1AC ydd oedd vn yn glaf, a elvvit Lazarus o’r Bethania ’sef tref Mair, a’ hi chwaer Martha.
2(A’r Mair oedd hi yr hon a iroð yr Arglwydd ac ireid gvvyrthfavvr, ac a sychawdd y draet ef a’ hi gwallt, yr hon oedd ei brawt Lazarus wedy clefychu.)
3Am hyny yd anvonawdd y chwioredd ef attaw gan ddywedyt, Arglwydd, wely, yr hwn a gery di, ’sy ’n glaf.
4Pan glybu ’r Iesu, y y dywedawdd, Nyd yw ’r clefyt hwn yd angeu, eithyr er gogoniant Duw, mal y gogonedder Map Duw trwy hyny.
5A’r Iesu a garei Vartha a’ ei chwaer, a’ Lazarus.
6A’ gwedy yddaw glywed y vot ef yn glaf, er hyny ef arosawdd ddau ddydd yn ’oystat yn y lle ydd ydoedd.
7Yno yn ol hyn, y dywedawdd wrth ei ddiscipulon, Awn i’r Iudaia drachefyn.
8Y discipulon a ddywedesont wrthaw. Athro, yn hwyr y ceisiawdd yr Iuddaeon dy lapyddiaw di, ac a ai di yno drachefyn?
9Yr Iesu a atebawdd, Anyd oes deuddec awr o ddydd? A’s rodia nep y dydd, ny thancwydda ef, can ydd‐aw weled goleuni y y byt hwn.
10Eithr a’s rhodia nep y nos, ef a drancwydda, can nad oes goleuni yndaw.
11Y pethe hyn a ddyvawt ef, ac wedy hyn ysyganei wrthynt, Y mae ein car Lazarus yn hunaw: eithyr yð wyf yn myned yw ddihunaw ef.
12Yno y dyvawt eu ddiscipulon, Arglwydd, ad yw ef yn hunaw e vyð holliach.
13A’r Iesu a ddywedesei am y angae ef: ac wythe a dybiesont mai am gysciat cynthun y dywedesei ef.
14Yno y dyvawt yr Iesu yddynt yn eglaer, E vu varw Lazarus.
15A’ llawen wyf er eich mwyn chwi, nad oeddwn yno, val y credoch: eithyr awn at‐aw.
16Yno y dyuot Thomas (yr hwn a elwir Didimus) wrth ei gydiscipulon, Awn nine hefyt, val y bom veirw gyd ac ef.
17Yno y daeth yr Iesu, ac ei cafas ef wedy ddody yn y beð ys pedwar diwarnot weithian,
18(A’ Bethania oedd yn agos i Cairsalem, yn‐cylch pempthec stad o y wrthi.)
19A’ llawer o’r Iuddaeon a ddaethesent at Vartha a’ Mair yw confforddio hvvy am eu brawd.
20Yno Martha pan gigle he ddyvot o’r Iesu, aeth y gyvarvot ac ef: a’ Mair a eisteddawdd yn tuy yn vvastat.
21Yno y dyvot Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe byesyti yma, ny besei varw vy‐brawd.
22Eithyr yr owrhon y gwn i hefyt, mai pa bethe pynac a erchych i Dduw y dyry Duw y‐ty.
23Yr Iesu a ddyvot wrthei, E gyfyt dy vrawt drachefyn.
24Martha a ddyvot wrthaw, Mi wn y cyvyt ef yn y cyvodiadigaeth yn y dydd dywethaf.
25Yr Iesu a ddyvot wrthei, Mi yw’r cyvodiadigaeth a’r bywyt: yr vn a gred yno vi, er y varw, byw vydd.
26A’ phwy pynac ’sy vyw ac a gred yn o vi, ny bydd marw byth. A wyt yn credu hyn?
27Hi ddyweddoð wrthaw, Y rwyf, Arglwydd, mi gredaf mai ti yw’r Christ Map Duw, yr hwn oedd ar ddyvot i’r byt.
28A’ gwedy yddhi ddywedyt hyn, hi aeth ymaith, ac a’ alwodd Vair hi chwaer yn ddirgel, gan ddywedyt, E ddaeth y Dysciawdur ac y mae yn galw am danati.
29A’ phan clybu hithe, hi a godes yn ebrwydd, ac a ddaeth ataw ef.
30O bleit ny ddaethei ’r Iesu etwa ir dref, and ydd oedd ef yn y lle y cyfwrddesei Martha ac ef.
31Yno yr Iuddæon yr ei oeddent y gyd a hi yn tuy, ac y confforddient hi, pan welesont Vair, a’ chvyody o hanei ar ffrwst, a’ mynet allan, y dilinesōt hi, gan ðywedyt, Mae hi yn mynet i’r bedd, y wylaw yno.
