Yr Actæ 15 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xv.Ymryson yn cylch yr

enwaediat. Yr Apostolieit yn anvon ei dosparth at yr Ecclesi. Paul ac Barnabas yn precethy yn Antiocheia. Ac yn ymddidoli a ei gilydd o bleit Ioan Mark.

1AC yno y descenawdd ’r ei o Iudaia, ac a ddyscesont y broder, gan ddyvvedyt. Addieithr bot eich enwaedy, herwydd Deddyf Moysen, ny ellwch vot yn cadwedic.

2A’ phan ytoedd ymryson nyd bachan, ac ymddadlae gan Paul ac Barnabas yn y erbyn hwy, yno ordeiniaw a wnaethant i Paul ac Barnabas ac yr eill o hanynt, vyned i vynydd i Caerusalē, at yr Ebestyl a’r henafiait o bleit yr ymofyn hyn.

3Yno wedy ei d’anvon wy ymaith gan yr Eccles, traweny a wnaethant trwy Phoinice, ac Samareia, gan vanegy ymchweliat y Cenetloedd: ac wy a dducesont lewenydd inawr ir oll vroder.

4Ac pan ddaethant i Gaerusalem, ei d’erbyniwyt y gan yr Eccles, a’r Apostolion ar Henafieit, ac manegy a ’orugant pa pethae a wnaethai Ddew trwyddwynt vvy.

5Eithyr eb vvynt, yr ei o sect y Pharisaiait, a’r oedd yn credy, a gyvodesont, gan ddywedyt, vot yn angenrait y enwaedy hwy, a’ gorchymyn yddvvynt gadw Deðyf Moysen.

6Yno y daeth yr Apostolon ar Henafieit yn‐cyt, y edrych ar yr ymadrodd hwnn.

7Ac wedy bot ymddadle mawr, y cyvodes Petr, ac y dyvot wrthwynr, Ha wyr vroder, chwi wyddoch ðarvot er estalm o amser, yn ein plith ni y Ddew vy n ethol i, yn y byðei ir Cenetloeð trwy vy‐genae glywet gair yr Euāgel, a’ chredy.

8Ac Dew yr hwn a edwyn calonnae, a dduc testolaeth gyd ac wynt, gan roddi yddwynt vvy yr Yspryt glan, megis ac y gvvnaeth i nineu,

9ac ny wnaeth ef ddim gohanrhet y rhom ni ac wyntvvy, can darvot iddo drwy ffydd carthy ei calonnae.

10Ac yn awr paam ydd ych yn tēpto Dew, wrth ddody iau ar warhae ’r discipulon, yr hwn ny allawdd na ein tadae na nineu ei ðygy?

11Eithr yð ym ni yn credu, trwy rat Iesu Christ ein bot yn gatwedic, yn y modd y maent wy.

12Yno yd ystawodd yr oll tyrfa, ac y gwrandawsant Barnabas ac Paul, yr ei a vanagent pa arwyddion a’ ryveddodac a wnaethai Dew ymplith y Cenetloed trwyddynt vvy.

13Ac wedy yddwynt ymoystegy, ydd attepadd Iaco, gan ddywedyt, A‐wyr vroder, gwrandewch vi.

14Symeon a vanagawð, paddelw y govwyawdd Dew yn gyntaf y Cenetloeð, y gymeryt o hanvvynt bopul y Enw ef.

15Ac wrth hynn y cyssona geiriae yr Prophwyti, mal yð escrivēnir,

16Yn ol hyn yð ymchwelaf, ac yr adadeilaf tabernacul Dauid, yr hwn a syrthiawdd, ai adveilie a at gyweiriaf, ac ei cyfodaf,

17yd pan vo relyw y dynion ymgeisiaw yr Arglwydd, ac ir oll Cenetloedd, ar pa rei y galwyt vy Enw, með yr Arglwydd yr hwn a wna yr oll pethae hyn.

18O ddechreuat y byt y mae yn wybodedic gan Ddew ei oll weithredoedd.

19Erwydd paam im‐barn i, ny ddlem ni gynnyrfy yr ei hyny o’r Cenetloedd a ymchwelwyt ar Ddew,

20anid bot y ni escennrivy attwynt, a’r ymgadw o hanynt o wrth halogrwydd delwae, a’ godinab, ac yrvvth y dagwyt, ac yrvvth waet.

