Ephesieit 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Ar ol ei ymanerch, Y mae yn dangos vot yr achos pennaf oi iachawdwrieth hwy yn sefyll yn rydd etholedigeth Duw trwy Christ. Mae ef yn dangos ei wyllys da yn ei cyfor hwy, gan ddiolwch a gweddiaw Duw dros y ffydd hwy. Mawredd Christ.

1PAul Apostol Iesu Christ, gan ewyllys Duw, at y Sainctæ, yr ei ’sy yn Ephesus, ar ffyðloniō in‐christ Iesu:

2Rat a vo gyd a chwi, a’ thangneðyf, y gann Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ.

3Bendigedic vo Duw ’sef Tat ein Arglwydd Iesu Christ, yr hwn a’n bendithiawdd a phob bendith ysprytawl yn nefolion yn Christ,

4megis yd etholes ef nyni ynddaw ef, cyn na sailiat y byt, val y byddem sanctaidd, ac yn ddiargywedd geir y vron ef yn‐cariat:

5yr hwn a’n rac dervynawdd ni, i vabwrieth trwy Iesu Christ yðo ehun, erwydd gwirvodd y ewyllys ef,

6er moliant gogoniant ei rat, trwy ’r hwn rat y cymeradwyawdd ef nyni yn ei garedic,

7y gan yr vn y mae i ni brynedigeth trwy y waed ef, nid amgen y madduant pechotae, erwydd y ’oludawc rat ef:

8a’r hwn y bu ef yn ampl yn ein cyfor ym pop doethinep a’ dyall,

9ac a egoroð i ni ddirgelwch ei wyllys erwydd ei rad vodd, rhwn a lunieithesei ef ynðaw,

10nid amgen yn llywodraeth cyfllawnder yr amseredd vod yddaw gyd gynull yn vn bop peth, ac a’r ysydd yn y nefoedd, ac a’r ys ydd yn y ddaiar, sef yn‐Christ:

11yn yr hwn hefyt in detholwyt pan in rac dervynwyt erwyð ei rac osodiat ef,

12yr hwn a weithreda bop dim erwydd cygcor y wyllys ehunan, pan yw i ni, yr ei cyntaf a ’obeithesam yn‐Christ, vot er mawl y ’ogoniant ef:

13yn yr hwy hefyt y gobeitheso‐chvvitheu gwedy ywch glywed gair y gwirionedd, ’sef Euangel ein iechedvvrieth chwi, yn yr hon hefyt gwedy ywch gredu, ich inseliwyt ac Yspryt glan y gaddewit,

14yr hwn yw ernes ein etiveddiaeth, hyd brynedigeth y meddiant a bvvrcasvvyt er moliant y ’ogoniant ef.

15Erwydd paam hefyt, gwedy i mi glybot son am y ffyð, ’sy genwch yn yr Arglwyð Iesu, a’r cariat ar ir holl Sainctæ,

16nyd wy ’n peidio a dyolvvlch drosoch, gan eich coffau yn vy‐gweddiae,

17ar vod y Duw ein Arglwydd Iesu Christ, Tat y gogoniant, roddy i chwi Yspryt doethinep, a’ datguddiat trwy y gydnabyddiaeth ef,

18a’r ’oleuo llygait eich dyall val y gwypoch pa vn yw gobaith y alwedigeth ef, a’ pha vn yvv golud y ’ogoneddus etiueddiaeth ef yn y Sainctæ,

19a’ pha vn yw y tra mowredd y veðiant ef yn ein cyfor, yr ei a gredwn, erwydd gweithrediat ei gadr‐nerth ef,

20yr hynn a weithiawð ef yn‐Christ, pan y cyfodawdd ef o veirw, ac e dodawdd ar ei ddeheulaw yn y nefoeð,

21tragoruwch oll llywodraeth, a’ meddiant, a’ gallu, ac Arglwyddiaeth, a’ phop Enw, a’r a enwir, nyd yn y byt hwn yn vnic, anyd hefyt yn yr hwn ’sy ar ddyvot,

22ac a ddarestyngawdd bop dim dan y draet, ac y dodes ef goruch pop dim y vod yn ben ir Ecclcs,

23yr hon yw y gorph ef, ’sef y gyflawnder ef yr hwn ’sy ’n cyflanwy pop peth ym‐pop peth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help