1GWedy daroedd yddynt gytvarny, y ni hwylio ir Ital, hwy a roðesant bob un Paul, a’rryw garcharorion ereil’ at Gānwriat aei enw Iulius o gatyrva Augustus.
2A’ dringo a wnaethom i long o Adramyttium ar vedr hwyliaw ar dueðae yr Asia, ac a dynasō ymaith, ac Aristarchus or Macedonia o vvlad Thessalonia, oedd gyd a ni.
3A’r dydd nesaf y tiriesam yn Sidon: ac Iulius a ymdduc yn ddyngar wrth Paul, ac a roes iðaw ryðdit i vynet at ei gereint, y gahel ced ganthwynt.
4Ac o ddyno y moriesam, ac yr hwyliesam eb law Cyprus, erwydd bot y gwyntoedd yn wrthwynep.
5A’ gwedy traweny o hanam dros y mor ger llaw Cilicia ac Pamphylia, a’ dyvot i Myra, dinas yn Lycia:
6ac yno cahel or Cannwriat long o Alexandria, yn hwyliaw ir Ital, ac a’n gosodes ynthei.
7A’ gwedy y ni hwyliaw yn llusgenaidd dros lawer o ddyddiae, ac o vraidd dyvot gar llaw Gnidum, can vot y gwynt in lluddiaw, hwylio a wnaetham yn‐goror Candi, gar llaw Salmone,
8ac o vreidd yr hwyliesam hebddei, ac a ddaetham i ryw le elwit y Porthlaðoeð prydferth, ac yn gyfagos iddaw ydd oedd dinas Lasaia.
9Velly wedy cerddet llawer o amser, ac yn awr bot moriaw yn periclus, can ddarvot hefyt amser yr vmpryt, Paul y cygcorawdd hvvy,
10gan ddywedyt wrthynt, Ha‐wyr, mi welaf y byð yr hynt hon gyd a sarhaed ac eniwed mawr, nid am y llwyth a’r llong yn vnic, anid am ein eneidiae hefyt.
11Er hyny y gyd mwy y credei y Cannwriat ir llywydraethwr a’r llong-lywydd na’ ar pethae y ddywedesit gan Paul.
12A’ phryt nad oedd y porthladd yn aðas y ’ayafy yntho, llawer a gymersont yn ei cygor, voriaw o ddyno, a’s gallent mewn ryw vodd ddyvot hyd yn Phoinice a’ gayafy yno, yr hwn ’sy porthladd yn‐Candi, ac y’sydd ar gyfor Deau‐’orllewyn a’r Gogledd ’orllewin.
13A’ pan chwythawð awel vach o ddeheuwynt, wyntwy yn tybieit caffaei pwrpos, a ddatdodesont i Asson, ac a hwyliasont eb law Candi.
14Eithyr cyn pen ne‐mawr o amser, e gyvodes yn ei hemyl rhyvelwynt y elwir Euroclydon.
15A’ phan attelit y llong, ac na allai wrthladd y gwynt, ni adawsam yddi borthi yr mor, ac in arweddwyt ymaith.
16A’ gwedi yni redec goris ynys vach a elwit Clauda, braidd y gallesam gahel ir bad,
17yr hwn a dderchafesont i vyny, ac arveresont o bob canhorthwyon, gan gyl‐chy y llong o ddydenei, ac ofny a wnaethāt rac syrthio mewn Syrtis, a gadael y llestr i waeret, ac velly y ducpwyt hwy.
18A’r dydd nesaf gwedy cyvodi morgymladd ddirvawr arnam, y diyspyddesont wy yr llong:
19a’r trydydd dydd y bwriesam an dwylaw ein hunain daclae y llong allan o hanei.
20Ac pryd na welit na’r haul na’r ser dros liaws o ddyddiae, a’ thempestl nyd bychan oedd ar ein gwartha, ys daroedd trosgwyddo oll ’obeith bywyt o ddyarnam.
21Eithyr yn ol hir ddirwest, y safodd Paul yn y canol hwy, ac a ðyvot, Ha‐wyr, chvvi ðylysech wrandaw aruavi a’pheidio a datdot o ywrth Cādi, ac yno y diēgesech rac y sarhaed a’r gollet yma.
22Ac yr awrhon ydd eiriolaf arnoch vod yn dda ei cyssir: can na chollir vn map eneit dyn o hanoch, amyn y llong yn vnic.
