1 LLyma ’r drydedd waith i mi y ddyvot atoch. Yn‐geneu dau neu dri o testion y bydd safadwy pop gair.
2Racddywedais ywch, a’ racddywedaf ywch: megis be bawn wyð‐yn‐gwyð yr ail‐waith, velly yr scrivenaf yn absen wrth yr ei ym blaē llaw a bechasāt, ac wrth bawp ereill, can a’s dawaf drachefn nyd arbedaf.
3Can y‐chwy geisio profiat o Christ, yr hwn a ymadrodd ynofi, yr hwn tu ac ato‐chwi nyd yw wan, eithr nerthoc ydyw ynoch.
4Can ys cyd crogit ef o ran ei wendit, er hyny byw ydyw trwy nerth Duw. A’ diau yw ein bo ninheu yn weinion yntho ef: eithr byw vyddwn y gyd ac ef, trwy nerth Duw tu ac at y chwi.
5Profwch eichunain a ytych yn y ffydd ecsamnwch ychunain: anyd adwaenwch eichunain, ’sef y’r Iesu Christ vot ynoch, a ddyeithr ychwy vot yn ancymeradwy?
6A’ gobeithaf y gwybyðwch nad ym ni yn ancymeradwy.
7A’ mi archaf y Dduw na wneloch ðim drwc, nyd er cael eyn egluro ni yn gimradwy, anyd er y chwi wneuthur yr hyn ’sy sybervv, cyd bom ni megis yn rei ancymeradwy.
8Can na allwn ni vvneuthur dim yn erbyn y gwirioned, amyn tros y gwirionedd.
9Can ys llawen yym pan ydym ni yn weinion, a’ch bot chwitheu yn gryfion: hynn hefyd a ddamunem ’sef eich perfeithrwydd chvvi.
10Am hyny ydd wyf yn eich absen yn scrivennu y petheu hynn, rrac ymy pan vvyf wydd‐yn gwydd, arver o vot yn dost, wrth y meðiant a roes yr Arglwyð y‐my er adailad, ac nyd er dinistrad.
11Bellach vrodr, ewch yn‐iach: byddwch perfeicth: ymgofforddiwch: ymgydsynniwch: byddwch vyw yn dangneddefus, a’ Duw y cariat a’r tangneddyf a vydd gyd a chwi.
12Anerchwch eugylydd a chusan sanctaidd.
13Y mae ’r oll Sainctæ yn erchi ych anerch.
14Rat ein Arglwyð Iesu Christ, a’ chariat Duw, a chōmundeb yr Yspryt glan a vo gyd a chwi oll, Amen.
Yr ail epistol at a Corinthieit, a scrivenwyt o Philippi, dinas ym‐Macedonia, ac anuonwyt trwy law Titus a’ Lucas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.