1CLustymwrando am geiriae, Arglwydd: deall vy mevyrdawt.
2Erglyw ar lef vy llefain, vy-Brenhin a’m Duw: can ys arnat’ y gweddiaf.
3Y borae, Arglwydd, clyw vy llef: y borae y cyfeiriaf atat, ac y dysgwiliaf.
4Can nad wyt Dduw a ewyllysa enwireð: ac ny thric anvad y gyd a thi.
5Ny saif ynfydion yn dy’olwc: cas cenyt pawp oll y wnel enwiredd.
6Ti ddestrywy y rei ddywedant gelwydd: y gwr gwaedlyt a’r dichellgar sydd ffiaidd gan yr Arglwydd.
7A’ mieneu a ddeuaf ith tuy yn amleð dy drugaredd: yn dy ofn yr addolaf tu ath Templ sanctaidd.
8Arglwydd, tywys vi yn dy gyfiawnder, achos gelynion: gwastatá vy ffordd rac v’wynep.
9Can nad oes vniondap yn ei genae: oymewn, y maent yn llwgr oll: ei mwnwg bedd ogoret: ymlewydd a wnant a ei tauod.
10Destrywia hwy, Dduw, cwympant ywrth ei cygcorae: bwrw ’n wy allan obleit llaweredd ei camweddae, can ys codesont ith erbyn.
11A’ bit bawp a ymddirietant ynoti, lawenhau a’bot yn hyfryt yn dragywyth, a thoa di hwy: a’r ei a garant dy enw bid ei gorvoledd ynot’.
12Can ys ti Arglwydd a vendithi y cyfiawn: a charedigrwydd mal tarian y coroni ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.