1TRugará wrthyf Ddew, trugará wrthyf: can ys ymddiried vy enait ynot: ac yn-gwascawt dy adanedd y ymddiriedaf, yd yn yd el y coddion hynn
2Galwaf ar Ddew ’oruchaf, ar Ddew y gwpla y-my.
3Ef a ddanvon o’r nefoedd, ac am gwared rac gwarthrudd yr hwn am llyncei. Sélah, e ddenvyn Dew ei drugaredd a’ ei wirionedd.
4Vy enait ym-plith llewod: ydd wyf yn gorweð ym-plith plant dynion, ys ydd yn boethion: ei dannedd yn waewffyn ac yn saethae, a’ ei tavot yn gleddyf awchlym.
5Ymddercha, Ddew, uch y nefoedd, dy ’ogoniant ar yr oll ddaiar.
6Rwyt a paratasant im traet: crymmwyt vy eneit: claddiesont bytew o’m blaen, dygwydesont yn ei genol Sélah.
7Parat yw vy-calon, Ddeo, parawt yw vy-calon: canaf a chan-molaf.
8 Dyffro vy-tavot, dyffro nabel a’ thelyn: ddyffroaf yn voreu.
9Clodvoraf dydy Arglwydd ymysc y populoeð, a’ chanaf ymmysc y cenedloedd.
10Can ys mawr dy drugaredd yd y nefoedd: ’wirionedd yd yr wybrae.
11Ymddercha, Ddew, uch y nefoedd dy ’ogoniant ar yr oll ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.