1SEf yn y pempthecvet vlwyddyn o deyrnas Tiberius Caisar, ac a Phontius Pilatus yn llywiawdr Iudaia, a’ Herod yn Tetrarch Galilaia, a’ ei vrawt Philip yn Tetrarch Ituraia, a ’gwlat Trachenitis, a’ Lysanias yn Tetrarch Abilene,
2(pan oedd Annas a’ Chaiaphas yn Archrffeiriait) y dyvu gair Duw at Ioan vap Zecharias yn y diffeith.
3Ac ef a ddaeth i bop goror yn cylch Iorddonen, can precethy batydd edivairwch er maddeuant pechatae,
4mal ydd escriuenwyt yn llyuer ymadroddion Esaias y Prophwyt, yr hwn a ddywait, Llef vn yn llefain yn y diffeithvvch yvv, Arlwywch ffordd yr Arglwydd, vnionwch y lwybrae ef.
5Pop glynn a gyflawnir, a’ phob mynyth a’ brynn a iselir, a’r caimion a wnair yn vnion, a’r llwybrae geirwon vyddant yn lyfnion,
6Ac oll cnawd a wyl iechydurieth Duw.
7Yno y deuot ef wrth y populoedd a ddaethent y’w betyddiaw y ganthaw, A genedlaethae gwiperoedd, pwy ach rac rybuddiawdd i ffo ywrth y digovain ar ddyuot?
8Dygwch gan hyny ffrwythae teilwng i wellad‐buchedd, ac na ðechrewch dywedyt ynoch eich hunain, Y mae y ni Abraham yn dad ynny: can ys dywedaf ywch’, y gall Duw pe o’r main hyn godi plant i Abraham.
9Ac yr awrhon y dodwyt y vwyall ar wraiddyn y prenie: can hyn pop pren ny ddwc ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a vwrir yn tan.
10Yno y govynodd populoedd iddo, gan ddywedyt, Pa beth gan hyny a wnawn?
11Ac ef a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Hwn ’sy iddo ðwy bais, cyfranet a’ hwn nid oes iddo yr vn: a’ hwn ’sy berchen bwyt, gwnaet yr vn ffynyt.
12Yno y daeth y Publicanot hefyt y’w betyddio, ac a ddywetsont wrthaw, Athro, pa beth a wnawn ni?
13Ac ef a ddyuot wrthynt, Na chaisiwch ddim mwy nag a ’osodwyt y chwy.
14A’r milwyr wythe a ymofynesont ac ef, gan ddywedyt, A’ pha beth a wnawn nineu? Ac ef a ddyuot wrthynt, Na vyddwch draws wrth nep, ac na cham‐achwynwch ar ueb, a’ byddwch voddlawn ich cyfloge.
15Mal ydd oedd y popul yn dysgwyl, a’ phavvp oll yn synveddilied yn ei calonoe am Ioan, ai anyd oedd ef y Christ,
16ydd atepai Ioan, ac y dywedai wrthynt oll, Myvi yn ddiau ’sy yn ych betyddiaw a dwfr, anid y mae vn cryfach na myvi, yn dyuot, yr hwn nid wyf dailwng y ddatot carreu ei escidie: efe ach betyddia ar Yspryt glan, ac a than.
17Yr vn ’sy aei ’oagr yn y law, ac ef a lwyrlanha ei lawr, ac a gascl ei ’wenith y’w escupawr, a’r vs a lysc ef a’ than andiffoddadwy.
18Ac vellhyn gan gygcori llawer o bethae eraill, y precethawdd ef ir popul.
19Eithyr pan argyhoeddit Herod y Tetrarch ganto ef am Herodias gwreic Philip ei vrawt, ac am yr oll scelerae a wnethesei Herod,
20ef a angwanegawdd hyn hefyt ar vcha oll, goarchau o hanaw Ioan yn‐carchar.
21Ac e ddarvu, wrth vatyddiaw yr oll popul, ac y betyddiwyt Iesu, ac y gweddiawð ef, val yr agorit y nef:
22a’r Ysprit glā a ddescendadd mewn rhith corphorawl megis colomben, arno ef, ac yr oedd llef o’r nef yn dywedyt, Ti yw vy-caredic Vap: yno ti yr ymvoddlonaf.
23Ac ys ef Iesu a ddecheuawdd vot yn cylch ddec blwydd ar vgain ’oed, yr hwn oedd (val y tybit) yn vap i Ioseph, yr hvvn oedd vap Eli,
24vap Mathat, vap Leui, vap Melchi, vap Ianna, vap Ioseph,
25vap Mattathias, vap Amos, vap Naum, vap Esli, vap Nagge,
26vap Maath, vap Mattathias, vap Semei, vap Ioseph, vap Iuda,
27vap Ioanna, vap Rhesa, vap Zorobabel, vap Salathiel, vap Neri,
28vap Melchi, vap Ad‐di, vap Cosam, vap Elmodā, vap Er.
29Vap Iose, vap Eliezer, vap Iorim, vap Matthat, vap Leui,
30vap Simeon, vap Iuda, vap Ioseph, vap Ionan, vap Eliacim,
31vap Melea, vap Mainan, vap Mattatha, vap Nathan, vap Dauid,
32vap Iesse, vap Obed, vap Booz, vap Salmon, vap Naasson,
33vap Aminadab, vap Aram, vap Esrom, vap Phares, vap Iuda,
34vap Iacob, vap Isaac, vap Abraham, vap Thara, vap Nachor,
35vap Saruch, vap Ragau, vap Phalec, vap Eber, vap Sala,
36uap Cainan, vap Arphaxad, vap Sem, uap Noe, uap Lamech,
37uap Mathusala, vap Enoch, uap Iared, uap Maleleel, uap Cainan,
38uap Enos, uap Seth, ’ap Adda, ’ap Duw,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.