1ARglwydd Ddew y dialwr, Dew y dialwr, ymddangos-yn ddysclaer.
2Ymddercha, Varnwr y byt, dod daliat ir beilchion.
3Arglwydd pa hyd y bydd ir andewolion, pa hyd yr ymorugan yr andewolion?
4Siarad y wnant a’ dywedyt yn galet: ymvawrgu a wna oll weithredwyr enwiredd.
5Dy popul, Arglwydd, y vaiddant, ath etiveddiaeth y gystuddiant.
6Y weðw ar alltud y, ar amddyvait y liasant.
7A dywedynt, Ny wyl yr Arglwydd, ac ny ddeall Dew Iaco.
8Dyellwchwi andoethion ym plith y popul: a’r ynvydion pa bryd y dyellwch?
9Yr hwn y blannawdd y glust, any chlyw ef? neu yr hwn y ffyrfawdd, y llygat any wyl ef?
10Ai yr hwn a gosp y cenedloedd, anyd argyoedda ef? yr hwn y ddysc wybodaeth y ddyn,?
11Yr Arglwydd y wyr veddyliae dyn, mae gwac ytynt.
12Gwyn ei vyd y gwr a gospych ti, Arglwydd, ac a ðyscych yn dy Ddeddyf,
13Mal y rhoddy yddo ’orphwys rac dyddieu y drwc, tra gladdier pwll i’r andewiol.
14Can na edy yr Arglwydd ei bopul, a’ei etiueddiaeth ny’s gwrthddot,
15Can ys y gyfiawnder yr ymchwel barn, ac ar ei ol yr oll rei vnion o galon.
16Pwy a gyvyt gyd a mi yn erbyn yr ei enwir? phwy a saif gyd a mi yn erbyn y gwerthredwyr enwiredd?
17A ny bysei ir Arglwydd vy-cymporth, trigesei haiach vy eneit yn-goystec.
18Pan ddywedeis, Y mae vy-troet yn llithro, dy drugaredd, Arglwydd, am cynnaliawdd.
19Yn lliaws vy meddyliae ym mewn, dy ddiddaneu a lawenesont vy eneit.
20A oes y eisteddle enwiredd gymddeithas a thi, rhwn a ffurfa gam yn lle Cyfraith?
21Ymgasclu a wnant yn erbyn eneit y cyfion, a’r gwaed gwirion y ddamnant,
22Eithyr yr Arglwydd yw vy noddet, am Dew nerth vy-gobeith.
23Ac ef a dal ydd-wynt ei h’anwiredd, ac ei destryw yn ei cynddrygedd ehunein, ys yr Arglwydd ein Dew ei destruwia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.