1AC yn y dyddiae hyny, y daeth Ioan Vatyddiwr ac a precethawdd yn‐diffaith Iudaea,
2ac a ddyvot, Edifarewch: can vot teyrnas nef yn gyfagos.
3Can ys hwn yw ef am bwy vn y dywetwyt gan y Prophwyt Esaias, gan ddywedyt, Llef llafarydd yn y diffaith, paratowch ffordd yr Arglwydd: vniownwch y lwybrae ef.
4A’r Ioan hwnaw oedd ai ddillat o vlew camel, a gwregis o groen yn‐cylch ei lwyni: ai vwyt ef oedd locustae a mel gwyllt.
5Yno ydd aeth allan atto Gaerusalem ac oll Iudaea, a’r oll wlat o ddi amgylch Iorddanen.
6Ac ei batyddiwyt wy ganthaw yn Iorddonen, gan gyffessy ei pechotae.
7A’phan welawdd ef lawer o’r Pharisaiait ac or Sadduceit yn dywot y’w vetydd ef, y dyvot wrthynt, A genedleth gwiperoedd, pwy ach rac rybyddiawdd i giliaw rac y digofeint a ddelai?
8Can hynny dygwch ffrwythae teilwng i edifeirwch.
9Ac na veddyliwch ddywedyt ynoch eich unain, Y mae genym ni Abraham yn dat i ni: can ys dyweddaf ychwi, y dychon Duw o’r main hyn gyfodi i vyny blant i Abraham.
10Ac yr awrhō hefyt y gosodwyt y vwyall ar wreiddyn y preniae: can hyny pop pren, ar ny ddwc ffrwyth da, a drychir i lawr, ac a davlir ir tan.
11Myvi yn ddiau ach betyddiaf a dwfyr er edifeirwch, eithyr hwn a ddaw ar v’ol i, ys y gadarnach na myvi, a’ei escidiae nid wyf deilwng y’w dwyn: efe ach betyddia a’r Yspryt glan, ac a than.
12Yr hwn ’sydd aei vvogr yn ei law, ac a garth ei lawr, ac a gasel ei wenith yw yscupawr, anid yr vs a lysc ef a than diddiffoddadwy.
13¶ Yno y daeth yr Iesu o’r Galilaea i Iorddanen at Ioan, yw vetyddio y ganthaw.
14Eithr Ioan y gwrthladdawdd ef, can dywedyt. Mae arnaf eisiae vy‐betyddiaw y genyti, a’ thi a ddeuy atafi?
15Yno ’r Iesu gan atep, a ddyvot wrthaw, Gad yr awrhon: can val hyn y gwedda y ni gyflawni pop cyfiawnder. Yno y gadawodd yddaw.
16A’r Iesu wedi ei vetyddio, a ddaeth yn y van i vynydd o’r dwfr. Ac wely, y nefoedd a agorwyt iddaw, ac Ioan a welawdd Yspryt Duw yn descen val colomben, ac yn dewot arnaw ef.
17A’ nycha, llef o’r nefoedd yn dywedyt, Hwn yw vy caredic Vap, yn yr hwn im boddlonir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.