1A’ Gwedy yðyn ddynesay i Caerusalem, i Bethphage a’ Bethania hyd ym mynyth olivar yd anvones ef ddau o ei ddiscipulon,
2ac y dyuot wrthwynt, Ewch ymaith i’r dref ’sy ar eich cyfor, a’ chy cynted y deloch ymevvn yddi, chvvi gewch ebol wedy i rwymo, ar ucha rhwn nyd eisteðawð vn‐dyn erioed: gellyngwch ef a’ dugwch.
3Ac a dywait nebun wrthich, Paam y gwnewchvvi hyn? Dywedwch vod yn rhaid i’r Arglwydd wrthaw, ac eb ’oludd ef ei denfyn yd yma.
4Ac vvy aethant ymaith ac a gawsont ebawl yn rhwym wrth y drws oddyallan, mewn cysswllt dwyfforð a’ ei ddillwng a wnaethant.
5A’r ei o’r sawl a sefynt yno, a ðywedent wrthynt, Beth a wnechwi yn gillwng yr ebawl?
6Wythe a ddywetsont wrthynt, val y gorchmynesei’r Iesu yddynt. Yno y gadawsont yddyn vynd ymaith.
7Ac vvy dducsont yr ebol at yr Iesu, ac a vwriasont ei dillat arnaw, ac ef a eisteddawdd arno.
8A’ llaweroedd a danasont ei dillat rhyd y ffordd: trychu o ereill gangae o’r preniae a’ ei tanu ar y ffordd.
9A’r ei a oedd yn myn’d o’r blaen, ar ei oeð yn canlyn, a lefent, gan ddywedyt, Hosanna: bendigedic vo ’r hwn sy’n dyvot yn Enw yr Arglwydd,
10bendigedic vo ’r deyrnas y‐s y yn dyvot yn Enw Arglwyð ein tad Dauid: Hosanna ’rhvvn vvyt yn y nefoedd vchaf.
11Yno yð aeth yr Iesu y mewn y Gaerusalem, ac ir Templ: a’ gwedy iddo edrych o yamgylch ar pop peth, a’ hithe yr owrhon wedy mynd yn hwyr, ef aeth allan yd Bethania y gyd a’r dauddec.
12A’ thranoeth wedy ey dyvot wy allan o Bethania, yr oeð arno newyn.
13Ac wrth ’weled fficuspren o bell, ac iddo ddail, ef aeth y edrych a gaffei ddim arnaw: a’ phan ddeuth ataw, ny chafas ef ddim yn amyn dail: can nad oedd hi amser bot fficus eto.
14Yno ydd atepodd yr Iesu ac y dyuot wrthaw, Na vwytaed nep ffrwyth o hanat mwyach yn tragyvyth: a’ ei ðiscipulon ei clybu.
15A’ hwy a ðaethant i Caerusalem, a’r Iesu aeth ir Templ, ac a ddechreuawdd davly allan yr ei oeddynt yn gwerthy ac yn prynu yn y Templ, ac a ddymchwelawdd i lawr vyrddae yr ariam‐newidwyr a’ chadeiriae yr ei oedd yn gwerthy colombenot.
16Ac ny adawei ef y neb ddwyn llestr drwy ’r Templ.
17Ac ef ei dyscawdd, gan ddywedyt wrthynt, A nyd escrivenwyt, Y tuy meuvi, tuy ’r gweddio y gelwir i’r oll Genetloedd? a’ chwitheu ei gwnaethoch yn ’ogof llatron.
18Ac ei clybu ’r Gwyr‐llen, a’r Archoffeirieit, ac a geisiesont po’ð y collent ef: can ys ofnent ef, o bleit bot yr oll dyrva yn aruthro gan ei athraweth ef.
19A’ gwedy y hwyrhau hi, ydd aeth yr Iesu allan o’r dinas.
20A’r borae ac wynt yn mynd‐heibio, y gwelsant y ffycuspren wedy gwywo o’r gwraidd.
21Yno yr atgofiawdd Petr, ac y dyuot wrthaw, Rabbi, nycha ’r fficuspren a velltithiaist, wedy gwywo.
22A’r Iesu a atepawdd, ac a ddyuot wrthynt. Bid eich ffydd ar Dduw.
23Can ys yn wir y dywedaf y chwi, mai pwy pynac a ddyweto wrth y mynyth hwn, Ymgymer ymaith a’ bwrw dy hun i’r mor, ac na amheuet yn ei galon, anyd credy y dervydd y pethe hyny a ddyuot ef, beth bynac ar a ddywait, a vydd yddaw.
24Erwydd paam y dywedaf wrthych, Bethae bynac ar a archoch wrth weddiaw, credwch yd erbyniwch, ac e vydd parot y chwi.
25And pan safoch, a’ gweddiaw, maddeuwch, a’s bydd genych ddim yn erbyn neb, val y bo ’ich Tad yr hwn sy yn y nefoedd vaddae i chwitheu eich cam‐weddae.
26O bleit a ny vaddeuw‐chwi, ach Tat yr hwn ’sy yn y nefoedd, ny vaddae i chwithe eich camweddae.
27Yno y daethant drachefyn i Caerusalem: a’ mal y rhodiei ef yn y Templ, y dauai ataw yr Archoffeirieit, a’r Gwyr‐llen, a’r Henyddion,
28ac y dywedynt wrthaw, Wrth pa awdurtat y gwnai di y pethe hyn? a’ phwy roes y ti yr auturtat hon, y’n y wnayti y pethae hyn?
29A’r Iesu a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Minef a ovynaf vn‐peth i chwithe, ac atepwch vi, a’ dywedaf ywch’ wrth pa awdurtot y gwnaf y pethae hyn.
30Betydd Ioan, ai o’r nef ydd oedd, ai o ddynion? atepwch vi.
31Ac wy a veddyliesont ynthyn ehunain, gan ddywedyt, A’s dywedwn O’r nef, ef a ddywait, Paam gan hyny na chredech ef?
32Eithyr a’s dywedwn, O ðynion, y mae arnam ofn y bopul: can ys pavvp oll a gymerent Ioan yn wir Prophwyt.
33Yno ydd atepesant, ac y dywedesant wrth yr Iesu, Ny wyddam ni. A’r Iesu atepawð, ac a ðyuot wrthynt, Ac ny ðywedaf vinef y chwi wrth pa awdurtat y gwnaf y pethae hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.