Yr Actæ 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Cahel o’r efrydd veddu ar ei draet. Petr yn precethu Christ ir popul.

1PEtr ac Ioan aethant ynghyt ir Templ, ar y nawvet awr y gweddiavv.

2A’ rryw wr yr hwn oedd yn efrydd o groth ei vam, a ddugit, yr vn a ðodent beunydd wrth porth y Tēpl, y elwit y porth Prydverth, y’ofyn eleesendot gan yr ei y elent y mewn ir Templ.

3A’ phan weloð ef Petr ac Ioan, ar vynet ir Templ, e ddeisyfawdd gahel eleesen.

4Ac Petr yn dal selw arnaw, y gyd ac Ioan, a ddyvot, Edrych arnam.

5Ac ef a ddahawdd arnwynt, gan obeithiaw derbyn ryw beth ganthynt.

6Yno y dyvot Petr, Ariāt ac aur nid oes genyf, and y cyfryw beth y’syð genyf, hyny a rof yty: Yn Enw yr Iesu Christ o Nazaret, cyvod a’ rhodia.

7Ac ef ei cymerth erbyn ei ddehaulaw, ac ei cyvodes y vynydd, ac yn ebrwydd y cyfnerthwyt ei draet a’ ei ffere.

8A’ neitiaw o honaw i vynydd, sefyll a’ rrodiaw a’ mynet i mewn gyd ac wynt i’r Templ, gan rodiaw, a’ neitiaw a’ moli Dew.

9A’r oll popul y gwelawð ef yn rhodiaw, ac yn molianny Dew.

10Ac ydd oeddent yn ei adnabot, may ef e ytoedd yr hwn oedd yn eistedd y ’ovyn eleesen wrth borth Prydverth y Templ: a ryveddy a sanny a wnaethant wrth y peth, a ddarvesei iddaw.

11Ac mal ydd oedd yr efrydd yr hwn a iachesit, yn attal Petr ac Ioan, y rhedawdd yr oll popul yn sannedic attwynt ir porth, y elwit porth Selef.

12A’ phan welawdd Petr hyn, ydd atebawdd wrth y popul, Ha wyr yr Israelieit, paam ydd ych yn rryueddu wrth hynn? neu paam ydd ych yn hylltremio arnam ni, mal pe o’n meddiant ein hunain n’ai o’n dwywolder y gwnaethē ir gvvr hwn gerddet?

13DEVV Abraham, ac Isaac, ac Iaco, DEVV ein tadae a gogoneddawdd ei Vap Iesu, yr hwn a vradycheso‐chwi, ac a wadesoch yn‐gwydd Pilatus, gwedy daroedd iðaw ef ei varny y ei ellwng e yn rrydd.

14Eithyr chwi a ymwadasoch a’r sanct a’r cyfiawn, ac archosoch cael rroddi ’r llawrydd‐celain y chwy,

15ac a laddesoch Arglwydd y bywyt, yr hwn a gyvodes Dew o veirw, i ba vn ydd ym ni yn testion.

16A’ y Enw a iachaodd ef y gvvr hwn, yr vn a welwch ac ’adwaenwch, trwy ffydd yn y Enw ef: a’r ffydd ys y trwyddaw ef, a roddes yr iachawrwydd hwn yn eich gwydd chwi oll.

17Ac yn awr vroder, y gwn mae trwy anwybot ei gwnaethoch, mal y gvvnaeth hefyd eich pendevigion.

18Eithr y pethae hynny ar y ragvanagawð Dew trwy enae ei oll Prophwyti, bot i Christ ddyoðef, y gyflawnawdd ef val hyn.

19Gwellewch eich buchedd am hyny, ac ymchwelwch, y n y ddileer eich pechatae, pan ddel amsere yr gorphwys o ’olwc yr Arglwydd,

20ac ef a ddenfyn Iesu Christ, yr hwn a rag pregethwyt ychwy,

21yr vn vydd dir ir nef ei dderbyn, yd yr amser yr adverer yr oll bethae, ry ddywesei Dew trwy enae ei oll sainct Prophwyti er yn oes oesoedd.

22Can ys Moysen a ddyvot wrth y tadae, Yr Arglwydd eich Dew a gyvyd y chwy Prophwyt, ys ef oeich broder eich vnain yn gyffelyp i mi: ys gwrandewch arnaw ym‐pop peth bynac, a ddyweto wrthych.

23Can ys e ðervyð, pwy bynac ny wrandaw ar y Prophwyt hwnw, Y destrywer ef o plith y popul.

24A’ hefyt yr oll Prophwyti o Samuel, ac o hyny rac llaw, cynniuer ac a gympwllesont, a racvanegesont eisioes am y dyddiae hynn.

25Chwychvvy ydych plant y Prophwyti, a’r dygymmod, yr hwn a wnaeth Dew wrth ein tadae, gan ddywedyt wrth Abraham, Ac yn dy had ti y bendithir oll tuylwythae yr ddaiar.

26Yn gyntaf y chwi pan gyvodes Dew i vynydd ei Vap Iesu, a’ei ddanvon ef y eich bedithiaw, gan ymchwelyt pop vn o honoch y wrth eich enwireddae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help