1NYni yr ei cedyrn a ðlyem ðwyn gwendit yr ancedyrn, ac nyd yn boddhau ein hunain.
2Am hynny boddhaet pawp o hanom ei gymydoc yn yr hyn ’sy dda y adeilad.
3Can ys Christ ny’s boddlonawdd ehunan, eithr megis y mae yn scrivenedic, Goganion yr ei ath ’ogonant, a gwympesont arnaf.
Yr Epistol yr ail Sul yn Aduent.
4Can ys pa betheu bynac a scrivenwyt ym blaenllaw, er addysc i ni y rracscrivenwyt vvy: val y gallem ni trwy ammynedd a’ chonffort yr Scrythurae gahel gobeith.
5A’ Duw pen avvdur yr ammynedd a’r confort a roddo y chwi syninet yr vn peth bavvp ai gylydd, erwydd Christ Iesu.
6Mal o gytundep, ac o vn geneu y galloch voliantu Duw ’sef Tad ein Arglwydd Iesu Christ.
7Erwydd paam derbyniwch bavvp eu gylydd, megis ac yd erbyniawdd Christ ninæ y ’ogoniant Duw.
8A’ hyn, a ðywedaf, bot Iesu Christ yn wenidoc ir enwaediat er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhau yr addeweidion avvnaethpvvyt ir tadae.
9A’ rhoet y Cenetloeð ’ogoniant y Dduw, dros ei drugaredd, mal y mae yn scrivenedic. Er mwyn hyn ith cyffessaf ym‐plith y Cenetloedd, ac y canaf ith Enw.
10A’ thrachefn y dywait, Ymlawenhewch Genetloedd y gyd aei bopul ef.
11A’ thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr oll Cenetloedd, a’ chydvolwch ef yr oll populoedd.
12A thrachefyn Esaias a ddywait, E vydd gwreiddyn yr Iesse, a’r hwn a gyfyt y lywodraethu ’r Cenetloedd, yn hwnw y gobeithia ’r Cenetloedd.
13A’ Duw ’r gobeith a’ch cyflanwo o bop llewenydd, a’ thangneddyf gan gredu, val ich amylhaer yn‐gobeith trwy nerth yr Yspryt glan.
14Ac y mae yn ðilys genyf vi vyhun am dano‐chwi, vy‐broder, a’ch bot chwi yn llawn daoni, ac yn gyflawn o bop gwybodaeth, ac y metrwch gygcory ei gylydd.
15Er hyny vrodur, mi scrivennais atoch yn hyfach o beth, val vn yn dwyn ar gof ywch, trwy y Rat a roed ymy gan Dduw,
16y vot o hanof yn wasanaethwr Iesu Christ tu a’r Cenetloeð, gan ’lanweithiaw Euangel Duw, val y byddei offrymiat y Cenetloedd yn gymradwy, wedy’ sancteiddio gan yr Yspryt glan.
17Y mae i mi gan hyny a ymlawenychwyf yn‐Christ Iesu yn‐cyfryw betheu a berthyn y Dduw.
18Can na veiddiaf yngan am ðim, a’r ny’s gwnaeth Christ trywof, y vvnevvthur y Cenetloeð yn uvydd ar ’air a’ gweithret
19trwy nerth arwyddion a’ rhyveddadae, gan nerth Yspryt Duw: val pan yw o Gaerusalē ac o amgylch yd Illyricum y gorllenwais o Euangel Christ.
20Ac velly ydd ymorchestais y Euangelu nyd lle yr enwit Christ, rac bot ymy adailad ar ucha sailiad neb arall.
21Eithyr megis y mae yn scrivenedic, Y bwy ny venagwyt am dano ef, wy y gwelant ef a’r ei ny chlywsant, ei dyallant.
22Am hynny hefyt im rhwystrwyt i yn vynech y ddyvot atoch.
23Anyd yr awrhon can nad oes ymy le mwy yn yr artale hyn, a’hefyd bot arnaf chwant er ys llawer o vlyddynedd y ðyvot atoch,
24pan elwyf ymdðaith ir Hispaen, y dauaf atoch: can ys gobeithaf ych gwelaf wrth deithio ffordd yna, a’ chael vy hebrwng genwch tu ac yno, gwedy im golāwer o’ch cymdeithas.
25Ac yr awrhon yr ymddeithiaf y Gaerusalem, y weini ir Sainctæ.
26Can ys rhyngodd bodd ir ei o Macedonia ac Achaia, y wneuthur ryw gymorth ir Sainctæ tlodion yr ei ynt yn Caerusalem.
27Cā ys ryngodd boð yddynt, a’ ei dyledwyr ydynt: o bleit a’s y Cenetloedd vyð cyfranwyr o ei petheu ysprytawl hwy, hwynteu a ddylent hefyt weini yddynt ym‐petheu cnawdol.
28Yno gwedy cwplawyf hyn yma, a’ selio yddynt y ffrwyth hwn, mi ddavvaf heboch ir Hispayn.
29A’ mi wn pan ddelwyf, y dauaf atoch a chyflawnder bendith Euangel Christ.
30Hefyt vroder, atolygaf ychwy er mwyn ein Arglwyð Iesu Christ, ac er cariat ar yr yspryt, ymryson ohanoch a’ mi a gweddiaw ar Dduw drosof.
31Y n ym rhyddhaer ywrth yr ei ’sy yn anuvydd yn Iudaia, ac y im gweinidogeth ’sy i mi vvnevvthur yn‐Caerusalem, vot yn gymradwy gan y Sainctæ,
32val y gallwyf ddyvot atoch yn llawenydd trwy ewyllys Duw, ac ymorphwys gyd a chwi?
33Weithian Duw pennaeth y tangneddyf a vo y gyd a chwi oll, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.