1YN ol y pethe hyn, y dychwelawdd Paul o Athenas, ac y daeth y Corinthus,
2ac y cafas nebun Iddew, aei enw Aquila, y anesit ym‐Pontus, wedy dyvot yn hwyr o amser o’r Ital a’ ei wraic Priscilla (can ys gorchymynesei Claudius bot ir oll Iuddaeon ady Ruuain) ac ef a ddaeth atwynt.
3A’ chan y vot or vn gelfyddyt, ef a arhoesodd y gyd ac wynt, ac a weithiawdd (can ys ei celfyddytt ytoedd gwneythyr pebyllion. )
4Ac ef a ymðadleuoð yn y Synagog pop dydd Sabbath, ac annoc a wnaeth ef yr Iuddaeon, a’r Grocieit.
5A’ phan ddaethesei Silas ac Timotheus o Macedonia, yð ymloscoð Paul yn yr yspryt, gan testiaw ir Iuddeon may Iesu ytoeð y Christ.
6Ac wrth vynd o hanwynt wy y wrthladd ac y gably, ef a yscytwodd ei ddillat, ac a ddyvot wrthwynt, Bit eich gwaet ar vvartha eich pēn eich hunain: ys glā vyvi: yn ol hynn ydd af vi at y Cenetloedd.
7Ac ef a ysmutawdd o ddyno, ac a aeth y mewn y duy neb vn, y enwit Iustus, y oedd yn addoly Dew, yr hwn oeð ei duy yn cyssyllty a’r Synagog.
8Ac Crispus yr archsynagogwr, a gredawdd yn yr Arglwydd a’ ei oll duylu: a ’llawer o’r Corinthieit wrth ei glywet, a gredesont ac a vatyddiwyt.
9Yno y dyvot yr Arglwydd wrth Paul yn y nos trwy weledigaeth. Nag ofna, eithyr ymadrodd, ac na thaw‐son.
10Can ys myvi ys y gyd a thi, ac ny ’osyt nep arnat y wneythy r eniwet yty: erwyð y mae i mi popul lawer yn y dinas hon.
11Ac velly e drigawdd ynaw vlwyddyn ac chwech mis, gan ðyscy yddvvynt gair Dew yn ei plith.
12Yn awr pan oeð Gal‐lio yn Raglaw yr Achaia, y cyvodes yr Iuddeon o vnveðwl en erbyn Paul, ac ei ducesont ir vrawdle,
13gan ddywedyt, Y mae yr dyn hwn yn annoc y dynion y addoli Dew yn erbyn y Ddeddyf.
14Ac val ydd oedd Paul ar gyngyt y agory ei enae, y dyvot Gallio wrth yr Iuddaeon, Petei am vvneythy’r cam, ai drucweithred, a Iuddeon, erwydd rheswm eich gwrandawn:
15eithyr a’s gorchest yw am ymadrodd, ac enwae, ac o eich Deddyf, edrychwch eich hunain arnavv: can na bydda vi vrawdwr ar y pethae hynny.
16Ac ef y gyrawdd hwy ywrth y vrawdle.
17Yno y Groegwyr oll a gymersont Sosthenes yr Archsynagogwr, ac ei baeddesont ger bron y vrawdle: ac nid oedd Gallio yn gofaly am ddim o’r pethae hynny.
18Ac wedy i Paul aros yno rac llaw niver da o ddydiae, ef a ganawdd yn iach ir broder, ac avordwyawdd i Syria (ac cyd ac ef Priscilla ac Aquila) gwedy iddaw gneifio ei benn yn Cenchrea: can ys eiddunet oedd ganthaw.
19Yno yd aeth ef i Ephesus, ac y gadawdd wynt ynaw: ac ef e aeth y mywn ir Synagog ac a ddadleuodd a’r Iuddaeon.
20Ac wy ddeisyfesont arnaw aros y gyd ac wynt amser a vei hwy ac ny chydsynniawdd ef,
21anid cany yn iach yddwynt, gan ddywedyt, Y mae yn angenrait i mi gadw yr wyl hon ’sy yn dyvot yn‐Caerusalem: eithr mi ymchwelaf atoch dragefyn, gyd ac ewyllys Dew. Ac velly yr hwyliawdd ef o ywrth Ephesus.
22A’ phan ðescenawdd ef y Caisareia, ef a escennodd y vyny y Caerusalem, ac wedy iddaw gyfarch‐gwell ir Eccles, e ddescennawdd i Antiocheia.
23Ac wedy iddo drigo ynavv amcan o amser, ef aeth ymaith, gan orymddeith drwy Galatia ac Phrygia erwydd cylchgrefn, gan gadarnhay yr oll discipulon.
24Ac nebun Iuddew, Apollos ei enw, a’r a anesit yn Alexandria, a ðaeth i Ephesus, gvvr hyawdyl a’ nerthawc yn yr Scrythurae.
25Hwn oedd wedy ei addyscy ar ffordd yr Arglwydd, ac a ymðiddanawdd yn vrwd yn yr Yspryt, ac a ddyscawð yddvvynt yn ddiyscaelus bethae yr Arglwyð, ac nywyddiat amyn Batydd Ioan yn vnic.
26Ac ef a ðechreawdd ymadrodd yn hyf yn y Synagog. Yr hwn pan glywsant Aquila ac Priscilla, wy y cymersont ef atwynt, ac a esponiesont iddaw ffordd Ddew yn berffeithiach.
27Ac pan ydoedd ef aei vryt ar vynet i Achaia, y broder yn y annoc ef, a yscrivenesont at a discipulon y ew dderbyn: ac wedy yddaw ddyvot yno, ef gymporthodd yn vawr yr ei a gredesynt drwy ’rat.
28Can ys argyhoeddoð ef yn ddirving yr Iuddaeon, ar ’oystec yn drach‐chwyrn, can ddangos wrth yr Scrythurae, mae Iesu oedd y Christ.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.