1DEw a gyvyt, oyscerir ei elynion: a’r ei y casant ef, a giliant racðaw.
2Meis y dyflanna y mwc, y gyrry ymaith: meis y tawdd y cwyr wrth y tan, y collir y rei andewiol rhac wynep Dew.
3A’r ei cyfion vyddant lawen hyfryt ger bron Dew: ac ymorugant o ’ovoledd.
4Cenwch ’y Ddeo, chan-molwch ei Enw: mawrygwch ef ys ydd yn marthogeth ar y nefoedd, yn y Enw ef Iah, ac ymlawenéwch ger y vron ef.
5[Efe yw] Tad yr amddifeit, a’ barnwr y gwragedd-gweddwon, Dew yn ei breswylfa sanctaidd.
6Dew a wna ir ei vnic drigo yn duylwyth, a ryddá yr ei oedd garcharorion mewn cyffion: eithr yr ei anuvydd a dric mewn tir sychedic.
7A Ddew, pan aethost allan o vlaen dy popul, pan elyt trwy ’r diffeithwch, (Selah)
8Yr escutwodd y ddaiar, ac y destilliawdd y nefoedd gan gynnyrch Dew: Sinai gan gynnyrch Dew, Dew Israel.
9Dew, anvoneist glaw grasusawl dy etiveddiaeth, a’ thi hei esmwytheist pan oedd yn vlin.
10Dy Gynnlleidfa a drigawð ynthei: â Ddew, oth ddaoni darpereist i’r tlawt.
11Yr Arglwydd y roddes ðevnydd ir gwragedd y venegi am y llu mawr.
12Brenhinedd y lluoedd a giliesont: ciliesont, a’ hon a drigei yn tuy a ranawdd yr yspeil.
13Cyd bu ychwi orwedd ymysc crochanae, megis adanedd colomben wedy thoi ac arian, a’ ei phlu yr aur-coeth.
14Pan oyscarodd yr Ollgyvoethawc Vrenhinedd ynthei, ydd oedd hi cyn wynnet a’r eiry yn tSalmon.
15Mynyth Dew mynyth Bashán: mynyth vchel mynydd Bashán.
16Paam y neidiwch vynyddedd vchel? y mynydd hwn y gâr Dew ei breswiliaw: ’sef yr Arglwydd a breswyl yn tragywyth.
17 Siaredae Dew vgein-mil, o violedd o Angelion, Arglwydd ys ydd yn ei plith, megis yn-Cyssecr Sinái.
18Escennaist yn vchel: tywyseist gaethiwet yn gaeth, a dderbynieist roðion y ddynion: ac ys tywyseist y cyndynion, val y trigei yr Arglwydd Ddew yno.
19Clodvorer yr Arglwydd, ys ef Dew ein iechydwrieth, ’s y baunyð yn ein llwytho a daioni. Selah.
20Hwn ein Dew, y Dew ein iechyt: ac i’r Arglwydd Ddew mynediadeu angae.
21Dew a archolla ben ei elynion, a’ chopa ’walltoc yr hwn a rodia yn ei bechoteu.
22 Syganei yr Arglwydd, Dygaf drachefyn o Bashán: dygaf hwy drachefn o ddyfndereu y môr.
23 Y ny drocher dy droet yn-gwaet, a’ thavot dy gŵn yn=gwaet y gelynion ynthaw.
24Gwelsont Ddew, dy vynediadeu, vynediadeu vy-Dew, a’m Brenhin, yn y Cyssegr.
25Y cantorion aent or blaen, a’r cerðorion ar ol: yn y cenol y morynion-ieuainc yn canu tympan.
26Clodvorwch Ddew yn y cymmynvae, Arglwydd, yr ei ydych o ffynnon Israel.
27Yno Ben Iamin vachan ei llywiawdr, hwy: a’ phenaethiait Iudáh eu communva, pennaethieit ðSebulon, a’ phennaethieit Naphtali.
28Dy Ddew a gymmynnawð dy nerth: cardarná Ddew yr hyn y weithredeist ynom,
29Oth Templ ar Gaeruselem: a’ Brenhinedd a ddugant anregion yty.
30 Codda dorf y gwyr gwaywffyn, lliaws y gwrdd-deirw y gyd a lloie y popul, yr ei a sathrant ðarneu o arian: goyscar y bopuloedd a garant ryvel.
31[Yno] y daw y pendevigion o’r Aipht: Ethiopia a vrysia y esten ei dwylo ar Ddew.
32Teyrnasoedd y ðaiar cenwch y Ddew: can-molwch yr Arglwydd. Selah.
33Yr hwn y varchoc ar y nefoedd goruchel, o’r dechreuat: wele e ddenvyn gan ei leferyð lais cadarn.
34Rowch y Ddew y cedernit: y ’orucheldap ef ar Israel, a’ ei nerth yn yr wybrae.
35Dew, ys terribl wyt oth gyssecrae: Dew’r Israel ywr hwn a ddyry nerth a’ gallu i’r popul: bendiget vo Dew.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.