Psalm 29 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xxix.Afferte Domino.¶ Psalm Dauid.

1 ROwch i’r Arglwydd veibion penaethae: rhowch ir Arglwydd ’ogoniant a’ chadernit.

2Dewch ir Arglwydd a gogoniant dledus yw Enw: addolwch yr Arglwydd yn y gogonet Gyssecr.

3Llef yr Arglwyð ar y dyfredd: Dew y gogoniant y wna y taranae, yr Arglwydd ar y dyfredd mawrion.

4Llef yr Arglwydd ys ydd alluawc, llef yr Arglwydd brydverth.

5Llef yr Arglwydd y ddryllia y Cedriwydd: ys dryllia yr Arglwydd Cedriwydd Lebanon.

6Ac ef wna yddwynt neidio mal llo: Lebanón a’ Shirión mal llwdn vnicorn.

7Llef yr Arglwydd y’ohana y fflammae tân.

8Llef yr Arglwydd y wna i’r diffaith ddecgrynu: yr Arglwydd a ddychryn ddiffeith Cadésch.

9Llef yr Arglwydd a wna ir ewigot erthylu, ac a ddynoetha y coedydd: gan hyny yn ei Dempl pawp o’r eiddo a lefair ’ogoniant.

10Yr Arglwydd y eistedd ar y dilif, a’r Arglwydd y eistedd yn Vrenhin yn tragywyth.

11Yr Arglwydd a rydd nerth y ew bopul: yr Arglwydd a vendithia ei bopul a thangneddyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help