Yr Actæ 20 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xx.Paul yn mynet i Macedonia ac i

Grecia. Ef e yn arlwy swper yr Arglwyð ac yn precethy. Yn Troas y mae ef yn cyfody Eutychus. Yn Ephesus y mae ef yn calw llenafieit yr Eccles ynghyt, yn gorchymyn ceidwadigaeth devait Dew yddwynt, yn ei rhubyddio rac gan ddyscyawdwyr, yn cydwediaw ac wynt, ac yn myned mewn llong tu a Caerusalem.

1AC wedy darvot yspeidiaw or derfysc, y galwodd Paul y discipulon ataw, ac y cofleidiawdd hwy, ac y tynnawdd ymaith y vynet i Macedonia.

2Ac wedy iddaw vynet, trwy y parthae hyny, a’ ei h’annoc drwy lawer o ymadrodd, yd aeth ef i dir Groec.

3Ac yn ol trigio ynavv dri‐mis, erwyð bot cynllwyn iðo gan yr Iuðeon, val yð oeð yn ei vryd vordwyo i Syria yr oeð ef yr vedr ddadymchwelyt trwy Macedonia.

4A’ chyd‐ymddaith ac ef ir Asia a wnaeth Sopater y Beroiat, ac or Thessaloniceit, Aristarchus, ac Secundus, ac Gaius Dderbaiat, ac Timotheus, ac or ei or Asia Tychicus, ac Trophimus.

5Yr ei hynn aethent o’r blaen, a’n aros a wnaethant yn‐Troas.

6Ac nineu a vordwyesam ymaith y wrth Philippi, yn ol dyðiae yr bara croiw, ac a ðaetham atwynt i Troas ym‐pemp diernot, lle yr arosam saith dydd.

7A’r dyð cyntaf or wythnos a’r discipulon wedy dyvot yn‐cyt y ddrylio bara, y precethawdd Paul yðwynt, ac ef ar vynet ymaith dranoeth, ac a barhaodd yn precethy y dan haner nos.

8Ac ydd oedd llucernae lawer yn‐goruch‐ystafell, lle ydd oeddent wedy’r ymglascy yn‐cyt.

9Ac eisteddawdd mewn ffenestr neb gwas ieuanc a’ ei enw Eutychus, wedy pwyso mewn trwmgwsc: ac val ydd oedd Paul yn hir precethy, ef e yn ’orthrwmedic gan hunaw, a ddygwyddodd i lawr or trydyðloft, ac a godwyt y vyny yn varw.

10Ac Paul a ddescennawdd, ac a orweddawdd arnaw, ac ei coflleidiawdd, gan ddywedyt, Na chyffroet arnoch: can ys y mae ei enait ynthaw eto.

11Velly yn ol esceny Paul drachefn, a dryllio bara, a’ bwyta peth, ef a hir ymddiddanawð yd ar glais y dydd, ac yno yð aeth ymaith.

12Ac wy a dducesont y bachcen yn vyw, ac wy ddiddanwyt yn ddivesur.

13Yno yr aetham ymaith ir llong, ac ir hwyliesam i ddinas Assos, er mwyn bot i ni dderbyn Paul yno: can ys velly y daroedd yddo arvaethy, a’ myny bot ehun yn peddit.

14Ac wedy y ddyvot ef atom y y Assos, aei dderbyn o hanam, yd aetham i Mytelenes.

15Ac mordwyaw a wnaetham o ddyno a’ dyvot tranoeth ar gyf‐or Chios, a’ thranoeth y tiriesam yn Samos, ac a drigesam yn Trogillium: y dydd nesaf yd aetham i Miletum.

16Can ys darvot i Paul amcanu mordwyaw eb law Ephesus, erwydd na vynnai dreuliaw amser yn Asia: can ys brysiaw ydd oedd, a’s bai possibil iddaw, y vot yn‐Caerusalem, y dydd Pentecost.

17Erwydd pa ble it, o Miletum yd anvonodd ef y Ephesus, ac y galwoð am Henafieit yr Eccles.

