1O Ble y may y rryfeloedd a’r ymladdau yn ych plith chwi? onid oðiwrth hynn, sef ych trachwantay, rrai ynt yn ymwan yn ych aylodau?
2Chwennychu yddych, ac heb caffael: cenftgennu yddych, ac eiddigedd sy cenych, ac heb allu ymorddiwes: ymladd a’ rryvela y ddych, heb gael dim, am nad ydych yn govyn.
3Gofyn y ddych, ac ni dych yn derbyn herwydd ych bod yn gofyn ar gam, fal y gallech eu dreulio ar ych trachwantay.
4Chwi odinebwyr a’ godinebwragedd, oni wyðochi fod cariad y byd yn elyniaeth can Ddyw? Am hynny pwy bynac a fynno fod yn car ir byd, y may yn ymwneuthyr yn elyn i Ddyw.
5Ydychi yn tybiaid fod yr yscrythyr yn doydyt yn ofer, Yr ysbryd syn yn trigo ynomi ni, at genvigen y may ei chwant?
6Eithr y may yr Scrythur yn cynnyc mwy o ras, ac am hynny yn doydyt, Dyw sy yn gwrthnebur bailch, ac yn rroi gras ir ei vfydd.
7Ymostyngwch am hyny y Ddyw: gwrthnebwch ddiawl, ac ef a gilia o ddiwrthych.
8Nessewch at Ddyw, ac ef a nessaa attoch. Glanhewch ych dwylo, chwi pechaduriaid, a’ phurwch ych calonnay, chwi ar meddwl dau ddyblig.
9 Ymgospwch, ac alerwch, ac wylwch: bid yvvch troi ych chwerthin yn alar, ach llywenydd yn dristwch.
10Ymddarostyngwch gar bronn yr Arglwydd, ac ef ach cyfyd y fyny.
11Na ddoydwch yn erbyn y gilidd, fymrodyr. Y neb a ddyweto yn erbyn i frawd, ac hwn a farno eu frawd, y may yn doydyt yn erbyn y gyfraith, ac yn barnur gyfraith: ac os wytti yn barnur gyfraith, nid y dwytti yn gyflownwr cyfraith, namyn browdwr.
12Vn gosodwr cyfraith y sydd, rrwn a ddichin gadw, a cholli. Pwy ydwytti rrwn a ferni ar arall?
13 Iddo ’nawr yr rai a ddoydwch, Heddiw neu fory ni awn i gyfryw ddinas, ac a arrosswn yno flwyddyn, ac a farchnattawn ac a ynnillwn,
14(Rrain ni wyddoch beth a fydd y vory. Cans beth ydiw ych enioes chwi? Tarth yn wir ydyw rrwn a ymddengys ychydig amser, a chwedi hyny a ddiflanna)
15Yn lle hynn a ddylech y ðoydet, Os yr Arglwyð a y mynn, ac oss byddwn byw, ni a wnawu hyn, neu hynny.
16Eithr chwi yn awr ymryfygu y ddych, yn ych gwacfost: pob cyfryw ryfig drwg yw.
17Am hynny, y neb a wyr wneuthyr yn dda, ac niss gwnel, mewn pechod y may.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.