1AR Ddew at Ddew, ac ef am gwranandawoð.
2Yn-dydd vy-cyfingser y ceisiais yr Arglwyð: vy archoll y redai y nos ac ny pheidiai: vy eneit a wrthodes ei ddiddanu.
3Meddyliais am Ddew, ac im cynnyrfwyt: gweðiais, am yspryt oedd athrist. Sélah.
4Deliaist vy llygait yn-deffro: mewn trymvryd yr oeddwn ac ny allwn lavaru.
5[Yno] yr ystyriais y dyddiae gynt, blyddynedd yr oesoedd.
6Cofio a wnaethym vy canu y nos: ys cympwyllais wrth vy-calon, a’m yspryt a chwiliawdd ynddyval.
7A ymbellá yr Arglwyð yn tragywyth? ac a gair ei ewyllys da mwy?
8A ballawdd y drugareð ef byth? a ðarvu ei aðewit yn oes oesoedd?
9A angofiawð Dew vot yn drugaroc? a attaliodd ef ei drugareddae yn soriant? Selah.
10A’ dywedais, Vy angae ytyw: vlynyddedd deheulaw y Goruchaf.
11Cofieis weithredeð yr Arglwydd: ys cofieis am dy ryveddodeu o’r cynvyt.
12A’ mevyrias dy oll werthredeð, a’ chympwyllais am dy waithieu
13Dew dy fforð yn y Cyssecr: pwy ’sy gymeint Dew a’n Dew
14Ti y w’r Dew y wnai ryveddodae: gwnaethost wybot dy gedernit ym-plith y populoedd.
15 Gwaredeist ath vraich dy popul, meibion Iaco ac Ioseph. Selah.
16Y dyfreð ath welsant, Ddew: y dyfreð ath welsant ofnesant: ys y dyfndereu a grynent.
17Yr wybreu a dywalltent ddyfreð: y nefoeð a roðent leferyð: ys dy saetheu a gerddent.
18Llais dy daran oðyamgylch: y mellt a lewychent y byt: echrynawð y byt ac escutwodd.
19Yn y môr dy fforð, ath lwybrae yn y dyfredd mawrion, ath olae nid adwaenir.
20 Tywyseit dy popul mal deveit, drwy law Moysen ac Aron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.