1WEithian pan wybu yr Arglwydd, glybot o’r Pharisaiait, wneuthy ’r o hanaw ef a’ batyddiaw vwy o nifer ðiscipulon nac Ioan,
2(cyd na vadyddiai Iesu ehun: eithr ey ddiscipulon)
3ef a adawodd Iudaia, ac aeth ymaith i’r Galilaia.
4A’ dir oedd y‐ddaw vyned trwy Samareia.
5Yno y deth ef y ðinas yn Samareia a elwit Sychar, yn gyfagos at y vaenawr a roesei Iacov, y’w vap Ioseph.
6Ac yno ydd oedd ffynnō Iacov. Yno’r Iesu wedy’ blino y gan y daith a eisteddawdd velhyn ar y ffynnon yn cylch y chwechet awr ytoedd hi:
7Daeth gwraic o Samareia i gody dwfr. Dywedyt o’r Iesu wrthei, Moes i mi ddiawt.
8Can ys ei ddiscipulon aethēt ymaith i’r ddinas, i brynu bwyt.
9Yno y dyuot y wraic o Samareia wrthaw, Pa vodd yw a’ thydi yn Iuddew, y govynny ddiawt i mi, yr hon wyf ’wraic o Samareia? Can nad yw’r Iuddaeon yn ymgystlwng a’r Samareit.
10Atepawdd Iesu ac a ddyuot wrthei, Pe’s adwaenyt ddawn Duw, a’ phwy ’n yw a ddywait wrthyt, Moes i mi ddiawt, tudi a’ ovynesyt y‐ddaw ef, ac ef a roesei yty y dwfr bywyt.
11Dywedawdd y wraic wrthaw, Arglwydd, Nyd oes genyt ddim y gody‐dwfr, a’r pytew ’sy ddwfyn: ac o b’le y mae genyt y dwfr byw hvvnvv?
12Ai mwy wy‐ti na’n tat ni Iacov, yr hwn a roes i ni y pytew hwn, ac ef ehun a yfawdd o hanaw, a’ ei blant, ai aniuailieit.
13Atepawdd yr Iesu a’ dywedawdd wrthei, Pwy pynac a yfo o’r dwfr hwn, a sycheda drachefyn:
14and pwy pynac a yfo o’r dwfr a roðwy vi ydddaw, ny sycheda yn dragyvyth: eithyr y dwfr a roddwy vi ydd‐aw a vyð yndaw yn ffynnō o ddwfr, yn tarðu i’r bywyt tragyvythawl.
15Dywedawdd y wraic wrthaw, Arglwydd, dyro i mi or dwfr hwnw, val na sychedwyf, ac na ddelwyf yman y gody dvvr.
16Dywedawdd yr Iesu wrthei, Dos, galw dy ’wr, a’dyred yman,
17Y wreic a atepoð ac a ðyuot, Nyd oes i mi vn gwr. Yr Iesu a ðyuot wrchei, Da dywedaist, Nyd oes y mi vn gwr.
18Canys bu y‐ti bemp gwyr, a’r hwn ys y yti ’nawr nyd yw wr yti: gwir a ddywedaist ar hyny.
19Dywedawdd y ’wraic wrthaw, Arglwydd, gwelaf may Prophwyt ytwyt.
20Ein tadae a addolent yn mynyth hwn, a chvvychwi a ddywedwch, mai yn Caerusalem y mae’r lle y dylir addoly.
21Yr Iesu a ddyvot wrthei, Hawreic, cred vyvi, y mae yr awr yn dyuot, pryd na’c yn y monyth hwn, na’c yn Caerusalem yr a ddoloch y Tat.
22Chwychvvi a addolwch y peth ny wyddoch, nyni a addolwn y peth a wyðam: can ys yr iechyd’sydd or Iuðeō.
23Eithyr dyuot y mae yr awr, ac ys owrhon y mae hi, pan yw ir gwir addolwyr addoly y Tat mevvyn yspryt a’ gwirioneð: can ys y Tat a vyn y cyfryw ’r ei y’w addoly ef.
24Yspryt yw Duw, a’r sawl y a addolant ef, raid yddwynt ey a ddoli mevvyn yspryt a’ gwirionedd.
25Dywedawð y wraic wrthaw Gwn i y daw Messias, ys ef yr hwn a elwir Christ: gwedy y del hwnw, ef a venaic y ni bop peth oll.
26Dywedyt o’r Iesu wrthei, Ys mi yw yr hwn a ddywait wrthyt.
27Ac yn hyn y daeth ey ddiscipulon, ac a ryveddasont y vot ef yn ymddiddan a gwraic: ny ddyvot neb hagen wrthaw, Beth a gaisy? ’nai paam yr ymddiðeny a hi?
