Marc 6 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vj.Pawedd yd erbynir Christ a’r eiddo yn ei wlad y un. Commission ac awdurdod yr Ebestyl. Amravel varn am Christ. Lladd Ioan, a’ei gladdy. Christ yn rhoi gorphwysfa yw ddisciplion. Y pemp torth bara a’r ddau pyscodyn. Christ yn gorymddaith ar y dwr. Ef yn iachay llawer.

1AC ef aeth ymaith o ddyno, ac a ðeuth yw wlad yhun, a’ ei ddiscipulon ei canlynesont.

2A’ gwedy dyvot y Sabbath, y dechreawdd ef ei dyscy yn y Synagog, a’ brawychy a wnaeth l’awer a’r y clywsent ef, gan ddywedyt, O b’le y cafas hwn y pethae hynn? a’ phara ddoethinep yw hyn a roed iddaw, can ys gwnair cyfryw nerthoedd trwy y ddwylo ef?

3Anyd hwn yw’r saer map Mair, brawd Iaco, ac Ioses ac Iudas a’ Simon? ac anyd yw y chwiorydd ef gyd a nyni? Ac wy rwystrit ynthaw ef.

4Yno y dyvot yr Iesu wrthynt, Nyd yw Prophwyt yn ddianrydedd any’d yn ei wlad y un, ac ym‐plith y genedl y vn, ac yn y duy hun.

5Ac ny allei ef yno wneythy ’r neb vn nerth yn amyn gesot ei ddwylo ar y chydic gleifion a’ ei hiachay.

6Ac ef a ryveddawdd am y ancrediniaeth wy, ac ef a gylchynawdd y trefi o bop‐parth, gan ey dyscu.

7Ac ef a alwodd y dauddec atavv, ac a ddechreuawdd y danvon wy bob ddau a’ dau, ac a roddes yddwynt auturtot yn erbyn ysprytion aflan,

8ac a ’orchymynawdd yðwynt, na chymerent dim y’w hymddeith amyn ffon yn vnic: na’c y screpan, na bara, nac efydd yn ei gwregysae.

9Anyd yhescicidiay hwy a’ sandalae, ac na wiscēt dwy bais.

10Ac ef a ddyvot wrthynt, Ymp’le bynac ydd eloch y mywn i duy, ynovv ydd aroswch y ’n yd eloch o ddynovv.

11A’ pha’r ei bynac ny ’ch derbyniant, ac ny’ ch clywant, pan eloch i ffordd o ddyno, escutwch y llwch ysy dan eich traed yn testiolaeth yddwynt. Yn wir y dywedaf y chwi, y bydd esmwythach i Sodoma ai Gomorrha yn‐dydd brawd, nac i’r dinas hono.

12Ac wy aethan ymaith ac a procethesant, ar wellay o ddynion ei buchedd.

13A’ llawer o gythraelieit a vwriasant wy allan: ac wy a eneiniesant ac oleo lawer o gleifion, ac ei hiachesont.

14Yno y clypu ’r Brenhin Herod am danavv (can ys eglaer oedd y enw ef) ac y dyvot, Ioan Vatyddiwr a gyfodes o’ veirw, ac am hyny y gweithredir nerthoedd trwy ddaw ef.

15Ereill a ddywedesont, mai Elias ytyw: ac ereill a ðywedesōt, mai Prophwyt yw, ai vegis vn o’r Prophwyti.

16A’ phan glypu Herod, y dyvot, Hwn yw Ioan yr hwn a dorreis i ei ben: ef e a godes o veirw.

17Can ys Herod y hun a ddanvonesei genadon, ac a dyaliesei Ioan, ac ei rhwymesei ef yn-carchar o bleit Herodias, yr hon oedd ’wraic Philip y vrawd ef, can iddo y phriody hi.

18Can ys Ioan a ddywedesei wrth Herod, Nyd cyfreithlon y ti gael gwraic dy vrawt.

19Am hyny ydd oedd Herodias yn dalha gvvg iddo, ac yn chwenychy y ladd ef, ac ny’s gallei.

20Can ys Herod a ofnei Ioan, o bleit iddo wybot y vot ef yn ’wr cyfiawn, ac yn sanct, ac y parchei ef, ac wrth y glywet ef, y gwnai ef lawer o pethe, ac ei gwrandawei yn ewyllysgar.

21A’ phan oedd yr amser yn temporaidd, a’ Herod ar ei ddydd genidigeth yn gwneythyr gwledd y’w bendeuigiō a’ ei gaptenieit a’ goreugwyr Galilaea:

22a’ gwedy y verch yr vnryvv Herodias ddyvot y mewn a dawnsio, a’ boddloni Herod a’r ei oeð yn cyddeisteð wrth y vort, y dyvot y Brenhin wrth y vor wynnic, Arch y mi beth bynac a vynnych, a’ mi ei rhoddaf yty.

23Ac ef a dyngawdd iddi, Beth bynac a erchych i mi, mi ei rhoddaf yty, pe hyd haner vy‐teyrnas.

24Ac yhi aeth allan, ac a ddyvot wrth ei mam, Peth a archaf? Hithe a ddyvot, Pen Ioan Vatiddiwr.

25Yno y daeth hi yn y lle mewn awydd at y Brenhin, ac a archawdd, gan ðywedyt, Wyllyswn roddy o hanot i mi sef yr awrhon mewn descyl ben Ioan Vatyddiwr.

26Yno myned o’r Brenhin yn athrist: eto er mwyn y llw, ac er mvvyn yr ei oedd yn cyd eisteð ar y vort, ny mynnoð ef y gommeð hi.

