1DAdle Arglwydd a’m dadleuwyr: ymladd a’r ei a ymladdant a mi.
2Ymafael yn y tarian a’r astalch, a’ chyfod im cymporth.
3Dwc hefyt y gwaiw ac argaea yn erbyn y rhei n’sydd im erlid: dywait wrth v’enait, Mi yw dy iechyt.
4Cywilyddier, a’ gwradwydder yr ei y geisiant vy enait: ymchweler tragefyn, a’ gwarthaer y sawl a vwriadant ddrwc ymy.
5Byddant val vs garbron y gwynt, ac Angel yr Arglwydd goyscaro.
6Bid ei ffordd yn dywyllwch ac yn llithricva: ac Angel yr Arglwydd y’w hymlid.
7Can ys eb achos y cuddiesont bytew a’i rhwyt ymy: eb achos y cloddiesont i’m enait.
8 Deuet arno ddestruw ny wypo, a’ei rwyt y osodes yn dirgel, ei dalio: syrthiet yn y destruw hyny.
9Yno y llawená vy enait yn yr Arglwydd: e lawenycha yn ei iechyt.
10Vy oll escyrn y ddywedant, Arglwydd, pwy val tydy, yr hwn y waredy y tlawt rac y vo trech nac ef: a’r tlawt a’r truan, rac neb ei yspeilio.
11Cyvodesont testion trawsion: holesont vi am betheu ny wyddwn.
12Talesont ymy ddrwc dros dda, y espeilio vy enait.
13A’ mineu, pan glyvychynt wy, a wiscwn sach: gestyngwn vy eneit ac vmpryt: am gweddi a ddymchwelit im monwes.
14Ymddugwn val wrth gar, neu val wrth vy brawt: ymestyngais gan gwynvan val vn yn dwyn ’alar am ei vam
15A ’hwytheu yn vy=cloffter a lawenychent, ac ydd ymgasclent: ymglascawdd efryddion yn vy erbyn, eb wy bot ymy: dryllieson vi ac eb dewi.
16Gyd a’r gwatworwyr ffeilson yn-gwleddau, gan escyrnygy danedd arnaf.
17Arglwydd yd pa bryd ydd edrychy gwared vy enaid rac ei trafferthae, vy vnic rac y l’ewod
18[Yno] ith clodvoraf yn-Cynnlleidfa vawr: ith voliannaf ym-plith popul liosawc.
19Na bo im gelynion lawenáu im erbyn yn ancyfion, amneidiant a llygat, y sawl sydd im casay yn ðiachos.
20Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: eithyr dychymygu geiriae dichellgar yn erbyn y rei llonydd y ddaiar.
21Egoresont ei geneue arnaf, gan ðywedyt, Aha, aha, gwelawdd ein llygat.
22Gweleist Arglwydd: na thaw: nac ymbellá y wrthyf Arglwydd.
23Cyvot a’ diffro i’m barn, ’sef i’m dadl, vy-Dew, a’m Arglwydd.
24Barn vi Arglwydd vy-Dew, yn ol dy gyfiawnder, ac na lawenánt am danaf.
25Na ddywetant yn ei calon, Wi, ein enaid bydd lawen: ac na bo yddyn ddywedyt, divwynesam ef.
26Cywilyddier a gwradwydder y gyt, yr ei ’sy lawen am vy-drwc: gwiscer a’ gwarth a’ chywilydd, yr ei ys yd yn ymorugaw yn v’erbyn.
27Bid lawen a’ hyfryd, yr ei y garant vy-cyfiawnder: a’ dywedant yn oystat, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gar lwyddiant ei wasanaethwr.
28A’m tavawt a venaic dy gyfiawnder a’th voliant bop dydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.