hwy i precethu teyrnas Duw, ac i iachau ’r cleifion.
3Ac ef a ddyuot wrthynt, Na chymerwch ddim ich taith, na gvviailffyn, nac yscrepan, na bara, nac arian, ac na bo ychwy, ddwy bais.
4A’ pha tuy pynac ydd eloch iddo, yno yr aroswch, ac o ddynaw yr ymadewch.
5A’ pha ’rei pynac ny’ch derbyniant, pan eloch allan o’r dinas hono, escutwch ys y llwch y wrth eich traet yn testiolaeth yn y herbyn hwy.
6Ac wy aethant allan, gan vyned trwy bop tref ac Euangelu, ac iachau ym‐pop lle.
7Yno clybot o Herod y Tetrarch son am yr oll pethae a wnethesit canthaw: a’ phetruso, can ys dywedyt gan ’r ei, adgyvodi o Ioan o veirw:
8a chan ’r eiae, ymðangos o Elias: a’ chan ereill mai vn o’r hen Prophwyti a adgodesei.
9Yno y dyuot Herod, Ioan a doreis i ei ben: pwy yntef yw hwn y clywaf gyfryw pethae am danaw? ac ef a geisiawdd y weled ef.
10A’ gwedy addychwelyd yr Apostolon, y manegesont ddaw veint bethae a wnaethoeddynt. Yno y cymerth ef wynt, ac y tynnawdd o’r neilltu i le diffaith geir ’lavv dinas a elwit Bethsaida.
11A’ phan ’wybu ’r popul, ys dilynesont ef: ac ef y derbyniawdd wy, ac a lavarawdd wrthyn am deyrnas Duw, ar ei oedd arnyn eisiae y hiachau, a iachaodd ef.
12A’ phan ddechreawdd y dydd ðarvot, y daeth y dauddec, ac y dywedesont wrthaw, Gellwng ymaith y popul, val yr elont ir trefi a ’r pentrefi o ddamgylch, a’ lletuya, a’ chael bwyt: can ys yma yð ym yn lle diffaith.
13Ac ef a ðyuot wrthynt, Rovv‐chwi yðynt beth yw vwyta. Ac wythe a ðywedesōt, Nyd oes genym ni tros pemp torth a’ dau byscodyn, o ddyeithr i ni vyned a’ phrynu bwyt i’r oll bopul hyn.
14Can ys ydd oeddent yn cylch pemp‐mil o gwyr. Yno y dyuot ef wrth ei ðiscipulon, Perwch yddyn eistedd y lavvr, bop dec wyr ad’augain mewn eisteddfa.
15Ac velly y gwnaethant, ac ei gesodesont vvy y eisteð oll.
16Yno y cymerth ef y pemp torth, a’r ddau pyscodyn, ac a edrychoð y vynydd ir nef, ac ei bendigawdd, ac ei torawdd, ac ei rhoes ir discipulon y’w gesot rac bron y popul.
17Yno bwyto o hanynt bawp, a’ chael digon: ac e godwyt a’r a weðillesei ganthynt, dauddec bascedeit o vriwvwyt.
18A’ darvu, wrth y vot ef y hun or neulltu yn gweddiaw, yr oedd ei ddiscipulon y gyd ac ef, ac ef a ’ovynnawdd yddynt, can ddywedyt, Pwy ’n með y populoedd yw vi?
19Wythe atepesont ac a ddywedesont, Ioan Vatyddiwr: a’ rei a ddyvvait mai Elias: ac ereill a ddyvvait mai vn o’r Prophwyti gynt a godes drachefyn.
20Ac ef a ddyuot wrthynt, A’ phwy ’n medd‐y chwi ytyw vi? Petr a atepawð ac a ddyuot, Y Christ y Duw.