27Ac yn y man yd anvones y Brenhin grogwr, ac ’orchmynawdd ðwyn y ben ef.

28Ac yntef aeth ac a laddawdd y ben ef yn y carchar, ac a dduc y ben ef mewn descyl, ac ei roes i’r vorwyn, a’r vorwyn ei rhoes y’w mam.

29A’ phan y clypu y ddiscipulou ef, y daethant, ac y cymeresant ei gorph, ac ei dodesont ym‐monwent.

30A’r Apostoliō ymgynullesont ynghyd at yr Iesu, ac a venegesont iddo oll, ac ar a wnaethent, ac a ddyscesent‐i‐ereill.

31Ac ef a ddyvot wrthwynt, Dewchwi ych unain o’r neilltu ir diffeithwch, a’ gorphwyswch y chydigin: can ys yð oedd l’awer yn dyvot ac ac yn myned: val na chaent encyd i vwyta.

32Am hyny ydd aethant mewn llong o’r neilltu i le anial.

33Eithyr gweled o’r werin wy yn myned ymaith a’ bot llawer yn y adnabot ef, ac yn rhedec ar draet yd yno o’r oll ddimasoydd, ac y rhacvlaenesont wy yno, ac a ymgasclasont, ataw.

34Yno ydd aeth yr Iesu allan, ac a welawdd dyrva vawr, ac a dosturiawdd wrthwynt, can y bot wy val deuaidd eb yddyn vugail: ac a ddechreawdd ddyscy iddyn laweroedd.

35Ac yr awrhon pan ddaroedd llawer o’r dydd, y daeth eu ðiscipulō ataw, gan ddywedyt, Llyma le diffaith, ac y hi yr owon yn llawero’r dydd:

36Gellwng wy ymaith, val y gallō vyned ir pentrefi a’r trefi o yamgylch, a’ phryny ydddyn vara: can nad oes yddyn ðim y’w vwyta.

37Yntef a atepoð ac addyvot wrthwynt, Rowch chwi yddynt beth y’w vwyta. Ac wy a ðywedesont wrthaw, A awn ni a’ phryny dau‐cant ceiniogwerth o vara, a’ ei roi yðyn yw ywyta?

38Yno y dyvot ef wrthynt, Pa sawl torth’ sy genwch? ewch ac edrychwch. A’ phan wybuont, y dywedesont, Pemp, a ’dau byscodyn.

39Ac ef a ’orchymynawdd yðwynt beri‐yddwynt oll eistedd, yn vyrðeidiae ar y gwellt glas.

40Yno ydd eisteðesont yn y garvanae, o vesur cantoeð a’dec a’ dau geiniae.

41Ac ef a gymerawdd y pemp torth, a’r ddau pyscodyn, ac a edrychawdd y vyndd ir nefoedd, ac a ðiolchawdd, ac a dorawdd y bara, ac a ei rhoes at ei ddiscipulon, yw gesot geyr y bron wy, a’r ðau pyscodyn a ranawdd ef yn y plith wy oll.

42Velly bwyta o hanynt a’ chael ei gwala.

43A’ hwy gymeresant ddau ddec bascedeit o’r briw ion, ac o’r pyscawt.

44A’r ei a vwytesynt, oedd yn‐cylch pemp‐mil o wyr.

45Ac yn y man y parawdd ef yw ddiscipulon vyned ir llong, a ’rhacvlaeny trosawdd ir ’lan arall hyd Bethsaida, tra ddanvonei ef y werin ymaith.

46A’ gwedy iddo y danvon wy ymaith, y tynnodd ef ffwrdd ir mynydd i weðiaw.

47A’ gwedy y myned hi yn hwyr, yr oeð y l’ong yn‐cenol y mor, ac yntef y hun ar y tir.

48Ac ef ei gwelawð yn dra vaelus arnyn wrth rwyfo, (can vot y gwynt yn wrthwynep yðynt) ac yn‐cylch y bedwared wylfa o’r nos, y daeth ef atwynt, yn gorymddaith ar y mor, ac ef a vynesei vyned eb y llaw hwy.

49A’ phan welsant wy ef yn gorymddaith ar y mor, y tybiesont may ellyll ytoeð, ef ac a ’waeddesant.

50Can ys wy oll y gwelsont ef, ac a dechrenesont: an’d ar y chwaen yr ymddiddanodd ac wynt, ac y dyvot wrthint, Cyssiriwch, myvi yw, nac ofnwch.

51Yno yr escendodd ef atwynt ir llong, ac y peidiawdd y gwynt, ac aruthrol dros ben yr aeithei braw ynthynt y vnain, a ryveddy a orugant.

52O bleit nad ystyriesent yr hyn a vvnaethesit ynghylch y tortheu hyny, can ddarvot caledy eu calonae.

53A’ dyvot trosawdd a wnaethant, a myned i dir Genezaret, a’ dyvot ir ’lan.

54A’ gwedy yddyn ðyvot o’r llong, yn y man ydd adnebuont ef,

55ac a gylchredesant trwy ’r oll vro hono o y amgylch ogylch, ac a ddechreysont ddwyn hwnt ac yma mewn glythae y sawl oll, oedd yn gleifion, ir lle clywent y vot ef.

56Ac y b’le bynac yð elei ef y mewn i drefi nei ddinasoedd, ai i bentrefi, wy ddodent ei cleifion yn yr heolydd, ac ei gweddient ar gael o hanynt gyhwrdd ys haychen y wisc ef. A’ chyniuer a ei cyvyrddawdd, a iachawyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help