18Yr ei pan ddaethant ataw, ef a ddyvot wrthwynt, Chwichvvy wyddoch o’r dydd cyntaf yd aethym i Asia, pa wedd y bum gyd a chwi pop amser,

19yn goasonaethy yr Arglwydd gyd ac oll gestyngeiddrwydd‐meddwl, a’ llawer daigr, a’ phrovedigaethae, yr ei a ddescenesont y mi gan gynllwyne yr Iuddaeon,

20ac val na ’ommeddeis ddim ar oedd gyfles, amyn ei vanegy y chwy, a’ch dyscy yn ’oleu, ac ar hyd pop tuy,

21gan testiaw ys ir Iuddaeon, ac ir Groecwyr yr ediveirwch tu ac at Ddew, ac ffydd ar ein Arglwydd Iesu Christ.

22Ac yn awr wele, vyvi yn rhwym yn yr yspryt yn mynet i Gaerusalem, eb wybot pa beth a ddervydd y my‐ynthei.

23Anid bot yr Yspryt glan yn testiaw ym‐pop dinas, gan ddywedyt, bot rhwymae a’ blinderoedd yn vy aros.

24Eithyr nad wy vi yn gwneythy dim devnydd, ac nid oes genyf vri ar vy‐bywyt vyhun, a’s gallaf ’orphen vy‐cerddet gyd a llawenydd, a’r gweinidogaeth yr hwn a dderbyniais y gan yr Arglwydd Iesu, y destolaethy Euangel rrat Dew.

25Ac yr awrhon wele, mi ’wnn pan yw o hynn allan na bydd y chwi bawp, trwy yr ei y cerddais gan praecethy teyrnas Dew, weled vy wynep mwyach.

26Erwydd paam eich galwaf yn testolaeth y dydd heddyw, vy‐bot i yn ’lan y wrth waet pavvp oll.

27Can na childynnais i ddim, rac dangos ychwy oll gyccor Dew.

28Edrychwch gan hyny arnoch eeich hunain, ac ar yr oll ddevait, ar yr ei y gwnaeth yr Yspryt glan chwi yn Olygwyr, i borthy Eccles Dew, yr hon a bwrcasodd ef aei briawt waed.

29Can ys mi a wn hyn, yn ol vy mynediat, y daw bleiddiae trymion, yn eich plith, eb eiriach y devait.

30Eb law hynny, o hanoch eich hunain y cyvyd gwyr a adroddant bethae trawsion, y dynny discipulon ar ei hol.

31Am hyny gwiliwch a’ meddyliwch, pan yw tros yspait tair blynedd na pheidiais i a rhybyddio pop vn, ðydd a’ nos a daigrae.

32Ac yr awrhon vroder, eich gorchymynaf i Ddeo, ac i air y rat ef, yr hwn ys yð abyl y adeiliat angwanec, a’rhoi y chwy etiueddiaeth ymplith yr oll rei, ys ydd wedy ei sancteiddio.

33Ariant neu aur nai gwisc nep ny chupyddais.

34Ac chwychvvi a wyddoch, bot i’r dwylo hynn arweini im angenreidiae, ac ir ei oedd gyd a mi.

35Yr oll bethae a ddangoseis y‐chwy, p’odd gan weithiaw velly, y dylech gynnal y gweiniaid, a’ choffa geiriae yr Arglwydd Iesu, can yddaw ef ddywedyt, Gwynvydedic yw rroddy yn hytrach no derbyn.

36Ac wedy yddo ddywedyt hyn, y gestyngawdd ar ei ’liniae, a’ gweddiawdd y gyd ac wynt oll.

37Yno yr wylesont wy oll yn ddirvawr, ac y rhuthresont yn‐mwngl Paul, aei gyssany,

38gan ymovidio yn bennaf o bleit y gairiae a ddywedesei ef, Na chaffent vvy welet y wynep e mwyach Ac vvy ei cynhebryngesant i’r llong.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help