21Can ys y mae i Voysen yn yr hen oesoedd gynt, ym‐pop dinas, ’r ei y precetha ef, canys ddarllenir ef yn y Synagogae bop dydd Sabbath.

22Yno y gwelwyt vot yn iawn gan yr Apostolion ar Henafiait y gyd a’r oll Eccles, bot anvon gwyr etholedigion oei plith ehunain i Antiocheia y gyd a Paul ac Barnabas: nid amgen, Iudas aei gyfenw Barsabas, ac Silas, yr ei oeð wyr pennaf ym‐plith y broder,

23ac escriveny llythyrae y gyd ac wynt yn y ffurf hynn. YR APOSTOLON a’r Henafeit, a’r broder, at y broder y syð o’r Cenetloedd yn Antiocheia, ac yn Syria, ac yn Cilicia, yn danvon anerch.

24Can ys clywsam, ddarvot ir ei y ddaethant y wrthym, eich cynnyrfy chvvi a geiriae, a thraws siglaw eich meddyliae, gan dywedyt, Rait y chwi bot eich enwaedy, a’ chadw yr Ddeddyf, ir ei ny roddesem ni gyfryw ’orchymyn.

25Am hyny y gwelpwyt genym vot yn dda, gwedy ein dyvot yn‐cyt o gyfundab, anvon gwyr etholedigion atoch, y gyd a ein caredicion Barnabas ac Paul,

26gwyr a roesont ei heneidiae tros Enw ein Arglwydd Iesu Christ.

27Can hyny yd anvonesam Iudas, ac Sylas, yr ei a venaic hefyt ychwy yr vnryw pethae ar davot leferyð.

28Can ys gwelspwyt‐yn‐dda y gan yr Yspryt glan, a chenym nineu, na ðodem angwanec vaich arnoch, na ’r pethae angenreidiol hynn, nid amgenach no,

29Bot i chwy ymgynnal y wrth y pethae ’ry offrymir y ddelwae, ac ywrth waed, ac ywrth y peth y degir, ac ywrth godinab: ywrth yr ei a’s ymgadwch, da y gwnewch. Ewch yn iach.

30Ac wedy ei gellwng o yno, wy ddaethant i Antiocheia, ac yn oll cynnull o hanwynt y llyosogrvvydd, wy y rroddesont yr epistol yddvvynt.

31Ac wedy yddwynt ei ðarllen, llawenhay a ’orugāt gan y dyðāwch.

32Ac Iudas ac Silas ac wynt yn prophwyti, a anogēt y broder ac ymadroð lliosoc, ac ei cadarnhesont.

33Ac wedy yddwynt drigio ynaw dalm o amser, wy vaðeuwyt yn heddwch y gan y broder at yr Apostolon.

34Ac er hynny e welawdd Silas yn iawn aros yno yn’ostat.

35Paul hefyt ef a’ Barnabas arosāt yn Antiocheia gan ei dyscy a’ phraecethy y gyd a llawer eraill ’air yr Arglwydd.

36Eithyr ar ol swrn o ddyddiae ysganei Paul wrth Barnabas, Ymchwelwn drachefyn, ac ymwelwn a’n broder ym‐pop dinas, lle precethesam ’air yr Arglwydd, ac edrych paðdelw ydd ynt arnavv.

37Ac Barnabas a gycgorawð gymeryd gyd ac ynt Ioan a elwit Marc.

38Eithr Paul a dybiawdd nad oedd yn gyfaddas y gymeryd ef yn ei cymddeithas, yr hwn a dynnesei y wrthwynt o Pamphilia, ac nid aethei gyd ac wynt ir gwaith.

39Ac yno yr ymgyffroesant mor ddirvawr ac yr ymadawas yn aill y wrth y llall, val y cymerth Barnabas Varc, ac y mordyawdd i Cyprus.

40Ac Paul a ddewysawdd Silas, ac aeth racðaw wedy ei ’orchymyn gan y broder y rat Dew.

41Ac ef a dramwyawdd trwy Siria a’ Cilicia gan, gadarnhay yr Ecclesi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help