Psalm 147 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxlvij.Laudate Dominum.Prydnawn vveddi

1MOlwch yr Arglwydd, can ys da yw canu y ein Dew: O bleit peth hyfryd yw, a’ phrydverth yw moliant.

2Yr Arglwydd ’sy’n adaliat Caerusalem ac yn casclu goyscaredigion Israel.

3Ef iachaa yr ei briwedic o ga.lon, ac e rwym ei gwelieu.

4E a gyfrif rivedi y ser, ac ei galw oll erbyn ei h’enwae.

5Ys mawr ein Arglwydd, a’ mawr veddiant: ys anneirif ei ddwethinep.

6Yr Arglwydd y ddercha yr ei gwâr ac e estwng yr andewolion yd y llawr.

7Cenwch ir Arglwydd gan glodvoreð: cenwch y ein Dew ar y delyn.

8Yr hwn y doa y nefoeð ac wybrae, ac y baratoa y glaw ir ddaiar, ac a bar ir gwellt dyfu ar y mynyddeu:

9Yr hwn y rydd ir yscrybyl ei borthiant, y adar y gigvran y lefant.

10Nyd oes ewyllys ganthaw yn nerth march, ac nyd yw yn ym hoffi yn esceiriae gwr.

11Eithr hoff gan yr Arglwyð yr ei y ofnant ef, ac ymddyriedant yn ei drugaredd.

12Mola yr Arglwydd, Gaerusalem: mola dy Ddew tSijón.

13Can ys cadarnáodd ef drosolion dy byrth, y vendithiawdd dy blant oth vewn.

14Efe sy’n dodi tangneddyf ith gyffinydd, ith ddiwallu a blonec gwenith.

15E ddanvon ei orchymyn ar y ddaiar, ei’air y red yn dra buan.

16Efe ’sy’n rhoi eiry val gwlan, yn goyscaru y llwydrew val llutw.

17E davl ei ia val tameidiae: pwy all aros ei oerder?

18Yd envyn ef ei air, ac ei tawdd hwy: e bar yw wynt chwythu, dyfredd y lifant.

19Menaic ef ei ’air i Iaco, ei gynneddfae a’ ei varneu, y Israel.

20Ny wnaeth ef velly a phop cenedl, ac nyd adnabuont ei varueu. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help