1MI ath caraf-yn-gu Arglwydd, vy=cadernit.
2Yr Arglwydd yw vy graic, am amddeffen, a’m gwaredwr, vy=Dewm nerth: yntho ymddiriedaf, vy=tarian, a’chorn vy iechydwrieth,m noddfa.
3Galwaf ar yr Arglwydd mo-[liann]adwy: ac im cedwir rac vy=gelynion.
4Can ys gofidion angae am cylchenesont, a llifddeirieint y vall am ofnesont.
5Govidion y bedd am gogylchent, hoynynae angae am goddiweddynt.
6Eithr yn vy=trallawt y galwais ar yr Arglwydd, ac y llefais wrth vy=Dew: ef a glybu vy llef o’i Templ, a’m llefain a ddaeth rac ei vron ef, y’w glustiae.
7Yno y cynnyrvodd y ddaiar, ac y crynawdd, a’ seiliae y mynyðeð a ymodwyt, ac escutwyt erwydd yðo ef ddigio.
8E ddeuth y mwc allan o’i ffroeneu, a’ thân bwyteic o ei’enae: glo a enynei ganthaw.
9Ef a ostyngawdd y nefoedd hefyt ac a ddescennawdd, a’ thywyllwch oedd y dan ei draed.
10Ac ef a varchocáwdd ar Cherub ac ehedawdd, ys ehedawdd ef ar adanedd y gwynt.
11E wnaeth y tywyllwch yn ðirgelfa yddaw,i babell oei amgylch, ’sef tywyllwch dwfredd, wybrennae yr awyr.
12Gan ddysclaerdap ei gydrycholdep ef yr aeth ei wybrennae, cenllysc a marwar tan-[llyt.]
13Yr Arglwydd hefyd a daranawdd yny nef, a’r Goruchaf y roddes ei leferydd, cenllysc a’ marwar tan-[llyt.]
14Yno yd anvones ei saithae ac ei goyscarawdd hwy, ac ef a amláodd ei vellt ac ei dinistriawdd hwy.
15Ac eigiawn y dyfredd a welwyt, a’ sailieu y byt a ddynoethwyt gan dy goddiat, Arglwydd, y gan chwythat anhetl dy ffroeneu.
16E ddanvonawdd y lawr o ðuchot a’m cymerawð: ef am tynnawdd o lawer o lawer o ddyfredd.
17Ef am gwaredawdd rac vy=gelyn cadarn, a’ rhac vy-dygaseion: can ys trech oeddent na myvi.
18 Achubesant vy-blaen yn dydd vy gorthrymder: a’r Arglwydd oedd vy=cynhaliat.
19Ac ef am duc y ehengder: e am gwaredawdd can yddo vy hoffy.
20Yr Arglwydd am gobrwyawdd yn ol vy=cyfiawnder: yn ol glendit vy=dwylaw y talawdd y=my.
21Can ys cedweis ffyrdd yr Arglwydd, ac ny wneuthym enwaredd yn erbyn vy-Dew.
22Can ys ei oll Gyfraithieu ef ger vy=bron, ac na vwriais ei orchymynae y-maith y wrthyf.
23Ac ys bum yn berfaith y gyd ac ef, ac a ymgedwais rac vy enwiredd,
24Am hynny i’m gobrwyawdd yr Arglwydd yn ol vy cyfiawnder, yn ol purdep vy=dwylaw yn y olwc ef.
25Y gyd a’r duwiol, duwiol vyddy: y gyd a’r gwr perfeith perfeith vyddy.
26Y gyd a’r glan, glan vyddy, ac y gyd a’r cyndyn cyndyn vyddy.
27Can ys ti a waredy y bopul dlodion, ac y ’ostyngy ’olygon vchel.
28Ys ti oleui vy=canwyll: yr Arglwydd vy=Dew a lewycha vy-tywyllwch.
29O bleit can y ti y torais trwy ’r byðin: a’thrwy vy=Dew y naidiais dros y vagwyr.
30Fordd Ddew ddihaloc: gair Dew ys ydd wedy ei goethi: tarian yw ef y bawp a ymddirietant ynthaw,
31Can ys pwy yw Dew eb law yr Arglwydd? a’ phwy ys y gadarn anid ein Dew?
32Sef Dew am gwregysawdd a nerth, ac a wnaeth vy ffordd yn perfaith.
33E wnaeth vy-traet val ewigod, ac ar yr vcheloedd im gesodawdd.
34E ’s’yn dyscu vy-dwylaw y ryvela: ac a ddryllir bwa efydd y gan ve=breichieu.
35A’ rhoddeist ymy darian dy iechyt: ath ddeheulaw am cynnalyawdd, a’th hawddgarwch a’m lliosocawdd.
36Ehengaist vy=cerddediat y danaf, ac ny lithrawdd vy sodleu.
37Erlidiais vy=gelynion ac eu daliais, ac nyd ymchwelais tragefyn nes ym’ ei diva.
38 Archollais hwy val na allent efsyll: cwympesont y dan vy=traet.
39Can ys gwregeseist vi a nerth i ryvel: yr ei a godawð yn v’erbyn darostngeist y danaf.
40A rhoðeist ymy warreu vy=gelynion y’n y ðestruwiwn y rei am casaant.
41 Llefain a wnaethant, ac nyd a ei gwaredai, ar yr Arglwydd, ac nyd atepawdd yddynt.
42A’ ei bayðais cyn vanet a’r llwch o vlaen y gwynt: myssengais wy mal pridd yr heolydd.
43Gwaredaist vi rac cynnennae y popul: gesodaist vi yn ben y cenedloedd.
Popul, nyd adnabuum, am gwasanaethant.
44Cy gynted y clywant, yr vfyddánt y my: plant estrō a ddarostyngir ymy.
45Estronieit a ddyfrgollant, ac a ofnant yn ei carchareu.
46Byw vo ’r Arglwydd, a’ bendithier vy nerth, a’ derchafer Dew vy iechyt.
47[Ys ef] Dew ymðial, ac y ddarestwng y popul y danaf.
48Vy gwaredwr rac vy=gelynion, ys ti am derchefaist y wrth yr ei a gyvodent im erbyn: gwaredaist vi rac y gwr craulon.
49Am hyny y diolchaf yty, Arglwydd, ymplith y cenedloedd, ac y canaf ith Enw.
50Ys mawr waredau a rydd ef y’w Vrenhin, ac yn gwneuthur trugared y’w enneiniawc, ’sef y Ddauid, ac y’w had yn tragyvyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.