1.Petr 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.1 Py wedd y dlei bot ymwreiddiat gwrageð yw gwyr, 3 Ac yn ei gwascat. 7 Dlet gwyr yw gwrageð. 8 Y mae ef yn aunoc pawp i vndap a’ chariat, 14 Ac yn ymarous y ðyoðef trwbl wrth esempl a’ dawnged Christ.

1VAl hynny hefyd y gwragedd, byddant ostyngedic yw gwyr priod mal y galler os byddai rrei anvfyddion ir gair, trwy ymwreddiad y gwrageð eu hynnill hwynt heb y gair.

2Pan ganfyddont ych ymwreðiad diwair, ys y gyd ac ofn.

3Trwsiad yr hain nid oddiallan y bytho, megis o blethiadau gwallt, ac amgylch osodiad aur, neu wisciad dillat gvvychion.

4Eithr dyn dirgeledic y galon, bid dihalawc, ac ysbryd esmwyth llonydd, rrwn sydd fawr eu bris gar bron Dyw.

5Can ys velly gynt ir ymdrwssiayr gwragedd santaidd, rrain vyddynt yn gobeithio Dyw, yn ddarostyngedic yw gwyr priawd.

6Megis ir vfuddhaodd Sara y Abraham, can y alw ef yn Arglwydd: merched yr hon fyðwchi, o wneuthyr yn dda, heb arnoch ofn dim dychryn.

7Chwithau y gwyr, yr vn ffunyd, cydgyfanheddwch ac wynt mal y gwedday i rai gwybodol, can roði anrrydedd ir wraic, megis ir llestr gwānaf, mal y rrai sy hevyd cydetifeddion gras y bowyd, rrac rrwystro ych gweddiay‐chwi.

Yr Epistol y v. Sul gwedy Trintot

8Am benn hyn, byddwch bawb or vn meddwl, yn cydoddau pawb gidau gilidd: cerwch fal brodyr: byddvvch yn drugawg: byddvvch yn gwrtais.

9Nid yn talu drwc tros drwc, neu ddirmic tros dirmic: namyn elchwyl bendithiwch, gan wybod ych galw y hyn, sef y freinior fendith o etifeddiaeth.

10Can ys y neb a chwennych y bowyd, ac a garo weled dyddiau da. attalied eu davod o ddiwrth ddrwc, ay wefusay rrac adrodd twyll.

11Gocheled y drwc a gwnaed y da: ceisied heðwch a dilyded hwnw.

12Can ys llygaid yr Arglwydd ’sy tuagat yr er ei cyfion, ay glustiay ef tu ac at y gweði hwynt: eithr wyneb yr Arglwydd fydd goruch y rrai a wnel drwc.

13A’ phwy ach dryga chwi, os byddwch yn dylid yr hyn ’sy dda?

14Eithr o bydd ywch ddyoddef herwydd cyfiownder, dedwydd ydych: ond am y brawchiad hwynt nad ofnwch, ac na chynhyrfwch.

15Eithr santeiddiwch yr Arglwydd Ddyw yn ych calonay: a’ byddwch barawd bob amser y atteb y bawp a ofynno ywch reswm am y gobaith sy ynoch,

16 A hynny trwy vfuddtra a chwrteisrwyd, a’ chenych cydwybod dda, mal y gallo y rrai a ddoyto yn ych erbyn megis yn erbyn rrai drwc, quilyddio, rrain a feiant ar ych dayonys ymwreddiad yn‐Christ.

Yr Epistol ar nos Pasc.

17Can ys gwell ydyvv (os wollys Dyw ay mynn) i chwi ddyoddef yn gwneuthr dayoni, nac yn gwneuthyr drugioni.

18Can ys Christ hevyd vnwaith a ddioddefodd tros pechoday, y cyfion tros yr anghyfion, mal y galle yn dwyn ni at Ddyw, ac a gavas marfolaeth yn y cnawd, eithr a fywhawyd yn yr yspryd.

19Trwy rhwn hevyd y ddaeth ef, ac a bregethawð ir esprydion oedd yn‐carchar,

20Gynt yn anvfydd hwynt, pan vnwaith y ðoeð hir ymynedd Dyw yn discwyl yn‐dyddiay Noe, pan ddarparheid yr arch, yn yr hon ychydigion, ysef yw, wyth enaid a achubwyd yn y dwfr.

21Ir rrwn y may yr angraifft sy yn awr yn eyn achub ninay ysef y bedydd yn attep (nid trwyr hwn y tynnir y ffordd budreði y corph, eythr trwyr hwn y gwna cydwybod dda ymofyn a Dyw) trwy gyfodedigaeth Iesu Christ,

22Rrwn sydd ar y llaw ddeau i Ddyw, gwedi myned ir nef, ar Angylion ar poweroeð, ar gal’u wedi ymddarostwng iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help