1ARglwydd, chwiliaist vi ac im adnabuost.
2Adwaenost vy eisteddiat, am cyfodiat: dyelly vy meðwl o hirbell.
3Vy llwybr am gorweddva y amgylchynyt’, am oll ffyrð a chwilyt.
4Can nad oes gair yn vy-tavot, wele, Arglwydd, ti ei gwyddost oll.
5Yr wyt im cyfingu yn ol ac ym-blaen, ac yn gosot dy law arnaf.
6[Dy] wybodaeth sy tra rhyvedd genyf, mor vchel ytyw ac na allaf wrthaw.
7I b’le ydd af rac dy yspryt? ac yb’le y ciliaf o rac dy vron?
8A’s escennaf ir nef, ydd wyt yno: a’s gorweddaf yn yffern, ydd wyt yno.
9Cymerwyf adanedd y wawr[ðydd], a’thrigo yn eithaw y mor:
10 Ys yno im tywys dy law, ath deheulaw am cynnail.
11A’s dywedaf, Ys y tywyllwch am cudd, ’sef y nos goleuni o’m amgylch.
12Ys y tywyllwch ny thywylla rrago-ti: eithr y nos a lewycha mal y dydd: tywyllwch a’r golauni ’sydd yr vn ffynyt.
13Can ys ti berchenogeist vy ’rennae: toeist vi yn-croth vy mam.
14Clodvoraf dydy, can ys yn ofnadwy ac yn ryvedd im gwnaethpwyt: rryvedd yw dy weithredoedd, a’ a wyr vy eneit yn dda-iawn.
15Ny chuddiwyt vy escyrn rhagot, cyd im gwnaethpwyt yn dirgel, a’m ffurviaw isot yn y ddaiar.
16Vy annelwic y welent dy lygait: can ys yn dy lyver yð escrivenit oll, o ddydd y-ddydd a ffurfir, pryd nad oedd yr vn o hanwynt.
17Can hyny mor annwyl genyf dy gycorae Ddew? mor vawrion yw ei summae?
18A’s cyfrifwn wynt, mwy-ytynt na’r tyvot: pan ddeffrowyf, yn wastat ydd wyf gyd a thi.
19O pe lladdyt, Ddew, yr andewiol a’r gwyr gwaedlyd,, Tynnwch y wrthyf:
20Yr ei y lavarant scelerder am danat, a’hwy yty yn ’elynion eu derchefir yn over.
21Anid cas genyf, Arglwydd, y rei ath gasaant? ac anyd wyf yn ymdynnu ar ei y gyvotant ith erbyn?
22Vy-gwirgas a rois arnwynt, val petynt yn elynion y-mi.
23Chwilia vi Dduw a’ gwybydd vy-calon praw vi, ac adnebydd vy-medduliae.
24A’ gwyl a oes ffordd drawsedd ynof, a’ thywys vi yn y ffordd yn tragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.