Psalm 121 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxxj.Leuaui occulos.¶ Caan graddae.

1DErchafaf vy llygait er mynyddeu, o’r lle y daw vy cymporth.

2Vy-cymporth y gan yr Arglwydd, yr hwn y wnaeth nef a’ daiar.

3Ny ad ef ith troet lithro: ny huna dy geidwat.

4Wele, yr hwn a geidw Israel, ny chwsc ddim ac ny hepia.

5Yr Arglwydd dy geidwat: yr Arglwydd yw dy wascawt ar dy ddeheulaw.

6Nyth tery yr haul y dydd, na’r lleuat nos.

7Yr Arglwydd ath ceidw rac pop drwc: ef a geidw dy eneit.

8Yr Arglwydd a geidw dy vynediat, ath ddyvodiat o’r awr-hon yd tragyvyth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help