Marc 9 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ix.Ymrithiat Christ. Bot yn iawn y wrando ef. Bwrw allan yr yspryt mut. Grym gweddi ac vmpryd. Am varwoleth a’ chyuodiat Christ. Y ddadl pwy a vyddei vwyaf. Na rwystrer ar rediat yr Euangel. Gohardd camweddae.

1AC ef a ddyvot wrthwynt, Yn wir y dywedaf wrthych, pan yvv bot r’ei o’r sawl ’sy yn sefyll yman, a’r ny’s archwayddant o angae yd pan welont. Deyrnas Duw, yn dyvot yn ei nerth.

2Ac ar ben chwech diernot gwedy y cymerth yr Iesu Petr, ac Iaco ac Ioan, ac aeth a’ hwy i vynydd i vonyth vchel or nailltu wrthyn y hunain, ac ef a ymrithiodd geyr y bron wy.

3A’ ei ddillat a ddysclaeriawdd, ac oedden dra channeit val yr eiry, mor ganneid na vedr neb pannydd ar y ddayar ei gwneythy ’r.

4Ac a ymddangoses yddynt Elias ef a Moysen, ac ydd oeddent yn ymddiddan a’r Iesu.

5Yno ydd atepodd Petr, ac y dyuot wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni vot yman: a’ gwnawn i ni dri phebyll, vn y ti, ac vn i Voysen, ac vn i Elias.

6An’d na wyddiat ef beth yr oedd yn ei ddywedyt: can ddarvot yddyn ddechryyny.

7Ac ydd oedd wybrē a’r y gwascodawdd wy, a’ llef a ddeuth allan o’r wybren, gan ddywedyt, Hwn yw vy Map caredic: clywch ef.

8Ac yn ddysyvyt ydd edrycheson o ddamgylch, ac ny welsont mwyach nebun, o ddyeithr yr Iesu yn vnic y gyd ac wynt.

9Ac a ’n hwy yn descend i lavvr o’r mynyth, ef a ’oruchmynnawdd yðynt, na vynegent i neb pa bethe a welsent anyd pan gyvodit Map y dyn o veirw drachefyn.

10A’ hwy a gatwesant y peth hwnw wrthyn y hun, gan ymofyn bavvp a’ ei gylydd, pa beth oedd hyny, Cyvodi o veirw drachefyn?

11A’ gofyn iddo a orugāt, can ddywedyt, Paam y dywait y Gwyr‐llen y byð dir i Elias ddyuot yn gyntaf?

12Ac ef atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Elias yn ddiau a ddaw, yn gyntaf yc a edvryd yr oll bethae: a’ megis yð escriuenwyt o Vap y dyn, rhait iddo ddyoðef llaweroedd a chael ei ðiystyry.

13Eithr ys dywedaf wrthyth ddarvot i Elias ðyvot (a gwneythyd o hanwynt iddo’r hyn a vynesont) vegis ydd escriuenwyt am danaw.

14A’ phan ddaeth ef at ei ddiscipulon, y gwelawdd ef dyrva vawr o ei h’amgylch, a’r Gwyr‐llen yn ymðadlae ac wynt.

15Ac yn ebrwydd yr oll popul pan welsant ef, a ddechrenent, ac a redent ataw, ac a gyfarchent‐well yddo.

16Yno y gowynawdd ef ir Gwyr-llen, Pa ymddadle ydd ych yn eich plith eich hun?

17Ac vn or dyrva a atepawdd ac a ddyvot, Athro, ys dygais vy map atat, ac iddo yspryt mut:

18yr hwn p’le pynac y cymer ef, a ei dryllia, ac y bwrw‐yntef-ewyn ac ydd yscyrnyga ei ddanedd, ac y dihoena: a’ dywedais wrth dy ddiscipulon am y vwrw ef y maes, ac ny allasant.

19Yno ydd atepodd ef iddo, ac y dyvot, A genedlaeth anffyddlon, pa hyd weithian y byddaf gyd a chwi? pa hyd weithian ich dyoddesaf? Dugwch ef ata vi.

20Yno y ducesont ef attaw: ac yn gymmedr ac y canvu yr yspryt ef, ey drylliawdd, ac ef a gwympodd yr llavvr ar y ddaiar, gan ymcreinio, a’ maly‐ewyn.

21A’ govyn a oruc ef y’w dat, Beth ’sy o amser er pan ddarvu iddo val hyn? Ac ef a ddyuot, Er yn vap.

22A’ mynech y tavl ef yn tan, ac i’r dwfr yw gyfergolli ef: eithyr a’s gelly di ddim, cymporth ni, a thosturia wrthym.

23A’r Iesu a ddyvot wrthaw, A’s gelly di gredy hyn, pop peth sy possibil i hvvn a gredo.

24Ac yn ddiohir tad y bachcen gan lefain gyd a deigrae, a ddyuot, Arglwydd, Credaf: cymmorth vy ancrediniaeth.

