1YNo y dyuot ef wrth ei ddiscipulon, Ny aill bot amgen, na ðaw rhwystrae, an’d gwae ef drwy ’r hwn y dauant.
2Gwell oedd yddaw ef pe crogit maen melin mavvr yn‐cylch ei vwngl, a’i davlu i’r mor, na bod iddaw rwystraw vn or ei bychain hyn.
3Cedwch arnoch eich hun: a’s gwna dy vrawt sarhad yn dy erbyn, cerydda ef: ac a’s yvv ediuar gantaw maddae y‐ddaw.
4A’ chyd pecho ith erbyn saithwaith yn y dydd, a’ seithwaith yn y dydd troi atat, gan ddywedyt, Mae’n ediuar genyf, maddae y‐ddaw.
5A’r Apostolon a ddywedesont wrth yr Arglwydd, Angwanega ein ffyð.
6A’r Arglwydd a ddyuot, Pe bai genwch ffyð cymmeint ac yvv gronyn o had mustard, ac a dywedech ymblanna yn y mamin hwn, Ymddadwraiddia, ac wrth y pren sycor, ys uvyddhay ef y‐chwy.
7Pwy o hanoch hefyt ac iddo was yn aredic neu yn porthi da, a ddywait wrthaw yn y van, yn ol dyuot o’r maes, Dos, ac eiste ’i lawr y vwyta?
8ac ny ddywait yn hytrach wrthaw. Cyweiria hyn a swperwyf, ac ymwregysa, a’ gwasanaetha vi, nes i mi vwyta ac yfet, ac wedy hyny bwyta, ac yf dithe?
9A ddiolch ef ir gwas hwnw can wneythyd o hanaw hyn a ’orchmynesit yddaw? nyd wy’n tybiet.
10Ac velly chwitheu, gwedy gwneloch pop perh oll, ar a orchymynwyt y‐chwy, dywedwch, Paam, Gweision anvuddiol ym: can ys hyn a ddylesem ey wneuthyd, a wnaetham.
Yr Euangel y xiiij. Sul gwedy Trintot.
11¶ Ac velly y darvu ac ef yn mynet i Gaerusalem, ac ef a ddeuth trwy genawl Samaria a’ Galilea.
12Ac mal ydd oeð ef yn myned y mewn i ryw ben‐tref, y cyvarvu ac ef ddec‐wyr gohanglaf, yr ei a safesant o hirbell.
13Ac wy godesont ei llefae, can ddywedyt, Iesu, y Llywydd, trugarha wrthym.
14A’ phan welawdd ef wy, y dyvot wrthynt, Ewch, ymddangoswch ir Offeiriait. Ac e ddarvu, ac wy’n yn mynet y glanhawyt hwy.
15Yno vn o hanwynt, pan welawdd ddarvot ei iachay, a ymchwelawdd, ac a llef vchel e roes ’ogoniant y Dduw,
16ac a gwympawdd ar ei wynep wrth y draet ef, can ddiolvvch yddaw: a’ hwn oedd Samarit.
17A’r Iesu a atepawdd ac a ddyvot, A ny ’lanhawyt dec? a’ph’le mae’r naw?
18Ny chahat ar a ðelynt i roi gogoniant i Dduw, oddeithr yr estrawn hwn.
19Ac ef a ddyvot wrthaw, Cyvot, does ymaith, dy ffydd ath iachaawdd.
20A’ phan yr ymofynit yðo y gan y Pharisaiait, pa bryd y dauei teyrnas Duw, yr atepei yddynt, ac y dywedei, Ny ðaw teyrnas Duw wrth i dysgwyl.
21Ac ny’s dywedāt, Wely, yma, ne wely yna: canys wely y mae teyrnas Duw o’ch mewn.
22Ac ef a ddyuot wrth y discipulon, E ddaw ’r amser pan ddeisyfoch ’weled vn o ddyddiae Map y dyn, ac ny’s gwelwch.
23Yuo y dywedant wrthych, Wele yman, nei wele yna: eithyr nag ewch yno, ac na ddylynwch wy.
24Can ys megis y vellten a velltenna o yvvrth vn van y dan y nef, a dowyn i van arall y dan y nef, velly y bydd Map y dyn yn y ddydd ef.
25Eithyr yn gyntaf dir yw iddo ddyoddef llawer o bethæ, ai argyweddy y gan y genedleth hon.
26A’ megis y darvu yn‐dyddiae Noe, velly y bydd yn‐dyddiae Map y dyn hefyt.
27Bwytaent, yfent, gwreicaent, a’ gwrhaent, yd y dyð ydd ai Noe i’r Arch: a’ daeth y diliv, ac ei cyfercollawdd vvy oll.
28Yr vn modd hefyt, mal y darvu yn‐dyðiae Lot: bwytaent, yfent, prynent, gwerthent, plantent, adailent.
29Eithyr y dyð ydd aeth Lot allan o Sodoma, y glawiodd hi tan a’ brwmstan o’r nef, ac y dinistrawdd vvy oll.
30Erwydd yr esemplæ hyn y bydd yn y diernot yr ymddengys Map y dyn.
31Yn y dydd hwnw yr hwn ys ydd arucha y tuy, a’ ei ddodrefn yn tuy, na ddescendet yw gymeryd allan: a’ hwn ’sy yn y maes yr vn ffynyt, na ddadymchweled at yr hyn a adavvodd ar ol.
32Cofiwch ’wreic Lot.
33Pwy pynac a gais gadw ei enait, ef ei cyll: a’ phwy py pynac ei cyll, ei bywocaa.
34Dywedaf y‐chwy, y nos hon hono y bydd dau mewn‐vn gwely: vn a dderbynir, a’r llall a edewir.
35Dwy vyddant yn malu yn yr vn‐lle: y naill a gymerir, a’r llall a edewir.
37Ac vvy a atebesont, ac a ddywedesont wrthaw, P’le, Arglwydd? Ac ef a ddyuot wrthynt, P’le bynac y bo’r corph yno hefyt yr ymgascl yr eryrod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.