21Ac ef y rubyddiawð ac a ’orchymynawdd yddynt, na ddywedynt hyn wrth nebun,
22gā ddywedyt, Can ys dir yw i Vap y dyn ddyoddef llawer oedd a’ei argyweddu y gā yr Henaifieit, a’ chā yr Archoffeiriait, a’r Gwyr‐llen, a’ ei ladd, a’r trydydd dydd adgyuody.
23Ac ef ddyuot wrthyn oll, A’s ewyllysa nep ðyuot ar v’ol i, ymwadet ehun, a chymeret ei groc beunydd a’ dylynydd vi.
24Can ys pwy pynac a ewyllyso cadw ei einioes, ei cyll; a’ phwy pynac a gyll ei einioes om pleit i, hwnw ei caidw.
25Can ys pw leshat i ddyn, pe’s enillei’r oll vyt, a’ ei golli ehun, neu ddarvot am dano ehun?
26Can ys pwy pynac a gywilyddio om pleit i, am gairiae, o bleit hwnw y cywilyddia Map y dyn, pan ddelo yn ei ’ogoniant, ac yn gogoniant y Tat, a’r sainct Angelon.
27A’ dywedaf wrtwych ’yn ddiau, Y mae r’ ei yn sefyll yma, a’r ny’s ’orchwaeðant o angae, nes yddyn weled teyrnas Duw.
28Ac e ðarvu yn‐cylch pen wyth diernot gwedy y gairiae hyny, ac e gymerth Betr, ac Ioan, ac Iaco, ac a escendawdd ir mynyth i weddiaw.
29Ac val yr oedd ef yn gweddiaw, y newidiwyt gwedd y wynepryd ef, a’ ei wisc oedd yn wen, ac yn ysplendydd.
30A’ nycha, ddau ’wr yn cydymddiddan ac ef, yr ei oeð Moysen ac Elias.
31Yr ei a ymddangosent yn‐gogoniant, ac a ddywedesont am ei drancedigaeth, yr vn a gyflawnei ef yn‐Caerusalem.
32A’ Phetr a’r ei oeddd y gyd ac ef, oedden drymion gan hunaw, a’ phan ddihunesont, wy welsant y’ ogoniant ef, a’r ddau wr yn sefyll y gyd ac ef.
33Ac ys darvu, a’ hwy yn ymadael ywrthaw, Petr a ddyuot wrth yr Iesu, Y llywiawdur, ys tec yw i ni vod ymā, gwnawn gan hyny dri phepyll, vn i ti, ac vn i Voysen ac vn i Elias, ac ny wyddiat pa beth a ddywedei.
34Ac ef yn ymadrodd val hyn, y daeth wybren ac y gwascotawdd hwy, ac wy a ofnesōt pan oedd yr ei hyn yn myned y mewn ir wybren.
35Ac e ddaeth llef allan o’r wybren, yn dywedyt, Hwn yw vy Map y caredic, clywch ef.
36A’ gwedy darvot y llef hono, y cahad yr Iesu yn vnic: ac wy nyd ynganesont, ac ny vanegesont i nebun yn dyddieu hyny ddim o’r pethae a’ welsynt.
37A’ darvu ar y dydd nesaf, ac wy yn dyuot y wared o’r mynyth, yr oedd llawer o popul yn cyfarvot ac ef.
38A’ nycha, ’wr o’r dyrfa a ddolefawdd, gan ddywedyt, Athro, adolwyn yty, edrych ar vy map: can ys vy vn‐map y gyd ydyw.
39A’ nycha, yspryt y cymer ef, ac yn ddysumwth y llefa, ac ef ei rhwyg, y ny valo‐ewyn a’ braidd yr ymedy ac ef gwedy iddaw ei sigo,
40A mi adolygais ith ddiscipulon y vwrw ef allan, ac ny allent vvy.
41Yno yr atepawdd yr Iesu, ac y dyuot, A genedleth amffyddlawn a’ throvaus, pa hyd bellach y byddaf y gyd a chwi, ac ich dyoðefaf? Dwc yman dy vap.
