1VY-calon a adrodd beth da, traethaf vy-gwaithieu ir Brenhin: vy-tauot pin escrivenydd buan.
2Tecach ytwyt no phlant dynion: dineuwyt rrat yn dy wefusae, can i Ddew dy vendithiaw yn tragywyth.
3Gwregysa dy cleðyf ar glun, wr cadarn dy barch ath brydverthwch.
4Ac ith brydverthwch llwyddych: marchoc ar ’air y gwirionedd, a gwarder chyfiawndap, ath ðeheulaw a ðysc yty bethae terribl.
5[Ys-blaen] llymion dy saethae calon gelynion y Brenhin: y cwymp populoedd y danat’.
6Dy eisteddfa, Ddew, byth ac yn dragyvyth: teyrnwailen dy deyrnas teyrnwialen gyfiawnder.
7Cery gyfiawnder, a’ chasey enwiredd, o bleit y Ddew, dy Ddew di ath enneiniawdd ac oleo llawenydd uchlaw dy gyfeillion.
8[Arogl] myrr, ac aloe, chassia, dy oll ddillat, o’r llysoedd prydverth, lle ith lawenesant.
9Merchet Brenhinedd ymplith dy verchet anrydeddus: ar dy ddeheulaw y savai y Vrenhines mewn gwisc ophir.
10Clyw verch, a’gwyl, a’gostwng dy glust: gad hefyt dros gof dy bopul dy vn a’ thuy dy dad.
11Yno y rhydd y Brenhin ei serch ar dy brydverthwch: can ys ef yw d’ Arglwydd a’ pharcha ef.
12A’ merch Tirus goludogion y bopul a arvollant ac anreg ger dy wynep,
13Merch y Brenhin ’syd ’ogoneddus oll oy mewn: o amryw weuhat aur ymae ei dillat.
14Hi ddugir at y Brenhin mewn gwiscoedd o waith ede a’nodwydd: y gweryfon a’ ei chyveillesae a dducir atat’.
15Mewn llawenydd a’ gorvoledd y dugir hwy, ac ydd ant y mewn y lys y Brenhin.
16Yn lle dy dadae y bydd dy blant: ti y gwnai hwy yn dywysogion dros yr oll ddaiar.
17[Mi] wnaf goffáu dy Enw yn yr oll genedlaetheu y gyd: am hyny ith clodvorant y bobuloedd byth yn oesoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.