1YR amser hyny ydd aeth yr Iesu ar ddydd y Sabbath trwy r yd, ac ydd oedd newyn ar ei ddiscipulō, ac a ddechreysont dynny tywys yr yd a’bwyta.
2A’ phan y gwelawð y Pharisaieit, y dywedesōt wrthaw, Nycha dy ddiscipulon yn gwneythyr hyn nyd yw gyfreithlawn ei wneythyd ar y Sabbath.
3Ac ef a ddyvot wrthynt, Any ddallenasoch beth a wnaeth Dauid pan oedd arno newyn, a’r ei oeð y gyd ac ef?
4Val ddaeth ef ymewn y duy Ddyw, a’ bwyta’r bara gosot yr hwn nyd oedd gyfraithlawn iddo y vwyta, nac ir ei oeð gydac ef, and yn vnic ir Offeiriait?
5Nei any ðarllenasoch yn y Ddedyf vot yr Offeiriait ar y Sabbath yn y Templ yn tori’r Sabbath, ac ei bot yn ddirgerydd?
6And mi a ddywedaf ichwi, vot yma vn mwy na’r Templ.
7Eithyr pe gwyddech pa beth yw hyn, Trugareð a ewyllysiaf ac nid aberth, ny varnesech‐chvvi ar yr ei diniwet.
8Can ys bot Map y dyn yn Arglwydd, ys ar y Sabbath.
9Ac ef a dynodd o ddyno, ac aeth y’vv Synagog wy.
10A’ nycha, ydd oedd yno vn a ei law wedy dysychy. Ac wy a ovynesont iddaw, gan ddywedyt, Ai cyfreithlawn iachay ar y Sabbath? val y gallent achwyn arnaw.
11Ac ef a ðyvot wrthwynt, Pa ðyn o hanoch vydd, ac iddo vn ddavat, ac o chwympa hi mewn ffos ar y dydd Sabbath, any chymer ef y hi a’i chodi allan?
12Wrth hyny, pa veint gwell yw dyn na dafat? Ac velly cyfraithlawn yw gwneythyd da ar y dydd Sabbath.
13Yno y dyvot ef wrth y dyn, Estyn dy law, Ac ef y hestynnawdd, a hi a wnaed yn iach val y llal’.
14Yno yr aeth y Pharisaieit allan, ac ymgyggori a wnaethont yn y erbyn ef, pa vodd y gellynt ei ddiva.
15A’ phan wybu yr Iesu hyny, ef aeth ymaith oddyno, a’ thyrfa‐vawr y dylynodd ef, ac ef y iachaodd wy oll,
16ac a orchymynawdd yddyn na’ chyoedent ef,
17yn y chyflawnit, ’rhyn a ðywedesit gan Esaias brophwyt, gan ddywedyt,
18Nycha vy‐gwasanaethur yr hwn a ddetholeis, vy‐caredic yn yr hwn y digrifir vy enait: gosodaf vy Yspryt arnaw, ac ef a ddengys varn ir Cenetloedd.
19Nyd ymryson ef, ac ny lefain, ac ny’s clyw neb y lais ef yn yr heolydd.
20Corsen ysic ny’s tyr ef, a’ llin yn mugy ny ddiffodd ef, yny dduco varn i vuddugoliaeth.
21Ac yn ei Enw ef y coelia ’r Cenedloedd.
22Yno y ducpwyt attaw vn cythraulic, yn ddall ac yn vut, ac ef ai iachaodd ef, yn y lavarawdd, ac y gwelai yr hvvn vysei ddall a’ mut.
23Ac a sannawdd ar yr oll popul, gan ðywedyt, Anyd hwn yw map Dauid?
24Eithyr pan glybu y Pharisaieit hyn, y dywedesont, Nid yw hwn yn bwrw allan gythaulieit anid trwy Beelzebub pennaeth y cythraulieit.
25A’r Iesu yn gwybot ei meddyliae, a ddyvot wrthwynt, Pop teyrnas wedy ’r ymranny yn y herbyn y hun, a ddiffeithir: a’ phop dinas neu duy, wedy ’r ymranny yn y erbyn ehun ny saif.
26Velly a’s Satan a vwrw allan Satan, y mae ef wedy ’r ymranny yn y erbyn ehun: pa wedd gan hyny y saif y deyrnas ef?