42A’ thra ytoeð ef yn dyuot, y rhwygawð y cythraul ef, ac y drylliawdd: a’r Iesu a gerydawdd yr yspryt aflan, ac a iachaoð y bachcen, ac y rhoes ef at ei dat.
43A’ brawychy a wnaethant oll gan vawredic veðiant Duw: ac a ’n wy oll yn ryveddu am yr oll pethe a wnethesei ’r Iesu, y dyuot wrth ei ddiscipulon,
44Clustymwrandewch y gairiae hyn: can ys‐dervydd y, rhoddir Map y dyn yn‐dwylo dynion.
45Eithyr ny ddeallesont wy ’m ’or gair hwnvv: can ys cuddietic oedd racddynt, val na synniēt ddim hano: ac ofnent ymofyn ac ef y peth hwn.
46Yno y cyuodes dadl yn y plith wy, pwy ’n o hanaddynt vyddei ’r mwyaf.
47Pan welas yr Iesu veddyliae y calonae, ef a gymerth vachcenyn, ac ei gesodes yn ei emyl,
48ac a ddyuot wrthynt, Pwy pynac a dderbyn y bachcenyn hwn yn vy Enw i, ’sy im derbyn i: a’ phwy pynac am derbyn i, a dderbyn hwn am danvones i: can ys hwn ’sy leiaf yn eich plith chvvi oll, hwnw a vydd mawr.
49Ac atepodd Ioan, ac a ddyuot, Y llywiawdur, ni welsam vn yn bwrw allan gythraelieit yn dy Enw di, ac ei goharddesam, can nad yw ith ddilyn y gyd a ni.
50Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Na ’vv ’oherddwch ef ddim: can ys yr hwnn a’r nyd yw yn ein erbyn, y sy y gyd a ni.
51Ac e ddarvu, gwedy cyflawny y dyddiae val y cymerit ef y vynydd, ef a ddirgyfeiriodd ei wynep i vyn’d i Gaerusalem,
52ac a ddanvones genadon oei vlaen: ac wy gerðesont, ac aethont i dref y Samarieit, y baratoi iddo letuy.
53A’ hwythe ny’s derbynynt ef, can vot y wynebiat ef val yn myned i Gaerusalem.
54A’ phan welawdd ei ddiscipulon Ioan ac Iaco hyny, y dywetsont, Arglwydd a ewyllysy di ’orchymyn o hanam ar ddescend tan o’r nef, a’ ei difa hwy, megis y gwnaeth Elias?
55A’r Iesu a droes, ac y ceryddawdd wy, ac a ddyuot, Ny wyddoch o ba yspryt yð ychwi.
56Can na ðeuth Map y dyn i y golly einioesoedd dynion, eithyr y’vv cadw. Yno ydd aethon i dref arall.
57Ac e ddarvu a’ hwy yn myned rhyd y ffordd, y dyuot nebun wrthaw, Mi ath ddilynaf, Arglwyð, i b’le bynac ydd elych.
58A’r Iesu a ddyuot wrthaw, Ir llwynogot y mae dayerydd, ac i adar y nef y mae nythot, ac i Vap y dyn nyd oes lle i roi ei ben i lawr.
59Ac ef a ddyuot wrth vn arall Dilyn vi. Ac yntef aysyganei, Arglwydd, goddef i mi yn gyntaf vyned a’ chladdu vy‐tad.
60A’r Iesu a ddyuot, wrthaw, Gad ir meirw gladdu ei meirw hvvy: a’ do’s tithe a’ phrecetha deyrnas Duw.
61Yno eb yr vn arall, Dylynaf di, Arglwydd: and gad i mi yn gyntaf vyn’d a’ chanu yn iach ir ei sy i’m tuy.
62Ac wrtha y dyuot yr Iesu, Nid oes nebun a’r a ddyd ei law ar yr aratr, ac a edrycho ar bethe y tu cefyn yn gyfaddas i deyrnas Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.