25Pan welawdd yr Iesu vot y popul yn dyvot‐atavv‐ar ei rhedec, ef a geryddawdd yr yspryt aflan, gan ðywedyt wrthaw, Tydi yspryt mut a’ byddar, mi a ’orchymynaf yty, dyred allan o hanaw, ac na ddos mwyach yndaw ef.

26Yno llefain o’r yspryt, ac y drylliodd ef yn dost, ac a ddaeth allan, ac ydd oedd ef val vn marw, y’ny ðywedei lhawer, y varw ef.

27A’r Iesu a gymerth ei law ef, ac ei derchafawdd, ac ef a gyfodes y vynydd.

28A’ gwedy y ddyuot ef ir tuy, ei ddiscipulon a ’ovynent iddo yn ddirgel, Paam na’s gallem ni y vwrw ef allan?

29Ac ef a ðyvot wrthynt, Y rhyw hwn nyd all mewn vn modd ddyvot allan, anyd gan ’weddi, ac vmpryd.

30Ac wy a ymadawsan o ddyno, ac aethant trwy Galilaea, ac nyd ’wyllesei gael o nep wybot.

31Can ys dyscawdd ef ei ddiscipulon, a dywedawdd wrthynt, Map y dyn a roddir yn‐dwylo dynion, ac wy y lladant ef, a’ gwedy y lladder, ef gyvyd tragefyn y trydydd dydd.

32Eithyr nyd oedden vvy yn deally yr ymadrodd hwnw, ac ofn oedd arnyn ymofyn ac ef.

33Gwedy hyny y daeth ef i Capernaum: a’ phan oedd ef yn tuy, y govynnawdd yddynt, Pa beth oedd yr hyn a ymddadleuech yn eich plith eich hunain, rhyd y ffordd?

34Ac wy a dawson a son: can ys ar hyd y ffordd yr ymddadleynt aei gylydd, pwy’n vyddei bennaf.

35Ac ef a eisteddawð, ac a alwodd y deuddec, ac a ddyvot wrthyn, A’s deisyf nep vot yn gyntaf, e gaiff vot yn ddywethaf oll, ac yn weinidoc i pawb oll.

36Ac ef a gymerth vachcenyn ac ei gesodes yn y cyfrwng wy, ac ei cymerawdd yn ei vreichie, ac a ddyvot wrthwynt, Pwy pynac a dderbynio yr vn o gyfryw vechcynos yn vy Enw i, a’m derbyn i:

37a’ phwy pynac a’m derbyn i, nyd myvi a dderbyn ef, anyd hwn a’m danvones i.

38Yno ydd atepawdd Ioan iddo, gan dywddyt, Athro, ys gwelsam vn yn bwrw allan gythrelieit drwy dy Enw di, yr hwn nyd yw yn eyn dylyn ni, a’ goharddesam ef, can na ðylyn ef nyni.

39A’r Iesu a ddyuot, Na ’oherddwch ef ddim: can nad oes nep a wna wrthiae gan vy Enw i, ac a aill yn hawdd ddywedyt drwc am danaf.

40Can ys pwynac nyd yw yn eyn erbyn, ’sy trosom.

41A’ phwy pynac a roddo i chwi gwppaneit o ddwfr y’w yfet er mvvyn vy Enw i, can y chwi vot yn perthyn i Christ, yn wir y dywedaf wrthych, ny chol’ ef ei vvobrvvy.

42A’ phwy pynac a rwystro r’ vn o’r ei bychain hyn, a gredant yno vi, gwell oedd iðo yn hytrach pe gesodit maē melin y amgylch ei vwnwgl, a ei davly yn y mor.

43Can hyny a’s dy law ath rwystra, tor y hi ymaith: gwell yw y‐ti vyned y mewn i’r bywyt, yn efrydd, nac yti a’ dwy law vyned iyffern i’r tan andiffoddadwy,

44lle ny bydd marw y pryf hwy, ac ny ddiffodd y tan byth.

45Ac a’s dy droet ath rwystra, tor e ymaith: gwell yw yty vyned yn gloff i’r bywyt, nac ac yti ddau droet dy davly i yffern i’r tan andiffoðadwy,

46lle ny’s marw y pryf hwy, ac ny’s dyffydd y tan byth.

47Ac a’s dy lygat ath rwystra, tynn ef allan: gwell yw i ti vyned i deyrnas Duw yn vnllygeidioc, nag a’ dau lygad genyt, dy davly i yffern dan,

48lle nyd marw y pryf wy, a’r tan ny ddiffyð byth.

49Can ys pop dyn a helltir a than: a’ phop aberth a helltir a halen.

50Da yw halen: and a’s bydd yr halen yn ddivlas, a’ pha beth y temperir ef? Bid y chwi halen ynoch eich vnain, a’ bid tan gneddyf genwch bavvp wrth ei gylydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help