1EIthr adrodd di y petheu y weddant y ddysc iachus.
2 Bot yr henafgwyr yn sobr, honest, diseml, iach yn y ffydd, yn‐cariat, ac ammynedd:
3Yr henafwragedd yr vnffynyt, eu bot ynghyfryw ymwreðiat ac a wedda i sancteiddrwydd, nyd gau gyhuddiait, nyd wedy ymroi i win lawer, eithr yn dyscu-ir‐ei betheu honest,
4Mal y gallōt iawnsynhwyraw y gwragedd‐ieainc, y garu ei gwyr, y garu ei plant.
5 Bot yn ddiseml, yn ddiwair, trigo gartref, yn dda ac yn ddarostyngedic yw gwyr, mal na chapler gair Duw.
6Cygora wyr‐ieuainc yr vn modd, ar vot yn ddiseml.
7Vch pen pop dim oll dod dy hun yn esempl o weithredoedd da gyd a dysceideth anllygredic, gyd a phwyllogrwydd, a’ chyfandep,
8Ac ymadrodd iachus, rhwn ny ellir ei veio, val y bo y hwn a safo yn erbyn, gywilyðio, eb ganthaw ddim am danochwi y dywedyt coegni.
9Bot gwasanaethddynion yn ddarostyngedic yw harglwyddi, a’i boddhau ym‐pop dim, nyd yn gwrthddywedyt,
10Nyd yn trosgwyddo, eithr bod yddynt ddangos pop ffyddlondep, val yr addurnant ddysceideth Duw ein iachawdur ym‐pop peth.
11Can ys ’rat Duw y ddwc iechyt i bop dyn, a ymddangosawdd,
12Ac ys ydd in dyscu y ymwadu ac andywoldep, a’ chwanteu bydol, a’ bot y ni vyw yn sobr ac yn gyfiawn, ac yn ddywiol yn y byt cydrychiol.
13Gan edrych am yr ’obaith wynvydedic, ac ymðangosiat gogoniant y Duw mawr a’n iachawdur Iesu Christ,
14Yr hwn y rroddes y hun y trosam, val in prynei ywrth oll enwiredd, a’n carthu y vot yn popul priawt yddo yhun, yn awyddus i weithredoedd da.
15Adrodd y petheu hyn, ac annoc ac argywedda ac oll awdurtot. Na vit y nep dy dremygu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.