Matthew 11 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xj.Christ yn precethy. Ioan vatyddiwr yn anfon ei ddiscipulon ataw. Testiolaeth Christ am Ioan. Barn y popul am Christ ac Ioan. Christ yn edliw ir dinasoedd anniolchgar. Bod yn eglurhay’r Euangel i’r dinion gwirion. Am yr ei ys y yn trafaely ac ynt yn llwythoc. Am iau Christ.

1AC e darvu, gwedy tervyny o’r Iesu orchmyny y’w ddauddec Apostoliō, ef aeth oddyno er ei dyscy a’phrecethy yny dinasoedd wy.

Yr Euangel y trydydd Sul yn Aduent.

2A’phā glybu Ioan ac ef yn‐charchar o ywrth weithredoedd Christ, e ddanvones ddau oei ddiscipulon,

3ac a ddyvot wrthaw: Ai ti yw’r hwn a ðaw, ai dysgwyl a wnawn am aral’?

4A’r Iesu a atebawdd ac a ddyvot wrthynt. Ewch a’manegwch i Ioan, y pethae a glywsoch ac welsoch.

5Y mae’r daillion yn cahel ei golwc, a’r cloffion yn rhodiaw: a’r cleifion‐gohanol wedy ei glāhay, a’r byddair yn clywet: y meirw y gyfodir, a’r tlodion yn derbyn yr Euangel.

6A’ dedwydd yw’r neb ny rwystrir om plegit i.

7Ac wynt yn mynet ymaith, ef a ddechreuawð yr Iesu ddywedyt wrth y popul, am Ioan, Pa beth yr aethoch ir ddiffeith i edrych am danaw? ai corsen a yscytwei gan wynt?

8Eithyr pa beth yr aethoch yw welet? Ai dyn wedy ’r wisco mewn dillat esmwyth? Nycha, yr ei ys y yn gwisco dillat esmwyth, mewn tai Brenhinoedd y maent,

9Eithyr pa beth aetho chwi yw welet? Ai Prophwyt? Ie dywedyt ydd wyf wrthych, a’ mwy no Prophwyt.

10Can ys hwn ytyw y neb y mae yn escriwenedic am danaw, Nycha, myvi sy yn danvon vy‐cenat rac dy wynep, yr hwn a paratoa dy ffordd oth blaen.

11Yn wir y ddywedaf y chwi, ymplith yr ei a anet o wrageð, ny chododd neb mwy nac Ioan Vatyðiwr: er hyny yr hwn ’sy leiaf yn teyrnas nef, y ’sy, vwy nac ef.

12Ac o amser Ioan Vatyddiwr yd hyn, y treisir teirnas nefoedd, a’r treiswyr ’sy yn myn’d a hi wrth nerth.

13Can ys yr oll Prophwyti a’r Ddeddyf a prophwytesont hyd Ioan.

14Ac a’s wyllysiwch y dderbyn, efe yw Elias, a oedd ar ddyvot.

15¶ Y nep ’sy yddo glustiae i wrando, gwrandawet.

16Eithyr i ba beth y cyffelyblaf i y genedleth hon? Cyffelyp yw i vechcynos a eisteddent yn marchnatoydd, ac yn llefain wrth ei cyfeillon,

17ac yn dywedyt, Canasam chwibanoc ywch’, ac ny neidiesoch: ys canesam alarnad ywch’, ac ny chwynfanesoch.

18Can ys daeth Ioan eb na bwyta nag yfet, ac meddant, Y mae cythrael ganthaw.

19Daeth Map y dyn yn bwyta ac yn yfet, ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, car ir Publicanot a’ phechaturieit: eithyr doethinep a gyfiawnheir gan ei blant ehun.

20Yno y dechreawdd ef liwio ir dinasoydd, yn yr ei y gwneythesit yr ei mwyaf oei weithredredd‐mowrion ef, can na chymeresent edifeirwch,

21Gwae dydi Chorasin: Gwae dydi Bethsaida: can ys pe gwneythesit yn Tyrus a’ Sidon y gweithredoedd‐mawrion a wnaethpwyt yno‐chwi, wy a gymeresent edifeirwch gynt mewn lliainsach a llytw.

22Eithyr ys dywedaf y chwy, mai ynsmwythach vydd i Tyrus a’ Sidon yn‐dydd brawd, nac i chwi.

23A’ thydi Capernaum, yr hon a dderchefir yd y nefoedd, ath dynnir y lawr yd yn yffern: can ys pey ymplith yr ei o Sodoma y gwnaethesit y gweithredoeð mawrion a wnaethpwyt yno ti, wy vysent yn aros yd heddyvv.

24And mi a dywedaf y chwi, mai esmwythach vydd yddyntvvy o dir Sodoma yn‐dydd brawd, nac y ti.

Yr Euangel y dydd S. Matthias.

25¶ Yn yr amser hynny ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot, Yty y diolchaf, Dat, Arglwydd nef a ’daear can yty guddiaw y pethae hyn rhac y doethion a’r pruddion, a’ ei egluraw hwy ir ei bychain.

26Yn wir, Dad, can ys velly y bu voddlawn genyt.

27Pop peth a roddwyt y‐my gan vy‐Tat: ac nyd edwyn nep y Map, eithr y Tat: ac nyd edwyn nep y Tat diethr y Map, a’r hwn yr ewyllysio ’r Map ei eglurhau iddo.

28Dewchata vi, oll y sy yn vlinderawc ac yn llwythawc, a’ mi a ch esmwythaf.

29Cymerwch vy iau arnoch’ a’ dyscwch genyf, can vy‐bot yn waredigennus ac yn isel o galon. A’ chvvi gewch ’orphoysfa ich eneidae.

30Can ys ve Iau ’sy hyfryd, a’m llwyth ysy yscafn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help