Galatieit 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen iiij.Dangos y mae paam yr ordiniwyt y

ceremoniae. Yr ei ac hwy yn wascodae a orvyð yddyn dervynu pan ddel Christ y disglaer wirionedd. Mae ef yn y hanoc wy drwy ryw gygcorion, Ac yn cadarnhau ei ddadl ac esempl gadarn neu ddamec.Y Sul gwedy Natalic

1WEithian meddaf, tra vo’r etivedd yn vachcen, nyd oes gohāieth rhyngto a gwas, cyd bod ef yn Arglwydd pawp dim,

2eithr y mae ef y dan ymgleddwyr a’ llywodraethwyr, yd y pryd a ’osodes y tat:

3Ac velly ninheu pan oeddem vechein, oeddem yn gaithion y dan y gwyddorion y byt.

4Eithr gwedy dyvot cyflawnder yr amser, yd anvones Duw ei Vap yn wneuthuredic o wreic, ac yn wneuthuredic y dan y Ddeddyf,

5val y prynei ef yr ei oedd y dan y Ddeddyf, val y gallem dderbyn y braint mabwrieth.

6A’ chan eich bot yn veibion, yd anvonawdd Duw Yspryt ei Vap ich calonheu, rhvvn ’sy yn llefain, Abba, Dat.

7Ac velly nyd wyt mwy was, amyn map: ac a’s map, yr vvyt hefyt yn etiuedd i Dduw trwy Christ.

8Sef y pryd, nad adwaenechvvi Dduw, y gwasanethech yr ei, wrth anian nyd yyn dduwieu.

9Ac yr awrhon a chwi yn adnabot Duw, and yn hytrach yn adnabodedic gan Dduw, pa wedd yr ymchwelesoch drachefn at egwan a’ thlodion ’wyddoreu, yr ei y mynwch ymgaethiwo yddynt drachefn yn eich gwrthgarn?

10Cadw diernodie yð ych, a’ misoeð, ac amseroedd, a’ blynyddedd.

11Mae arnaf ofn am dano’ch, rac darvot i mi lafurio wrthych yn over.

12Byddwch val vyvi: can ys mivi ’sydd val chwichvvi: broder, atolwc yw’ch: ny wnaethoch ddim eniwed i mi.

13A’ gwyddoch, pan‐yw trwy wendit y cnawt yr evangelais ywch y waith gyntaf.

14A’ phrawfiad o hanof yr hyn oedd yn vy‐cnawt, ny ðirmigesoch, ac ny ’omeddesoch: anyd val Angel Duw, ie val Christ Iesu im derbyniesoch.

15Pa vn yno oedd eich dedwyddwch? can ys ydd wy’n test ywch, pe besei possibil, y tynnesech allan eich llygait, ac y rhoesech i mi.

16Aethym i gan hyny yn ’elyn ywch, o bleit i mi ddywedyt y gwir ywch?

17Y maen hwy yn eiddigedus drosoch nyd yn iawnvodd: eithr hwy vynent eich cau chvvi allan, val y bei chwi vot ac eiddigedd am danynt wy.

18Eithr peth daonus yw cwbl garu yn wastad ym‐peth daonus, ac nyd yn vnic pan wyf wydd‐yn‐gwydd a’ chwi,

19vy‐plant‐bychein, yr ei ’rwyf eilwaith yn eu hescor, yd y’n y ffurfer Christ ynoch.

20A’ mynnwn vy‐bot y gyd a chwi yr awrhon, val y gallwn newidio vy llef: can ys petrusaw ydd wyf am danoch.

Yr Epistol y iiij. Sul yn y Grawys

21Dywedwch i mi, yr ei a vynnwch vot y dan y Ddeddyf, a ny chlywch y Ddeddyf?

22Can ys mae’n yscrivenedic, vot i Abraham ddau vap, vn o wasanaethwreic, ac vn o’r wreic‐rydd.

23Eithyr hwn oedd o’r wasanaethwyr, a anet erwydd y cnawt: a’ hwn oedd or wreic rydd, a aned wrth yr addewit.

24Wrth y petheu hyn y dyellir peth arall: can ys mamæ hyn yw’r ddau Testament, vn yr hon yw Agar o vynyth Sina, ’sy yn cenedlu i gaethiwed

25(cā ys Agar neu Sina mynyth yw yn Arabia, ac y maeyn cyfatep i Gaerusalem ys yd yr awrhō) ac y mae yn gaeth hi ai phlant.

26Eithr Caerusalem vchod y sy rydd: yr hon yw ’n mam ni oll.

27Can yscrivenedic yw, Llawenha dydi ddiepil yr hon nyd wyt yu planta: tor allan a’ llefa, yr hon nyd wyt yn escor: can ’ys ir ddiffaeth y mae mwy o lawer o blant, nac i hon sy a gwr yddi.

28Can hyny vroder, ydd ym ni vnwedd ac Isaac, yn plant yr addewit.

29Eithr megis y pryd hyny hwn a anet erwydd y cnawt, a ymlidiai yr vn a aned erwydd yr yspryt, ac velly yr awrhon.

30Eithr pa ddywait yr Scrythur? Bwriwch allan y wasanaethwreic hi a’i map: can na bydd map y wasanaethwreic yn etiuedd gyd a map y vvreic rydd.

31Can hyny vroder, nyd ym ni veibion y wasanaethwreic, anyd y vvreic‐rydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help