1CAn hyny diescusod wyt, ti ddyn, pwy pynac a verny: can ys yn yr hyn y barny arall, ith cydverny dyhun: can ys ti yr hwn wyt yn barnu arall, wyt yn gwneuthur yr vn petheu.
2Eithyr gwyddom vot barn Duw yn ol gwirionedd, yn erbyn yr ei y wnant gyfryw betheu.
3Ac a dyby di hyn, a ddyn, ’rhwn a verny yr ei a wnant gyfryw betheu, ac a wnai yr vnryw, y diengy di rac varn Duw?
4Neu a dremygy di ’olud y ddayoni ef, ai ddyoddefgarvvch, ai ammynedd, eb gyfadnabot vot daioni Duw yn dy arwein di y ediverwch?
5Eithyr tydi, herwydd dy galedrwydd a’ chalon anediveirol, wyt yn tyrru y tyun ddigofeint yn erbyn dyddd y digofeint ac ymatguð cyfiawn varn Duw,
6yr hwn a rydd i bawp vn erwydd ei weithredoedd:
7sef, ir ei gan barhau yn gwneuthur daioni, a geisiant ’ogoniat, ac anrydedd, ac anllygredigaeth, vywyt tragyvythawl:
8eithyr ir ei sy yn cynnenus ac nyd vvyddhant i wirionedd, ac yn ymvvyddhay i enwiredd y bydd llid a’ digofaint.
9Trwbl ac ing vydd ar eneit pop dyn a wna ðrwc: yddo’r Iuddew yn gyntaf, ac hefyt yddo’r Groecwr.
10Eithyr i bop vn a wna ddaioni, y bydd gogoniant, ac anrydedd, a’ thangneddyf, ir Iuddew yn gyntaf, a’ hefyt ir Groecwr.
11Can nad oes derbyn braint nep gar bron Dduw.
12Obleit pa sawl bynac a bechasant yn ddi‐ddeðyf, a gyfergollir hefyt yn ddi‐ðeðyf: a’ pha sawl bynac a pechasant yn y ddeðyf, vvy a vernir wrth y Ddeddyf.
13Can ys nyd gwrandawyr y Ddeddyf ynt yn gyfiawn ger bron Duw: eithyr gwneuthuwyr y Ddeddyf a gyfiawnheir.
14Obleit pan vo y Cenetloedd yr ei nid yw ’r deddyf ganthynt, yn gwneuthur wrth anian y petheu ’sy yn y ddeddyf, y’n hwy eb vot y ddeddyf ganthynt, ynt ddeddyf yddyn y hunain,
15’sef yr ei a ddangosant weithret y ddeddyf yn scrivenedic yn eu caloneu, a’ ei cydwybot vvy hefyt yn cyt testolaethu, ai meddyliae yn cyhuddo y gilydd, nei yn escusodi,)
16yn y dydd pan varno Duw ddirgeloedd dynion trwy Iesu Christ, erwydd yr Euangel veuvi.
17Wely, Iuddew ith elwir di, a’ gorphywys ydd wyt yn y Ddeddyf, ac yn ymlawenhau yn‐Duw,
18ac yn gwybot y wyllys ef, ac yn darbot petheu‐rragorol, erwydd dy addyscy gan y Ddeddyf:
19ac wyt yn coylio dy vot yn dywysoc ir deillion, yn llewych ir ei y sy yn‐tywyllwch, yn athro ir ampwyllogion,
20yn ddysciawdr ir ei andyscedic, a chenyt ffurf gwybyddiaeth, a’r gwirionedd yn y Ddeddyf.
21Tithe gan hyny rhwn a ðyscy arall, a n’ith ddyscy dyhun? ti yr hwn a precethy na ledrataer, a ledrety di?
22Ti yr hwn a ddywedy, Na wnaed nep ’odinep a wnai di ’odinep? ti rhwn ’sy ðygas genyt eidolae, a gyssegr‐yspeily di?
23Ti rhwn a ymhoffy yn y Ddeddyf, trwy dori’r Ddeddyf a ddianrydeddy di Dduw?
24Can ys Enw Duw a geplir ym‐plith y Cenetloedd och pleit chwi, megis y mae yn escrifenedic.
25Can ys enwaediat yn wir a wna lles, a’s cedwy y Ddeðyf: eithyr a’s torwr y Ddeðyf vyðy, ef aeth dy enwaediat yn ðienwaediat.
26Can hyny a’s y dienwaediat a gaidw gyfreithiaey Ddeðyf, any chyfrifir y ðienwaediat ef yn enwaediat?
27Ac any byð ir dienwaediat yr vn ’sy wrth anian (a’s caidw y ddeðyf) dy varnu di yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediat vvyt yn dorwr y Ddeddyf?
28Can nad yw ef yn Iuddew, yr hwn ’sy yn vnic o ðyallan: ac nid enwaediat yw hwnw, ys ydd yn vnic o ydd allan yn y cnawd:
29eithr efe ysy Iuddew yr hwn ’sy vn oddy wewn, a’r enwaediat ’sy ir galon, sef yn yr yspryt, nyd yn y llythyren, a’ ei voliant nyd yw o ddynion, amyn o Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.