1A Rryw ’wr aei enw Ananaias, y gyd a Sapheira ei wraic, a werthesei berchenogaeth,
2ac a ddodes heibio bart o’r gwerth, a’ei wreic hefyt oei gytgycor, ac a dduc ryw gyfran, ac ei gesodes wrth draet yr Apostolon.
3Yno y dyvot Petr, Ananias, paam y cyflawnodd Satan dy galon, yd pan yw yt y ddywedyt celwydd wrth yr Yspryt glan, a’ chadw ymaith gyfran, o werth y perchenogaeth?
4Tra ytoedd yn aros ith veddiant, anid tydi bioedd? ac yn ol ei werthy, anid ytoedd yn dy veddiant? paam y gesodeist y peth hyn yn dy galon? Ny ddywedeist gelwyð wrth ddynion, amyn wrth Ddew.
5A’ pan glybu Ananias y geiriae hyn, y cwympodd y lawr, ac y diffoddes. Y no y daeth ofn mawr ar pavvb ol’ a glywoð hyn yma.
6A’ chyvody or gwyr ieuainc, a’ ei gymeryd i vyny, a’ ei ðwyn allan aei glaðy.
7Ac e ddeðyw megis ar ben yspait teirawr gwedy, bot yð y wreic ef ðyvot y mewn, eb wybot y peth a wnaethoeddit.
8Ac Petr a ddyvot wrthei, Dywait i mi, a werthesoch chwi yr tir er cymmeint? A’ hithe ddyvot, Do, er cymmeint.
9Yno y dyvot Petr wrthei, Paam y darvu y chwy gytuno yn eich plith i tempto Yspryt yr Arglwydd? nachaf, draet yr ei a gladdesont dy ’wr ynt wrth y drws, ac vvy ath cyhebryngant ti y allan.
10Ac yn ddiannot y dygwyddawdd i lawr wrth y draet ef ac hi diffoddes: dyvot o’r gwyr ieueinc y mewn, a’ ei chael yn varw, a’ ei dwyn allan, a’ hei chlaðy geir llaw hei gwr.
11Ac dyvot ofn mawr ar yr oll Eccles, ac yr oll ’r ei ’ry glywsent y pethae hyn.
12Ac val hyn drwy ddvvylaw yr Apostolon y dangosit llawer o arwyddion a’ thra rryveddodae ym‐plith y popul (ac ydd oeddent oll yn vnvryt ym‐porth Selef.
Yr Epistol ar ddydd S. Bartholomeus.
13Ac o’r lleill ny veiddiai nep ymwascy ac wynt: er hyny yr popul y mawrygei hwy.
14Hefyt, lliaws y rei oedd yn credy yn yr Arglwydd, ac yn wyr ac yn wrageð oedd yn tyfu vwywy,)
15yd pan ðugent y cleifion i’r heolyð, aei gesot mewn gwelyae a’ glwthae, y ny bei pe gwascot Petr, wrth ddyvot heibio, wascodi rryw vn o hanwynt.
16Ac e ddaeth hefeit lliaws allan or dinasoedd o y amgylch i Caerusalem, gan ddwyn, ’r ei afiach, a’ rei a gythrwblit gan yspryton aflan, ac y iacheit wy oll.
17Yno y cyvodes yr Archoffeiriat, a’r oll ’rei oedd gyd ac ef (yr hwn ytoedd sect y Tsadduceit) ac yð oeddynt yn llawn bocsach,
18ac a ddodesont ddwylo ar yr Apostolion, ac ei dodesont yn y carchar cyffredin.
19Eithyr Angel yr Arglwydd, o hyd nos agorawdd ddrysae yr carchar, ac y duc wy allan, ac a ddyvot,
20Ewch ymaith, a’ sefwch yn y Templ, a’ llavarwch wrth y popul oll ’airie’r vuchedd hon.
21Wythe pan glywsant hynn yma, a aethant y mewn ir Templ yn vorae ac a ddyscesont y vverin. A’r Archoffeiriait a ddaeth, a’r ei oedd gyd ac ef, ac a alwesont y Cygcor yn‐cyt, ac oll Henafieit plant yr Israel, ac a ddanvonesont rei ir carchar i beri y dwyn wy.