32Yno gwedy dyvot Mair ir lle ’r oedd yr Iesu, a’ ei weled ef, hi a gwympawdd y lawr wrth y draet ef, gan ddywedyt wrthaw, Arglwydd, pe besyt’ yma, ny besei varw ve‐brawd.
33Can hynny pan welas yr Iesu hi yn wylaw, a’r Iuðaeon hefyd yn wylaw r’ ei ddaethei y gyd ac yhi, ef a griddvanodd yn yr yspryt, ac a ymgynnyrfodd,
34ac a ddyvot, P’le y dodesoch ef? Dywetsont wrthaw, Arglwydd, dyred a’ gwyl.
35A’r Iesu a wylawdd.
36Yna y dyvawd yr Iaddaeon, Wely, mal yr oedd e yn y garu ef.
37A’r ei o hanaddynt a ddywedent, Any allesei hwn a agorawð lygeit y dall, wneuthur hefyt, val na bysei hwn varw?
38Yno ’r Iesu drachefyn a griddvanodd yntho yhun, ac a ddaeth i’r bedd. A’ gogof ydoedd, a’ llech a ðodesit arno.
39Dywedawdd yr Iesu, Cymerwch ymaith y llech. Martha chwaer hwn a veisei varw, a ddyvot wrthaw, Arglwydd, y mae ef weithian yn drewi: can ys e vu varvv er ys pedwar diernot,
40Yr Iesu a ddyvot, wrthei, Any ddywedais y‐ty, pe a’s credyt, y gwelyt ’ogoniant Duw?
41Yno y cymeresōt ymaith y llech or lle y dodesit y marw. A’r Iesu a dderchafawdd eu lygaid ac a ddyvot, Y Tat, ddwy’n diolvvch y‐ty, can darvot y‐ty vy clywet.
42Mi ’wn y clywyt vi bop amser, eithyr o bleit y popul ’sy yn sefyll o y amgylchyn y dywedaisym hynn, val y credant, mai tudi am danvonawð.
43A’ gwedy iddo ddywedyt y pethe hyn, ef a lefawdd a llef vchel, Lazarus dyre’d allan.
44Yno hwn a vesei varw, a ddaeth allan, wedy rwymo o traed a’ dwylo a rhwymyne, ai wynep a rwymesit a napkyn. Yr Iesu a ddyuot wrthynt, Gellyngwch ef yn rhydd, a’ gedwch iddo wyned ymaith.
45Yno llawer o’r Iuddaeon, y ddaethent at Vair, ac a welesont y pethe, ’rei wnaethoedd yr Iesu, a gredesont yndo ef.
46An’d ’rei o hanynt aethant ymaith at y Pharisaieit, ac a ddywedesont ydd‐wynt y pethe a wnaethoedd yr Iesu.
47Yno y cynullawð yr Archoffeiriait a’r Pharisaieit synneðr, ac ey dywedesōt, Pa beth a wnawn; can ys y mae’r dyn hwn yn gwneythur llawer o wyrthiae.
48A’s gadwn yddo val hyn, pavvp oll a credant ynddo, ac yddaw y Ruueinwyr, ac a gymerant ymaith a’ ein lle, a’r genedl hefyt.
49Yno vn o hanaddynt a elvvit Caiaphas, vn oedd Archoffeiriat y vlwyðyn hono, a’ ddyuot wrthwyut. Nyd y‐chwi yn dyally dim oll,
50ac nyd ych yn ystyried y llesa i ni, bot marw vn dyn tros y popul ac na chyfergoller yr oll genetl.
51Hyn a ddyvod ef nyd o hano yhun: eithyr can y vot yn Archoffeiriat y vlwyddyn hono y prophwytawdd ef y byddei ’r Iesu varw tros y genetl:
52ac nyd tros y genetl yn vnic, eithr ar vot yddaw gascly hefyt ynghyd yn vn blant Dew yr ei a ’oyscaresit.
53Yno or dydd hwnw allan y cyd ymgygcoresont,, yw ddienyddu ef.
54Iesu gan hyny ny rodiawdd mwyach yn gyoeddus ym‐plith yr Iuddæon, eithyr mynet o ddyno y wlat ysydd yn agos i’r diffaithvvch, y ddinas a elwir Ephraim, ac aros yno y gyd au’ ddiscipulon.
55A’r Pasc yr Iuddæon oedd yn agos, a’ llawer o’r wlat aeth y vynydd y Cairusalem o vlaen y Pasc, yr ymlanhay.
56Yno y ceisiesont vvy ’r Iesu, ac a ddywedent wrth y gylydd, ac wy yn sefyll yn y Templ, Beth a dybywchwi, can na ddaw ef ir wyl?
57Ac e roesei ’r Archoffeirieit a’r Pharisaiait hefyt ’orchymyn, a’s gwyðiat neb p’le ydd oedd ef ar ddangos o hanaw, val y gallent y ddalha ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.