Gweledigeth 9 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ix.1 Y pempet ar chwechet Angel yn canu ei trwmpie: y seren yn cwympo or nef. 3 Y locustae yn yn dyvot allan or mwg. 12 Bot y gwae cyntaf gwedy mynet heibio. 14 Darvot gellwng yn rhyð y petwar Angel y oeðent yn rwym, 18 A’ lladd y drydedd ran y dynion.

1AR pymed Angel y ganoeð ar trwmped, ac mi welais seren yn cwympo or nef yr ddayar, ac yddo ef y rrowd agoriad y pwll heb waylod.

2Ac ef agoroð y pwll heb waylod, a’ mwg y gyfodoedd or pwll, mal mwg ffwrneis vawr, ar haul, a’r wybr y dywyllwyd gan mwg y pwll.

3A’ locustae y ddeythont ar y ddayar or mwg allan, a gallu y rroet yddynt hwy, mal y may gallu gan scorpionae y ddayar.

4A’ gorchymyn y rroed yddynt, na waethent gwellt y ddayar, na dim glas, nac vn pren: ond yn inyc y dyniō oyðent heb sel Ddyw yny talceni.

5A’ gorchymyn y rroed yddynt na ladden y rreini, ond yddynt anesmwytho arnynt pym mis a’ bod poen y hwynt mal poen y vei o vvaith scorpion, pan darfyddei yddo brathy duyn.

6 Ac yn dyddiey hyny y dynion y geisiant marfolaeth, ac ny chywrddant a hi, ac y chwenychant veirw a marfolaeth y gila rracddynt.

7A’ llyn y lacustae oedd debic y veirch gwedy paratei y rryvel, ac yr oedd ar y peney mal coronae yn debic y aur ae, hwynebey hwynebe yn debic y dynion.

8A’ gwallt oedd ganthynt, mal gwallt gwrageð, ae danedd oeddent mal damedd llewod.

9Ac yr oedd ganthynt lurigae, mal llurigae haiarn: a lleis y hadeynedd oedd debic y leis siaredey yn rredec gan lawer o veirch y rryfel.

10A’ chynfonney oedd yddynt, mal y scorpionae, ac yny cynffoney y rroeddent conynney, ae meddiant hvvynt oedd y ddrygu dynion pym mis.

11Ac y mae ganthynt vrenin arnynt, yr hwn ydiw Angel y pwll heb waylod, ae euw ef yn Ebryw ydyvv Abaddon, ac yn‐gryw ef y enwyr, Apollyoon.

12Vn gwae aeth heybio, a’ syna, y may doy wae yw ddyfod rrac llaw.

13¶ Ar chweched Angel y ganoedd y trwmpet, ac mi glyweis lleis oddiwrth pedwar corn yr allor aur, y sydd gayr bron Dyw,

14Yn dywedyd yr chweched Angel, oeð ar trwmpet gantho, Gillwng y pedwar Angel, y rrein ydynt yn rrwym yn yr afon vawr Euphrates.

15Ar pedwar Angel y ellyngwyd, y rrein y ymbarattowdd yn erbyn awr, yn erbyn diwrnod, yn erbyn mis, ac yn erbyn blwyddyn y ladd trayan y dynion.

16A’ rrif gwyr meyrch y llu, oedd igeyn mil o weithiey deng mil: can ys mi glyweis y rrif hwynt.

17Ac mal hyn y gweleis i y mairch mewn gweledigaeth, ac yr rydoedd gan rrei oeddent yn eiste arnyt, lurigae tāllyd, ac o livv’r hyacinct a brwmstan, a’ pheneyr mairch oeddent megis penney llewod: ac yn mynd allan oe geneye, tan a’ mwg a’ brwmstan,

18A’ thrayan y dynion y las gan y tri yma, ’sef gan y tan ar mwg, a’r brwmstan, y rrein y ðoyth allan oe geneue hwynt.

19Can ys y gallu hwynt ’sydd yn y geneyey, ac yny cynffoney: can ys y cynffoney hwynt oeddent debic y seirph, a pheney ganthynt, ar rrei hyn yrroeddent yn drygu.

20A’ relyw or dynion ny las gan y plae hyn, ny chymersont etyfeyrwch am weithredoedd y dwylaw y beydiaw ac addoli cythreylied, a delwey aur ac arian, a’ phres, a’ mein, a’ phrene, yrren ac ny allant gweled, na chlywed na cherdded.

21Ac ny chymersont hevyd etifeyrwch, am y mwrddwr, nae y cyfareddion, nae y godineb, nae y lledradeu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help