1Y Pethe hyn a’ adroddawdd yr Iesu, ac a dderchavawdd ei lygait er nef, ac a ddyvot, Y Tat, mae’r awr wedy dyuot: gogonedda dy Vap, megis ag y gallo dy Vap dy ’ogoneddu di.
2Mal y rhoddeist yddaw veddiant ar bop cnawt, y roddy o hanaw vuchedd dragyvythawl y ginniuer oll ac a roðeist yddaw.
3A’ hon yw’r vucheð tragyvythawl, ’sef yddyn dy adnabot ti y vot yn vnic wir Dduw, a’r hwn a ddāvoneist Iesu Christ.
4Mivi ath ’ogoneddais ti ar y ddaiar: cwpleis y gwaith y roddeist ymy yw wneuthur.
5Ac yr awrhon gogonedda vi, tu di Dat, gyd a thydy, a’r gogoniant a oedd i mi gyd athi o vlaen bot y byt.
6Eglurais dy Enw y ddynion yr ei a roðeist ymi allan or byt: tau di oddent, a’ rhoddaist hwy i mi, a’ chadwasant dy ’air.
7Yr awrhon y gwyddant, am yr oll pethae bynac a’r a roddeist i mi, y bot o hano ti.
8Can ys rhoesym yddynt y geiriae, a rhoðeist y mi, ac wynt eu derbyniniesont, ac a wybuont yn ddieu ddyuot o hanof y wrthyt, ac a gredesont mai tu am danvonawdd i.
9Mivi sy yn gweddiaw drostynt: nyd wyf yn gweddiaw tros y byt, eithr tros yr ei a roddeist y my: can ys tau ydynt.
10A’r oll vau yyn tau, a’r tau yyn vau, ac im gogoneddir ynddynt.
11Ac yrowrhon nyd wyf mwyach yn y byt, eithyr bot rhei ’n yn byt, a’ mi ’sy yn dyuot atat. Y Tat sanct, cadw hwy yn dy Enw, ’sef yr ei a roðeist ymy, yn y vont vn, val ydd ym ni.
12Tra oeðwn gyd ac wynt yn y byt, mi ei cedweis hvvy yn dy Enw: yr ei a roddeist y‐my, a gedweis, ac ny chollwyt yr vn o hanynt anyd y map y cyfergoll, er cyflawuy ’r Scrythur ’lan.
13Ac yr awrhon yd af atat, a’r pethe hyn ydd wyf yn y hadrodd yny byt, val y caffant vy llewenydd yn gyflawnedic ynddynt ehunain.
14Mivi a rois yddynt dy ’air, a’r byt y casaodd hwy, can nad ynt o’r byt, megis ac nad wy vi o’r byt.
15Nyd weddiaf a’r gymeryt o hanoti hwy allan o’r byt, eithyr ar y ty y cadw hwy y wrth ddrwc.
16Nyd ynt vvy o’r byt, megis ac nyd yw vinef o’r byt.
17Sancteiðia hwy ath wirioneð: dy ’air ’sy wirionedd.
18Megis yd anvoneist vi ir byt, velly yd anvoneis i’n hwy ir byt.
19Ac er y mwyn hwy yr ymsancteiddia vi, megis ac y sancteiddier hwythe hevyt trwy ’r gwirionedd.
20Ny weðiaf tros y’r ’ei hyn yn vnic, eithyr tros y sawl hefyt a’r a gredant ynof vi, trwy y gair hwy,
21megis y byddant vvvy oll yn vn, mal ti, Dat, vvyt yno vi, a’ myvi yno ti: sef mal y bont wythe hefyt yn vn ynom’, mal y credo ’r byt ddarvot y ti vydanvon i.
22A’r gogoniant a roddeist i mi a rois i ydd wynt, mal y bont vn, meis ydd ym ni vn,
23myvi ynddynt hvvy, a’ thi yno vi, y n y vont gwbl yn vn, ac y n y wypo ’r byt, mai ti am danvonawdd i, ac y cereist hwy, megis y ceraist vi.
24Y Tad, wyllysu’ ddwyf am yr ei a roddeist y‐my, y bot wy gyd a mi yn y lle ac ydd yw vi, val y cahant edrych y gogoniant meuvi, yr hwn a roddeist y mi: can ys ceraist vi cyn no bot sailiat y byt.
25A Dat cyfiawn, y byt hefyt nith adnabu, a’ mivi ath adnabuo, a’r ei hyn a adnabuant, mai tudi a’m danvonawdd.
26A’ mi ddatcenais yddynt dy Enw, ac eu datcanaf y n y bo y cariat y cereist vi, ynddynt‐hwy, a’ mine ynddynt hvvytheu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.