28Yno y gadawdd y wraic hei dvvfr steen, ac aeth ymaith ir dinas, ac a ddyuot wrth y dynion yno,
29Dewch, gwelwch wr a ddyuot i mi gymeint oll ar a wnaethym. Anyd hwn yw’r Christ?
30Yno myned o hanynt allan or dinas, a’ dyuot ataw.
31Yn cyfamser, ydd archei y discipulon iddo, gan ddywedyt, Rabbi, bwyta.
32Ac ef a ddyuot wrthynt. Mae y mi vwyt y’w vwyta, a’r ny wyddo‐chwi.
33Yno y dyuot y discipulon wrth ei gylydd, A dduc nep yddo vwyt?
34Yr Iesu a ddyuot wrthynt, Vy‐bwyt i yw gwneuthu ’r ewyllys yr hwn a’m danvonawdd i, a’ gorphen y waith ef.
35A ny ddywedw‐chwi, Mae etwa petwar‐misic, ac yno y daw ’r cynayaf? Nychaf, y dywedaf y chwi, derchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y broydd: can ys gwynion ynt eisus ar gynayaf.
36A’r hwn a gynayafa a dderbyn gyfloc, ac a gynull ffrwyth i vywyt tragyvythawl, mal y bo ac ir hwn a heuo, ac ir hwn a gynayafa gael gydlawenechu.
37Can ys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai vn a heuha, ac arall a ved.
38Mi a’ch danvoneis chvvi i vedi yr hyn ny’s llafurieso‐chwi vvrtho: eraill a lafuriesont, a’ chwitheu a aethoch y’w llafur hwy.
39Yno llawer o’r Samarieit o’r dinas hono a gredesont ynddaw, o bleit hyn a ddywedawdd y ’wraic yr hon a destolaethesei, Ef a ddyuot i mi gymeint oll a’r a wnaethym.
40A’ phan ðaeth y Samarieit ataw, yð atolygesant yddaw, ar aros y gyd a hwy: ac ef a arosawdd yno ddau ddiwarnot.
41A’ mwy o lawer o gredesont o bleit hyn a ddywedawdd ef ehun.
42Ac wy a ddywedesōt wrth y wreic, Nid ym yn credu weithian o bleit a ddywedais‐ti: can ys ni a ei clywsom ef ynunain, ac a wyddam mai hwn yn ddiau yw ’r Christ ’sef Iachawdur y byd.
43Velly a’r ben y ddau‐ddyð ef aeth ymaith o ddyno, ac aeth ir Galilaia.
44Can ys‐ef yr Iesu a destolaethesei, na chae Prophwyt anrydeð yn ei wlat ehun.
45Yno wedy y ddyuot i’r Galilaia, yd erbynynt y Galilaieit ef, yr ei a welesont yr oll pethe a wnaethoeddoedd ef yn‐Caerusalem ar yr wyl: can ys wy hefyt a aethent ir ’wyl.
46A’r Iesu a ddaeth drachefyn i’r Cana tref yn-Galilaia, lle gwnaethoeddoedd ef y dwfr yn ’win.
Yr Euāgel yr xxi. Sul gwedy Trintot.
¶ Ac yð oeð ryw Pendevic ac yðaw vap yn glaf yn‐Capernaum.
47Pan glypu ef ddyuot Iesu o’r Iudaia i’r Galilaia, ydd aeth ef ataw, ac a atolygawdd yddaw ddyvot i waret, ac iachay y vap ef, can ys ydd oedd e wrth vron marw.
48Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, A ny welwch arwyddion a ’ryveddodae, ny chredwch.
49Y pendevic a ddyuot wrthaw, Arglwydd, dyred i wared cyn marw vy map.
50Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Does ymaith, y mae dy vap yn vyw: a’ chredawdd y dyn y gair a ddywedesei’r Iesu wrthaw, ac aeth ymaith.
51Yr awrhon ac ef yn mynet i wared, y cyfarvu ei wasanaethwyr ac ef, ac y vanegosont, gan ðywedyt, Mae dy vap yn vyw.
52Yno y gofynawdd ef yddwynt yr awr y gwellaesei arnaw. Ac wy a ðywedesont wrthaw, Doe y seithfet awr y gadawdd y cryd ef,
53Yno y gwybu’r tat ddarvot yn yr awr hōno y dywedesei ’r Iesu wrthaw, Mae dy vap yn vyw A’ chredy a wnaeth ef, a’ ei oll tuy.
54Yr ail miragl hynn a wnaeth yr Iesu drachefyn, wedy y ddyvot ef o’r Iuddaia i’r Galilaia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.