Psalm 80 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxxx.Qui regis Israel.¶ I rhagorol ar Shosannim, ghEdúth. Psalm y roid at Asaph.

1CLyw Vugail Israel, ys yr hwn wyt yn tywys Ioseph mal devait: llewycha, ti ys ydd yn eistedd ar y Cerubieit.

2Gar bron Ephráim, Beniamín, a’ Manasséh cyvot dy nerth, a’ dyred in cymporth

3Dew d’adymchwel ni, a’ thywynna dy wynep val in iachâer.

4A Arglwydd Ddew y lluedd, pa hyd y sory wrth weði dy popul?

5Bwydeist hwy a bara daigrae, a’rhoðeist yddwynt ðaigrae y’w yw yfet a mesur mawr.

6Ti an gwnaethost yn gynnen y ein cymmydogion, a’n gelynion ys ydd in gwatwor yn eu cyfrwng.

7A’ Ddew y lluoedd d’adymchwel ni: tywynna dy wynep, ac in iachéir.

8Dugeist winwydden o’r Aipht: tavleist allan y cenedloedd, a’ phlenneist e-hi.

9 Gwnaethost’ le y’ddhei, a’ gwreiddieist hi gwraidd, a’ hi lanwodd y ddaiar.

10Y mynyddedd y guddijt gan hei gwascot, a’ei changae y Cedriwydd rhagorawl.

11Hi estennodd hei cheinciae yd y môr, a’ ei changenni yd yr Avon.

12Paam y drylliaist hei chaeu y lawr, val y mae pawp y el rhyd y ffordd yn hei dirwyn.

13Y baydd coet hei dinistriodd, a’ bwystvil y maes hei porawdd,

14Dew y lluoeð dychwel adolwyn: edrych y lawr o’r nefoedd, a’ gwyl a’ govwya y winwydden hon,

15A’r ’winllan y blannawdd dy ddeheulaw, a’r vapcainc y gadarnéist yty-un.

16[Ys] lloscwyt hi a than, thorwyt ir llawr: ac wynt y gollir gan gerydd dy wynep.

17Byddet dy law ar ’wr dy ddeheulaw, ar vap dyn, y gadarnéist y ty vn.

18Yno nyd adymchwelwn ywrthyt: bywá ni, a’ galwn ar dy Enw.

19Dadymchwel ni, Arglwydd Ddew y lluoedd: tywyna dy wynep ac in iachéir,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help