Yr Actæ 6 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vj.Saith Daiacon a ordeinir yn yr Eccleis. Radae a’ gwyrthiae Stephan, yr hwn a gyhuddesant wy yngham, ac yn ddiachos.

1AC yn y dyddiae hynny, val y tyvei niveiri’r’discipulon, e godes murmur gan y Groegieit yn erbyn yr Hebrewyr, can ys tremegy y gwrageð‐gweðwon hwy yn y gwenidogaeth beunyddawl.

2Yno yr dauddec a alwasont y lliaws discipulon yn‐cyd, ac a ddywetsont, Nid yw cymmesur gady o hanam gair Dew a’ gwasadaethy yr bordae.

3Ac am hyny vroder, edrychwch yn eich plith am seith‐wyr da ei gair, ac yn gyflawn o’r Yspryt glan, ac o ðoethinep, yr ei a ’osotom yddyn y gorchwyl hwn.

4A’ nine a ymrown yn ’oystat i weddiavv, ac y arweiny y gair.

5Ac boddlawn vu gan yr oll lliaws yr amadrodd hynny. Ac wy a ddetholesant Stephan gwr yn llawn o ffydd ac or Yspryt glan, ac Philip, ac Prochorus, ac Nicanor, ac Timon, ac Parmenas, ac Nicolas y proselyt o Antiocheia,

6yr ei ’n a osodent wy geyr bron yr Apostolon: ac wynt a weddiasont, ac a ddodesont ei dwylaw arnaddvvynt.

7A’ gair Dew a dyvodd, ac a liosocawdd niuer y discipulon yn‐Caerusalem yn ddirvawr, a’ thorfa vawr o’r Offeirait a vvyddesont ir ffydd.

8Ac Stepha nyn llawn o ffyð a’ nerth, a wnaeth rvveddodae mowrion a’ gwyrthiae ymplith y popul.

9Yno y cyvodes ’r ei o’r Synagog a elwir Libertinieit, a’ Cyreniait ac o Alexandria, ac or ei o Cilicia, ac o Asia, ac a ddadleysant ac Stephan:

10ac ny allent wrthnepy y doethinep, a’r Yspryt y gan yr hwn ydd oedd ef yn ymadrodd.

11Yno y gesodesont wyr, y ddywedent, Ni y clywsam ef yn llavaru cabl‐airiae yn erbyn Moysen, a’ Dew.

12Ac val hynn y cyffroesant vvy y plwyf a’r Henafieit, a’r Gwyr‐llen: ac a ruthrasont iddaw, ac a ymaflasont ynto, ac ei ducesant at a Cycor,

13ac a ’osodesont destion gauoc, yr ei a ddywedesont, Y dyn hwn ny phait a llavaru cabl‐airiae yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r Ddeddyf.

14Can ys clywsam ef yn dywedyt, y byð ir Iesu hwn o Nazaret ddestrywio y lle hwn, ac ysmuto ’r cynneddfeu, y roddes Moysen y nyni.

15Ac val ydd oedd yr oll r’ei y eisteddent yn y Cycgor, yn edrych yn graph arnaw, y gwelent ei wynep val petei wynep Angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help