Philippieit 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.S. Paul yn dynoethi ei galon tu ac atynt, Wrth roi diolwch, Gweddiae, A’ damuniadae dros ei ffydd a’i hiechydwrieth. Dangos y mae ffrwyth ei

groc, Ac yn ei hanoc i gyntundep, A’ dyoddefgarwch.

1PAul a’ Thimotheus gweisiō Iesu Christ, at yr oll Sainctæ yn‐christ Iesu’r ei’sy yn Philippi, y gyd ar episcopiō, a diaconieit:

2Rat vo gyd a chwi, a’ thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwyð Iesu Christ.

Yr Epistol y xxij. Sul gwedy Trintot.

3Im Duw y dyolchaf gan i mi eich cwbl gofio,

4(bop amser yn veu oll weddiae y drosoch oll, gan weddiaw gyd a llawenydd)

5o bleit y gymddeithas y sydd y chwi yn yr Euangel, o’r dydd cyntaf yd yr awrhon.

6Ac y mae yn gredadwy genyf hyn yma, pan yw hwn a ðechreoð y gwaith da hyn ynoch, ei gorphen yd yn‐dydd Iesu Christ,

7megis y mae yn iawn i mi synnied hyn am danoch oll, can ys eich bot yn vy‐calon yn gystal yn veu rhwymae ac yn veu amndeffen, a’ chadarnhad yr Euangel, nyd amgen eich bot chvvi oll yn gyfranogiō a mi o’m rhat.

8Can ys Duw yn test ymy, mor orhoff genyf chwychvvi oll o eigiawn ve‐calon in Iesu Christ.

9A’ hyn a weddiaf, ’sef ar amplhau och cariat etwo vwyvwy yn‐gwybyddiaeth, a’ chwbl ddyall,

10mal y metroch ddosparthu y petheu y bo gohanieth rhyngthynt i gilydd, a’ bot yn puredigion, ac yn ddidramgwyð, yd yn‐dydd Christ,

11wedy eich cyflawny o ffrwytheu cyfiawnder, yr ein ’sy ynoch trwy Iesu Christ er gogoniant a’ moliant y Dduw.

12 Mi a wyllysiwn i chwi wybot, vroder, am y petheu a ddigvvyddavvdd i mi, a daethont yn hytrach yn rhwyddiant ir Euangel,

13val y mae veu rhwymeu i yn Christ yn eglaer yn‐cwbl o’r Orsedd, ac yn oll lleodd eraill,

14yd y n ydyw llawer o’r broder yn yr Arglwydd yn hyderusach o blait veu rhwymeu i, ac yn llyfasu yn ddiofnusach draythu’r gair.

15Rei a precethant Christ ’sef drwy genvigen, ac ymryson, a’r ei hefyt o wyllys da.

16Y’n aillplaid yn precethu Christ o gynnen ac nyd yn burol, gan dybied dwyn mwy o vlinder im rhwymeu.

17A’r blait arall o gariat, gan wybot vy‐dodi i yn carchar er amddeffend yr Euangel.

18Beth er hyny? eto Christ a bregethir ym‐pop modd, pa vn bynac vo ai o ryw liw, nai yn gywir: ac y mae hyny yn llawen genyf, ac a vydd llawen genyf hefyt.

19Can ys‐gwn y treigla hynn yn iechedvvrieth i mi, trwy eich golochwyt chvvi, a thrwy ganhorthwy Yspryt Iesu Christ,

20erwydd veu llwyr ddysgwiliad, a’m gobaith, yn‐dim na’m gwradwydder, eithyr o gwbl hyder, val bop amser, velly yr awrhon y mawrygir Christ yn veu‐corph, i pa vn bynac vo ai gan vywyt ai gan angeu.

21Can ys Christ ys ydd i mi pop vn ym‐bywyt, ac yn angeu yn enilliat.

22Ac ai byw yn y cnawt vyddei lesad i mi, a’ pha beth a ddetholaf ny’s gwn.

23Can ys mae yn gyfing arnaf o’r ddautu, gan ddeisyfu vy‐datdod a’ bot y gyd a Christ, yr hyn ’sy oreu dim.

24Eithr aros yn y cnawt, ’sy yn vwy angenraidiol och pleit chwi.

25A’ hynn a wn yn ddilys, yr arosaf, ac y cydtrigaf y gyd a chwi oll, er buddiant y’wch a’ llawenydd ich ffydd,

26val y bo yn lliosawc eich gorvoledd in Iesu Christ dros‐y‐vi, gan vy‐dyvodiat atoch drachefn.

27Yn vnic ymddugwch, val y mae addas er Euangel Christ, pan yw ai delwyf a’ch gwelet, ai bwyf absent, bot i mi glywet ywrth eich negesae a’bod y’wch sefyll yn vn yspryt ac yn vn eneid gan ychvvy gydymdrech trwy ffydd yr Euangel.

28Ac yn‐dim nac ofnwch gan eich gwrthnepwyr, yr hyn ’sy yddynt wy yn argoel cyfercolledigeth, ac y chwitheu o iechedwrieth, a’ hyny gan Dduw.

29Can ys y chwy y rhoespwyt er Christ, nyd yn vnic vod ywch gredu ynddo ef, anyd hefyt dyoðef erddo,

30gan vod ychwy yr vn ymdrino, a’r a welsoch yn‐y‐vi, ac yr awrhon a glywch vot ynof’.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help