22Anid pan ddaeth y swyddogion, ac eb y cahel hvvy yn y carchar, ymchwelyt a’ manegy a wnaethant,
23gan ddywedyt, Diau gahel o hanam ni y carchardy yn gaead yn dra diescaelus, a’r ceidweit yn sefyll allā, rac y drysae: eithyr gwedy i ni ei agori, ny chawsom ni neb y mewn.
24Yno gwedy ir archoffeiriat, ac llywodraethwr y Tēpl, a’r Archoffeiriait glywed y pethae hynn, petrusaw am danwynt a wnaethant, pa beth a vyddei o hyn.
25Yno yd aeth vn, ac a venagawdd yð‐wynt, gan ddywedyt, Nachaf, y gwyr y ddodesoch yn‐carchar ynt yn sefyll yn y Templ, ac yn dyscy yr popul.
26Yno ydd aeth y llywyawdraethwr ef a’r swyddogion, ac y duc hwy yn ddysarhaet, (can ys yð oedd arnwynt ofn y popul, rac y llapyðit wy)
27A’ gwedy yðwynt y dwyn hwy, wy ei gesodesont ger bron y Cygcor, a’r Archoffeiriat a ovynawdd yddwynt,
28gan ðywedyt, A ny orchymynesam ni yn gaeth ychwy, na ddyscech nep yn yr Enw hwnn? ac wele ys darvu ychwy lanwy Caerusalem aeich dysc, a’ chwi vynnech ddwyn gwaet y dyn hwnn arnam.
29Yno Petr a’r Apostolon atebesant, ac a ddywedesont, Dir yw yni vfyddhay yn vwy i Ddew nac i ddynion.
30Dew ein tadae a gyvodes Iesu y vyny yr hwn a laddeso‐chwi, ac a grocessoch ar brenn.
31Hwnn a dderchavodd Dew a ei ddehaulaw, i vot yn Dywysawc ac yn Iachawdur, y roddy ediveirwch ir Israel, a’ maddeuant pechatae,
32Ac ydd ym ni yn testion iðo am y pethae hyn y ddywedwn: ac hefyt yr Yspryt glan, yr hwn a roddes Dew ir ei a vfyðaant iddo.
33A’ phan glywsant wy hyn, wy doresōt ar ei traws rac dic, ac ymgygcoresont yvv lladd hwy.
34Yno y cyvodes y vynydd yn y Cygcor neb Pharisai, a’ ei enw Gama‐liel, athro or Ddeddyf, vn parchedic gan yr oll popul, ac a ’orchymynawdd beri enciliaw ar Apostolon allan ychydigyn,
35ac a ddyvot wrthwynt, Hawyr yr Israelieit, edrychwch arnoch eich hunain pa beth a wneloch am y dynion hynn.
36Can ys o vlaen y dyddiae hynn, y cyfodes vn Theudas, gan ymffrostio, ac attaw yr ymwascawdd o rivedi gwyr, yn‐cylch petwar‐cant, ac ef a las: ac wynt y oll oedd yn coelio iddaw, a ’oyscarwyt, ac a ddiddimiwyt.
37Yn ol hwn y y codes Iudas o’r Galelaia, yn‐dyddiae yr teyrnget, ac ef a droses bopul liosawc yn ei ol: ef e hevyt a gyfergollwyt, a’ chynniuer ac a gydsynniawdd ac ef, a hylltranwyt.
38Ac yr awrhon y dywedaf wrthych, Enciliwch y wrth y dynion hynn, a’ gedwch yddwynt lonydd: cans ad yw yr cygcor, hyn ai weithred hon o ddynion, ei goyscerir:
39eithr a’s o Ddew y mae, ny ellwch ddim oi ddinistrio, rac bot eich caffael yn ymladdwyr‐yn‐erbyn‐Dew.
40A’ chytuno ac ef a wnaethāt, a’ galw yr Apostolon: a’ gwedy yðwynt beri ei fustaw, y gorchymynesont na lauarent yn enw yr Iesu, a’ ei gellwng ymaith a wnaethant.
41Ac wynteu aethant ymaith o geyr bron y Cygcor, gan ymlawenhay can ys ei teilyngy y gael ei amperchi dros y Enw ef.
42Ac beunydd yn y Templ, ac o duy y duy ny pheidiasant a dyscy a’ phregethy o Iesu y Christ.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.