1GOrchmynnaf y‐chwi Phoibe ein chwaer, yr hon ’sy wenidoc i Ecclesi Cēchreaia,
2ar vot ywch y derbyn hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn deilwng i Sainctæ ai chanhorthwyaw ym‐pop neges y bo rait yddei wrth‐ych porth: can ys hi vu dda o lety wrth lawer, ac wrthy vinef hefyt.
3Anerchwch Priscilla ac Aquila vy‐cydweithwyr yn Christ Iesu
4(yr ei dros vy ‐bywyt i a ðodesont i lavvr y mynygleu y hunain. Yr ei ny ddiolcha vi yn vnic yddynt, anyd hefyt oll Ecclesidd y Cenetloedd)
5Anerchvvch hefyt yr Eccles ys id yn y tuy hwynt. Anerchwch vy‐caredic Epainetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia in‐Christ.
6Anerchwch Vair yr hon a lavuriodd yn vawr erom ni.
7Anerchwch Andronicus ac Iunia vy‐cereint a’m cydgarcharorion, yr ei ’sy hynot ym‐plith yr Apostolion, ac oedden hefyt in Christ cyn na myvi.
8Anerchwch Amplias vy‐caredic yn yr Arglwyð
9Anerchwch Urbanus ein cydweithwr yn‐Christ, ac Stachys vy‐caredic.
10Anerchwch Apel’es y provedic in‐Christ. Anerchwch yr ei sy o drase Aristobulus.
11Anerchwch Herodion vy‐car. Anerchwch yr ei sy o drase Narcissus yr ei ynt yn yr Arglwydd.
12Anerchwch Triphaina a’ Thriphosa, yr ei verchet a lavuriant yn yr Arglwydd. Anerchwch y garedic Persis, yr hon a lavuriawdd lawer yn yr Arglwydd.
13Anerchwch Rufus etholedic yn yr Arglwydd, a’ y vam ef a’ mi.
14Anerchwch Asygcritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius, a’r brodyr ysy gyd ac wynt.
15Anerchwch Philologus ac Iulius, Nerias, a’ei chwaer ef, ac Olympas, a’r oll Sainctæ ysy gyd a hwynt.
16Anerchwch bob vn y gylydd a chusan sanctaidd. Y mae Ecclesi Christ yn eich anerch.
17A’ mi atolygaf ywch’ vroder, edrych‐yn‐graph ar yr ei ’sy yn peri ancydfot a’ rhwystrae, yn erbyn yr athraweth a ddyscesoch, ac ymogelwch racddwynt.
18Can ys yr ei ’sy gyfryw, ny wasanaethant yr Arglwyð Iesu Christ, anyd y bolie y hunain, a’ thrwy ’eiriae‐tec a’ gweniaith yn twyllo calonae yr ei diddrwc.
19Gan ys ych uvyddtot chwi a ddaeth ar lled at pavvp oll: Ydd wyf yn llawen gan hyny am danoch: and eto mi wyllysiwn eich bot yn ddoethion, tu ac at ddayoni, ac yn wirion tu ac at ddrwgioni.
20Duw pen y tangneðyf a sathr Satan y dan eich traed eb ohir. Rat ein Arglwydd Iesu Christ a vo gyd a chwi.
21Y mae Timothëus vy‐cydweithwr, a’ Lucius ac Iason. a’ Sosipater vy‐cereint, yn erchi ych anerch.
22Mi Tertius, yr hwn a scrivenodd yr epistol hwn ach anerchaf yn yr Arglwydd.
23Gaius vy llytuywr i, mi a’r oll Eccles ’sy yn erchi ych anerch. Y mae Erastus diwydrwydd y dinas yn erchi ych anerch, a’ Chwartus y brawt.
24Rat ein Arglwydd Iesu Christ y gyd a chwi bawp. Amen.
25Iddo ef yr hwn a ddychon ech cadarnhau yn ol vy Euangel, a’ phregethiat Iesu Christ, gan ymatguddiat y dirgelwch, yr hwn vu gyfrinachol er yn oes oesoedd:
26(ac yr awrhon yr eglurhawyt, ac a gyoeddwyt ymplith yr ol’ Cenetloedd gan Scrythurae ’r Prophwyti, wrth ’orchymyn y tragyvythol Dduw er mwyn vvyddtot ffydd)
27I Dduw, meddaf, yr vnic ddoeth, bid gogoniant trwy Iesu Christ yn oes oesoedd. Amen.
Hvvn a escrivenwyt at y Ruueiniet o Corinthus ac a ddanvonvvyt trwy Phoibe, hon oedd wenidoc yr Eccles yn‐Cenchraia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.