27Ac a’s myvi trwy Beelzebub a vwriaf allan gythraulieit, trwy pwy vn y bwrw eich plant chvvi’n wy allan? Ac am hynny y byddant wy yn veirniait arnoch.
28Ac a’s myvi a vwriaf allan gythreuliait trwy yspryt Duw, yno y daeth teyrnas Dyw atoch.
29Can ys pavodd y dychon nebvn vyned y mewn y duy y cadarn ac yspeilio ei dda, dyethr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn, ac yno yspeilio ei duy.
30Y nep nid yw yd a mi, ys ydd yn v’erbyn: a’r nep ny chascl gyd a mi, a ’oyscar.
31Erwyð paam y dywedaf y chwi, pop pechat a chabl a vaddeuir i ddynion: anyd y cabl yn erbyn yr Yspryt glan ny vaddeuir i ddynion.
32A’ phwy pynac a ddyweto ’air yn erbyn Map y dyn, e vaddeuir yddaw: anyd pwy pynac a ddywet yn erbyn yr Yspryt glan, ny’s maddeuir iddo, nag yn y byt hwn, nag yn y byt a ddaw.
33Ai gwnewch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda: ai gwnewch y pren yn ðrwc, a’i ffrwyth yn ddrwc: can ys y pren a adwenir wrth ei ffrwyth.
34A genetleth gwiperae, pa ddelw y gellwch’ ymadrodd daoedd, a chwi yn ðrwc? Can ys o ehelaethrwydd y galon, yr ymadrodd y geneu.
35Y dyn da o dresawr da ei galon, a ddwc allan dda‐bethe: a’ dyn drwc o dresawr drwc, a ddwc allan bethe drwc.
36Eithyr mi ddywedaf wrthych, mai am bop gair segur a ðywait dynion, y rhoddant gyfri yn‐dydd varn.
37Can ys wrth dy ’airiae ith cyfiownheir, ac wrth dy ’airiae ith vernir.
38¶ Yno yð atepoð rei or Gwyr llen a’r Pharisaieit gan ddywedyt, Athro, ys chwenychem welet arwydd genyt.
39Ac ef a atepawdd, ac a ddyvot wrth wynt, Cenedleth ddrwc ’odinabus a gais arwyð, anyd ny roir iddi, namyn arwydd y Prophwyt Ionas.
40Can ys val y bu Ionas tri‐die a’ thair nos ym‐boly y morvil velly y byð Map y dyn dri‐die a’ thair‐nos yn‐calon y ðaiar.
41Gwyr Niniue a gyfyt ym‐barn y gyd a’r genedleth hon, ac ei barn hi: can ys yddynt vvy edifarhay wrth preceth Ionas. A’ nycha vn mwy nag Ionas yn y man yma.
42Nycha Brenhines y Deau a gyfyd yn y varn y gyd ar genedleth hon, ac ac y barn hi: can iddi hi ddyvot o eithafion y ddaiar i glywed doethinep Selef: a‐nycha vn mwy na Selyf yn y man yma.
43¶ A’ phan el yr yspryt aflan allan o ddyn, ef a rodia rhyd lleoeð sychion, gan gaisio gorphwysfa, ac eb gahel dim.
44Yno y dywait, Ymchoelaf im tuy, o’r lle y daethym: ac wedy y delo, y caiff e yn wac, wedy’r yscupo, a’ ei addurno.
45¶ Yno ydd a ef, ac a gymer ataw saith yspryt ereill scelerach nog ef, y un, ac a ant y mewn ac a gyfanneddant yno: a’ gwaeth vydd dyweðhynt y dyn hwnw na ei ddechraeat. Ac velly y bydd ir genedleth enwir hon.
46¶ Tra ytoedd ef yn ymadroð wrth y dyrfa, nycha ei vam a’ei vrodwr yn sefyll allan, yn caisio ymddiddan ac ef.
47Yno y dyvot vn wrthaw, Nycha, dy vam ath vrodur yn sefyll allan, yn casio ymddiðā a thi.
48Ac ef atepawdd, ac a dyvot, wrth hwn a venagawdd iddo, Pwy yw vy mam? a’ phwy yw vy‐brodur?
49Ac ef a estennawdd ei law tu ac at ei ddiscipulon, ac a ddyvot, Nycha vy mam, am broder.
50Can ys pwy pynac a wna ewyllys vy‐Tad yr hwn y sydd yn y nefoedd, hwnw yw vy‐brawt, a’m chwaer, a’ mam.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.