Ioan 16 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xvj.Ef yn coffan hwy am y groc, ac am eu gwendit yhunain a ddawei. Ac am hyny y mae yn y confforddio hwy a gaddewit or Ysyryt glan. Am ad‐ddyvodiat Christ. Am ei esceniad. Erchi yn Enw Christ, tangneddyf yn‐Christ, ac yny byt blinderwch.

1Y Pthe hyn a ddywedais y chwy, rac bot ych rhwystro chvvi.

2Hwy ach escommunant chwi: and e ðaw ’r amser, y bydd i pwy pynac ach lladdo, dybiet y vot yn gwneuthu’r gwasanaeth y Dduw.

3A’r pethe hyn a wnant y chwy, can nad adnabuant y Tat, na mivi.

4Eithyr y pethe hyn a ddywedais ychwy, val pan ddel yr awr, y cofioch, ddarvot i mi ddywedyt hyny y‐chwy. A’r pethe hyn ny’s ddywedais y chwy o’r dechreuat, o bleit vy‐bot y gyd a chwi.

Yr Euangel y iiij. Sul gwedy yr Pasc.

5Ac yr awrhon ydd af ymaith at yr hwn om danvonawdd, ac nyd oes yr vn o hanoch yn ymofyn a mi, I b’le ’r ai di?

6Eithyr can i mi ddywedyt y pethe hyn ychwy, y mae eich calonæ yn llawn tristit.

7Eithyr mi a ddywedaf y chwi ’r gwirionedd, lles yw ychwy vy myned i ymaith: o bleit a nyd af ymaith, ny ddaw y Diddanwr atoch: eithr a’s af ymaith, mi ei danvonaf atoch.

8A’ gwedy del ef, yntef a argywedda y byt o bechot, ac o gyfiawnder, ac o varn.

9O bechot, can na chredant ynof.

10O gyfiawnder, can vy‐bot yn myned at vy‐Tat, ac ny ’m gwelwch mwyach:

11O varn, can ys tywysoc y byt hwn a varnwyt.

12Y mae i mi etwa lawer o bethae y’w dywedyt wrthych, eithyr ny ellwch ei dwyn yr awrhon.

13And pan ðel ef yr hwn yw Yspryt y gwirionedd, ef ach arwein chwi ir oll wirionedd: can ys nyd ymadrodd ef o hanaw ehun, anyd pethe y bynac a glyw ef, a ymadrodd ef, ac a venaic ychwy y pethe sy ar ddyvot.

14Efe am gogonedda i: can ys o’r meuvi yd erbyn ef, ac ei menaic y chwy.

15Oll bethe ’sy eiddo y Tat ’sy veuvi: am hynny y dywedais, mai o’r meuvi y cymer ef, ac eu menaic y‐chwy.

Yr Euangel y iij. Sul gwedy yr Pasc.

16Ychydic enhyd, ac ny’m gwelwch: a’ thrachefyn ychydic enhyd, a’ chvvi am gwelwch: can ys myvi a at vy‐Tat.

17Yno y dyvot rei o’r discipulon wrthyn, y gylydd, Beth yw hynn a ddyweit ef wrthym, Ychydic enhyt, ac ny’m gwelwch, a’ thrachefyn, ychydic enhyd, a’ chvvi am gwelwch, ac, Can ys mivi a at vy‐Tat?

18Can hyny y dywedesont, Beth yw hyn a ddyweit ef, Ychydic enhyt? ny’s gwyddam pa beth a ddywet ef.

19A’r Iesu a wybu y chwenychent ymofyn ac ef, ac a ddyvot wrthynt, Ai ymofyn ydd ych ai gylydd am ddywedyt o hanof hyn, Ychydic enhyt, ac ny’m gwelwch: a thrachefyn, ychydic enhyt, a’ chvvi a’m gwelwch?

20Yn wir, yn wir ydywedaf wrthych, y bydd y chwi wylo ac alaru, a’r byd a lawenha: a’ chwi a dristewch, eithyr eich tristit a ddymchwelir yn llawenydd.

21Gwraic wrth escor‐dyn‐bach vydd mewn trystit, can ddyvot y h’awr: eithyr gwedy geni yði ’r dyn‐bach, ny chofia hi mwyach o’r gofit, gan lawenydd geni dyn ir byt.

22A’ chwithe gā hyny ydych mewn tristit: eithyr e vydd ym’ eich gwelet drachefyn, a’ch calonae a lawenycha, ach llewenydd ny’s dwc nep y arnoch.

23A’r dydd hwnw nyd erchwch ddim arnaf.

Yr Euangel y v. Sul gwedy’r Pasc.

Yn wir, yn wir y dywedaf y chwy, pa bethae bynac a archoch ar vy‐Tat yn vy Enw i, ef ei rhydd y ychwy.

24Yd hynn nyd archesoch ddim yn vy Enw i: erchwch, a’ derbyniwch, val y bo cyflawn eich llawenydd.

25Y pethe hyn a a droddeis wrthych ym‐parabolae: and e ddawr amser, pryd nad ymadrodwyf mwyach wrthych ym‐parabolae: eithyr menagaf ywch yn eglur am y Tat.

26Yn dydd hwnw yr erchwch yn vy Enw i, ac nyd wyf yn dywedyt wrthych, y gweddia vi ar y Tat trosoch.

27Can ys ef y Tat ’sydd ich caru, o bleit caru o hanoch vi, a chredu dyvot o hanof allan ywrth Dduw.

28Dauthym allan ywrth y Tat, a’ deuthym ir byt; trachefyn ydd wyf yn gadaw ’r byt, ac yn myned at y Tat:

29Dywedawð eu ddiscipulon wrthaw, Wele ’r awrhon yr ymadroddy yn eglur, ac ny ddywedy vn parabol.

30Yr owrhon y gwyddam y gwyddosti bop peth oll, ac nyd rait yty ymofyn o nep athi. Wrth hyn y gwyddam, ddyvot o hanot allan ywrth Dduw.

31Yr Iesu a atepawdd yddynt, A gredwchvvi yr owrhon?

32Nacha, yr awr yn dy vot, ac ’sy eisioes wedi dyuot, pan ich goyscerer pawp at yr eiddaw, ac im gedwch vi yn vnic: ac nyd wyf yn vnic: can y Tat ys y gyd a mi.

33Y pethe hyn a lavaris wrthych, y gaffael o hanoch ynof dangneddyf: yn y byt y ceffwch orthrymder, eithr byddwch o confort da: mivi a ’orchyvygeis y byt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help