1AC am y petheu a aberthir ir geudduwieu: gwyddom vot genym bawp wybodaeth, gwybodaeth a chwyða, anyd cariat a adaila.
2Ac a thybia nep y vot yn gwybot peth, ny wyr ef eto ddim val y dyly wybot.
3Anyd a’s car neb Dduw, e gafas hwn wybodaeth gantaw ef.
4Can hyny am vwyt‐a aberthir ir eiddolon, gwyddom nad yw eiddol ddim yn y byt, ac nad oes neb Duw arall, anyd vn:
5A’ chyd bot ’rei a elwir yn ddeuwieu, ai yn y nef, ai yn y ddaiar, (megis y mae duwiae lawer, ac arglwyddi lawer)
6er hynny i ni nyd oes and vn Duw, ’sef y Tat, o ba vn y mae pop peth, a nineu ynddo ef: ac vn Arglwydd Iesu Christ, gan yr hwn y mae yr oll petheu, a’ ninen trwyddo yntef.
7Eithyr nyd oes gan bawp gyfryvv wybodaeth: can ys rei a chanthynt gydwybot ir eiðol, yd yr awrhon, a vwytaant val yn peth wedy’ aberthu ir eiðol, ac velly eu cydwybot yn bot yn wan, a halogir.
8Eithyr ny wna bwyt ni yn gymeradwy gan Dduw: can ys a’s bwytawn, nyd oes i ni vwy: nac any vwytawn, nyd oes i ni lai.
9Anyd gwelwch rac ich meddiant hwnw vot yn achos tramgwyð ir ei ’sy weinion.
10Can ys a’s gwyl nep di ’sy a gwybodaeth genyt yn eistedd i vwyta yn teml yr eiðolon, anyd addyscir cydwybot yr hwn ’sy wan, i vwyta or petheu hyny a aberthwyt ir eiðolon?
11A’ chan dy wybodaeth di y cyfirgollir dy vrawt gwan, dros yr hwn y bu varw Christ.
12Ac a’ chwi yn pechu velly yn erbyn y brodur ac yn briwo ei gwan gydwybot hwynt, ydd y‐wch yn pechu yn erbyn Christ.
13Erwydd paam a’s trancwydda bwyt vy‐brawt, ny vwytawyf gic yn tragyvythawl, rac ym beri im brawt dramcwyddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.