1 GOchelwch roddy eich eluseni yngwydd dynion, er mwyn cael eich gwelet ganthwynt, anyd ef, ny chewch vvobrvvy y gan eich Tad yr hwn ’sydd yn y nefoedd.
2Erwydd paam pan roddych di dy aluseni, na phar gany vtcorn geyr dy vron, mal y gwna ’r hypocritae yn ei Synagogae ac ar yr heolydd, y’w moli gan ddynion. Yn wir y dywedaf y chwi, y mae ei gvvobr ganthwynt.
3Eithyr pan wneych ti dy aluseni, na wypo dy law aswy pa beth a wna dy law ddeheu,
4yn y bo dy aluseni yn y dirgel, ath Tat yr hwn a wyl yn y dirgel, ath obrwya yn yr amlwc.
5A’ phan weddiychdi, na vydd val yr hypocritae, can ys hwy a garant sefyll, a’ gweðiaw yn y Synagogae, ac yn‐conglae yr heolydd, er mwyn cael eu gweled gan ddynion. Yn wir y dyweddaf ychwi, y mae ganthwynt ei gobr.
6Tithe pan weddiych, does ith cuvicl a’ gwedy cau dy ddrws, gweddia ar dy Dat yr hwn ’syð yn dirgeledic, ath Dat yr hwn a wyl yn y dirgel, ath obrwya yn yr amlwc.
7Hefyt pan weddioch, na vyddwch siaradus mal y cenetloedd: can ys tybiant y clywir wy dros ei haml ’airiae.
8Am hynny na thybygwch yddynt wy: can ys‐gwyr eich Tat, pa bethae ys ydd arnochey eisiae, cyn erchi o hanoch arno.
9Erwydd hyny gweddiwch chwi val hyn. Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy Enw.
10Dauet dy deyrnas. Byddet dy ewyllys ys ar y ddaiar megis yn y nefoedd.
11Dyro y ni heddyw ein bara beunyddiol.
12A’ maddae i ni ein dledion, mal y maddeu nine i’n dyledwyr.
13Ac nag arwein ni ym‐provedigaeth eithyr gwared ni rhac drwc: can ys yti ymae y deyrnas, a’r nerth, ar gogoniant yn oes oesoed, Amen.
14O bleit a’s maddeuwch i ddynion ei sarhaedae, eich Tad nefawl a vaddeu hefyt i chwitheu.
15Eithyr a ny uaddeuoch i ddynion ei sarhaedae, ac ny vadae eich Tad i chvvi the eich sarhaedae.
Yr Euangel y dydd cyntaf or Grawys.
16¶ Hefyt pan vmprytioch, na vyddwch vvynep soric val hypocritait: can ys anffurfyaw ei h’wynepae y byddant, er ymdangos i ddynion, y bot wy yn vnprydiaw. Yn wir y dywedaf wrthych vot ydyn ei gobr.
17Eithr pan vmprytych ty, iir dy benn, a golch dy wynep,
18rac ymdangos i ddyniō dy vot yn vmprytiaw, anid ith dat yr hwn ys yd yn y cuddiedic: a’th dat yr hwn a wyl yn y cuddiedic: a dal y ty yn y golae.
19¶ Na chesclwch dresore y chwy ar y ddaear, lle mae yr pryf a rhwt yn ei llygry, a’ lle mae llatron yn cloddiaw trywodd, ac yn ei llatrata.
20Eithyr cesclwch yw’ ch tresore yn y nef, lle ny’s llygra’r pryf na rhwt, a’ lle ny’s cloddia r llatron trywodd ac ny’s llatratant.
21Can ys lle mae eich tresawr, yno y bydd eich calon hefyt.
22¶ Golauni ’r corph ywr llygat: wrth hyny a byð dylygat yn sympl, e vyð dy hollgorph yn olau.
23Eithyr a’s bydd dy lygad yn ddrwc, e vydd dy oll gorph yn dywyll. Erwydd paam a’s bydd y goleuni ys ydd ynot, yn dywyll, pa veint yw’r tywyllwch hwnaw?
Yr Euangel y xv. Sul gvvedi Trintot.
24¶ Ny ddychon nep wasanaethy dau Arglwyð: can ys ai ef a gasaa’r naill, ac a gar y llall, ai ef a ymlyn wrth y n’aill, ac a escaelusa yr llall. Ny ellwch wasanethu Duw a’ golud‐bydol.
25Can hynny y dywedaf yw’ch, na ovelwch am eich bywyt pa beth a vwytaoch, ai pa beth a yvoch: na’c am eich cyrph, pa beth a wiscoch: anyd yw’r bywyt yn vwy na’r bwyt? a’r corph yn vvvy na’r dillat?
26Edrychwch ar chediait y nef can na heyant, ac ny’s metant, ac ny chywenant i’r yscuporiae: ac y mae eich Tat nefawl yn y porthy wy. Anyd y‐chwi well o lawer nac yntwy?
27A’ phwy o hanoch cyd govalo, a ddychon angwanegy vn cuvydd at ei vaint?
28A’ pha am y govelwch am dillat? Dyscwch pa wedd y mae’r lili’r maes yn tyfu: ny thravaeliant, ac ny nyddant:
29a’ dywedaf wrthych na bu Selef yn ei oll ’ogoniant mor trwsiadus ac vn o’r ei hyn.
30Can hynny a’s dillada Duw lysaeū y maes, yr hwnn ys ydd heðyw, ac yvory a vwrir i’r ffwrn, a ny’s gvvna vwy o lawer erochwi, yr ei a’r ychydic ffydd?
31Am hyny na’ ovelwch, can ddywedyt, Beth a vwytawn? ai beth a yvwn? ai a pha beth ymddilladwn?
32(Can ys am y pethae hynn oll yr ymovyn y Cenetloedd) o bleit e wyr eich Tat nefol, vot arnoch eisiae yr oll pethae hyn.
33Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Duw a ei chyfiawnder, a’r oll pethae hynn a roddir ychwy.
34Ac na ovelwch dros dranoeth: can ys tranoeth a ovala drosto ehunan. Digon i ddiernot y ddrwc ehun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.