1ARglwydd, clyw vy-gweddi, a’ deuet vy gwaedd atat’
2Na chudd dy wynep rhagof yn dyð cyfnigder: inclina dy glust ataf: y dydd y galwyf, brysia im gwrando.
3Can ys darvu vy-ddyddiae val mwc, am escyrn y boethwyt megis aelwyt.
4Trawyt vy-calon a ’gwywawð val glaswellt, can ys angofeis vwyta vy-bara.
5Can lais vy-irad y glyn vy escyrn wrth vy-croen.
6Cyffelip wyf ir pelican o’r diffeithwch: mal tylluan wyf yn yr anialwch.
7 Gwiliaw ydd wyf ac yr wyf mal aderyn y to vnic ar ben y tuy.
8Paunydd im divenwa vy-gelynion, ar ei ysy yn ynvydu wrthyf, a dyngesont im erbyn.
9Can ys llutw val bara a vwyteis, am diot ac wylofain a gymysceis,
10Obleit dy var ath ddigoveint: can ys im dercheveist, ac im bwrieist ir llawr.
11Vy-dyddiye val gwascawt, a gilia, a’ minau mal gwelltglas y wywais,
12 Tithau Arglwydd ysy yn aros yn tragyvyth, ath coffaduriaeth o genedlaeth y genedlaeth.
13Ti a gody ac a drugaréy wrth Tsijon: can ys yr amser y drugarhay wrthei, can ys daeth yr amser-nod.
14Can ys may dy weision ac ewyllys-da yw main hi, ac yn tosturiaw wrth y llwch hi.
15Yno y cenedloeð y ofnant Enw yr Arglwyð, ac oll Vrenhinedd y ddaiar dy ’ogoniant,
16Pan adeilo yr Arglwyð Tsijón y tgweler yn ei ogoniā
17Ac yr edrych ar weddi y dyn llesc, ac ny thremyga ei gweddi.
18Hyn y escrivennir er genedlaeth ar ol: a’r popul y creer, a vawl yr Arglwydd.
19Can ys edrychawdd ef y lawr o vchelder ei Gyssecr: o’r nefoedd y syllawdd yr Arglwydd ar y ddaiar,
20 Yn y glywei ef gwynovain y carcharawr, a’ gwaredy plant angae.
21Yn y venegant Enw yr Arglwydd yn Tsijon, a’ ei voliant yn Caerusalem,
22Pan ymgynullo y populoedd y gyd, a’r teyrnasoedd y wasanaethy yr Arglwydd.
23 Gestyngawdd ef vy nerth yn vy ffordd, byráodd vy-dyddiae.
24A’ dywedais, Vy-Dew, na ddwc vi ymaith yn cenol vy-dyddieu: dy vlynyddedd di o genedlaeth i genedlaeth.
25 Gynt y seilieist y ddaiar, a’gwaith dy ddwylaw nefoedd.
26Wyntwy y gollir, tithau a sefy: wyntwy oll a henāt val dilledyn: mal gwisc ydd ysmuty hwy, ac eu ysmutir.
27 Tithau yr vn ytwyt, ath vlyddynedd ny phallant.
28Plant dy weision a arosant, a’ei had vydd savadwy rhac dy wynep.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.