23Can ys safawdd gar fy llaw y nos hon Angel Dew, yr hwn am piae, ac ydd wyf yn ei wasanaethy,
24gan ddywedyt, Nac ofna Paul: can ys dir yw dy ðwyn gerbron Caisar: a’ nachaf y rhoddes Dew yty yr oll rei ’sydd yn moriaw gyd a thi.
25O bleit paam, ha‐wyr, byddwch lew‐eich‐calon, can ys credaf Ddew, mae velly y bydd yn y moð ac y dywetpwyt ymy.
26Eithyr dir yw ein tavly i nebun ynys.
27A’ gwedy dyvot y petwaredd nos ar ddec, mal ydd oeddem yn bwhwman yn y mor Adrial yn‐cylch haner nos, y tybrawdd y morinwyr nesau o ryw wlat yddwynt,
28ac a sowndiasont, ac ei cawsont yn vcain ’wrhyd o ddyfnder: a’ gwedy myned ychydic pellach, sowndio drachefn a wnaethant a’ ei gael yn pempthec ’wrhyd.
29Ac wy yn ofny rac syrthio mewn ryw leoedd geirwon, bwrw a wnaethant pedair ancor allan o’r parth‐ol‐ir‐llong, gan ddamunaw gwawrio o’r dydd.
30Ac mal ydd oedd y llongwyr yn ceisiaw ffo allan o’r llong, a’ gwedy gellwng bad i wared i’r mor, mal petyssent ar veidr bwrw ancorae allan o’r pen‐blaen ir llong,
31y ’syganei Paul wrth y Cannwriat a’r milwyr. A’ ddieithyr ir ei hyn aros yn y llong. ny ellw‐chwi vot yn gadwedic.
32Yno y torawdd y milwyr raffae yr bat, ac y gadaosont yddaw ddygwyddaw ymaith.
33A’ gwedy dechrae y bot hi yn ddydd, yr eiriolawdd Paul ar bawp gymeryt bwyt, gan ddywedyt, Llyma ’r pedwerydd dydd ar ddec ydd arosoch, ac y parhaesoch yn ymprydiaw, eb gymeryt ddim llunieth.
34Am hyny yð eiriolaf arnoch gymeryt bwyt: can ys lly’ma eich iechyt: o bleit ny ddygwydd vn blewyn y ar ben yr vn o hanoch.
35A’ gwedy iddaw ddywedyt hynn, y cymerawdd vara, ac y diolchawdd i Ddew, yn‐golwc pavvp oll, ac ei drylliawdd, ac a ddechreawdd vwyta.
36Yno y siriod pawp, ac y cymersont vvythe vwyt hefyt
37Ac ydd oedd o hanam y gyd oll yn y llong ddaucant, trivgain ac vn ar pemthec o eneidiae.
38A’ gwedy daroedd yddynt vwyta digon, yr yscafnhasont y llōg, gan vwrw yr gwenith allan ir mor.
39Ac pan ytoedd hi ddydd, nid adnabuont wy yr tir, ac hwy ganvuesōt ryw ebach a’ thorlan iddaw, ir lle y meðyliesant (a’s gallent) wthio yr llong y mewn.
40Ac wedy yddwynt dderchafy yr ancorae, y maddeuesont y llong ir mor, ac y gellyngesont yn rhydd rwymeu y llyw, ac y dyrchafasont y lliein‐hwyl parth ar gwynt, ac a dynnasont ir ’lann.
41A’ gwedy dygwydo o hawynt mewn lle dauvor‐gyhvvrdd, y gwthiasont y llong y mewn: a’r pen‐blaen‐iddei a lynawdd eb allu ei sylfyd, a’r penn‐ol a ymoascarawdd gan nerth y tonnae.
42Yno cycor y milwyr oedd lladd y carcharorion, rac bot ir vn o hanynt wedy nofio ir ’lan, ffo ymaith.
43Eithyr y Cannwriat yn ewyllysio cadw Paul, ei goharddawdd ywrth y cygcor hvvn, ac a ’orchymynodd ir ei vedrent nofiaw, ymvwrw ir mor yn gyntaf, a’ myned allan ir tir:
44ac bot ir lleill, ’rei ar estyllot, ac ereill ar ryw ddrylliae o’r llong: ac velly y darvu, dyvot o bawp oll ir tir yn ddiangol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.