1CAwch ir Arglwydd ganiat newydd: cennwch ir Arglwydd, yr oll ddaiar.
2Cenwch ir Arglwydd, molwch ei Enw, manegwch o ddyð yddydd y Iecheit ef.
3 Decleriwch ei ’ogoniant ymplith yr oll cenedloedd, ei ryveddodae ymplith yr oll poploedd.
4Can ys mawr Arglwydd a’thra chanmoladwy: terribil yw uchlaw yr oll ddewiae.
5O bleit oll ddewiae y bopuloeð idolon: sef yr Arglwydd y wnaeth y nefoedd.
6 Nerth a’ gogoniant ys y rac ei vron: meddiant ac anrydedd yn ei Gyssecr.
7 Rowch ir Arglwydd chwychwy dylwytheu y bopul: rrowch ir Arglwydd ’ogoniant a’ gallu.
8Rrowch ir Arglwydd ’ogoniant ei Enw: dygwch offrwm a’ dewch y mewn y’w nauaddeu.
9Addolwch yr Arglwydd yn y prydverth Gyssecr: ofnwch rac ei wynep yr oll ddaiar.
10Dywedwch ymplith y cenedloedd, Yr Arglwydd a deyrnasa: ys ffyrféir y byt, nyd yscoc, ac efe a varn y bopuloedd yn vniondep.
11Llawenhaet y nefoedd, a bit hyfryd y ddaiar, daddyrddet y môr a ei gyflawnder.
12Llawenechet y maes, a’ phop peth ys yd ynthaw: yno bid hyfryt oll wydd y coet,
13Rac bron yr Arglwydd: can y vot ef yn dyvot, can eu vot yn dyvot i varny y ddaiar: ef a varn y byt ac iawnder, a’r bopuloedd yn ei wirionedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.